主播大秀

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Boddi mewn geiriau

Vaughan Roderick | 13:44, Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2009

Mae 'na ormod i ddarllen yn job yma weithiau! Cyhoeddwyd argymhellion Comisiwn Holtham ynghylch dyfodol fformiwla Barnet ac ymateb y Pwyllgor Dethol i'r LCO iaith o fewn munudau i'w gilydd.

Yn achos Holtham mae'r fethodoleg yn gymhleth. "Out of my pay bracket" fel y byddai'r Arlywydd Obama yn dweud! Serch hynny mae'r casgliadau yn ddigon hawdd eu deall. Yn ol Holtham mae 'na beryg y bydd Cymru yn derbyn llawer llai o arian o ddefnyddio fformiwla Barnett na phe bai'n cael ei thrin fel un o ranbarthau Lloegr. Faint yn llai? 拢8.5 biliwn, sef 拢2,900 y pen, dros y ddegawd nesaf.

Sefydlwyd y Comisiwn o ganlyniad i Gytundeb Cymru'n Un er gwaethaf ofnau rhai gweinidogion Llafur y gallai'r cynulliad dynnu nyth cacwn ar ei ben trwy ail-agor y ddadl ynghylch Barnett. Mae'n ymddangos y gallai'r gwrthwyneb bod yn wir.

O safbwynt yr LCO iaith mae adroddiad y Pwyllgor Dethol yn ddamniol. Mae aelodau'r pwyllgor yn ddigon parod i drosglwyddo pwerau deddfu ynghylch yr iaith i'r cynulliad ond maen nhw o'r farn bod y gorchymyn presennol yn afresymegol a mympwyol. Mae'r pwyllgor yn gofyn, er enghraifft, pam fod cwmn茂au telathrebu yn cael eu cynnwys yn yr LCO ac nid banciau?

Mae'r ateb i'r cwestiwn yna a rhai o gwestiynau eraill y pwyllgor yn ddigon syml. Ffrwyth cyfaddawdu'r yw'r LCO, cyfaddawdu yn gyntaf rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Bae ac yna cyfaddawdu pellach rhwng Llywodraeth y Cynulliad a Paul Murphy yn Swyddfa Cymru. Ta beth, mae'r pwyllgor am i'r gorchymyn gael ei ail-ddrafftio'n llwyr ac yn dymuno cael cyfle i'w ystyried eto ar ei newydd wedd.

Digon teg, efallai. Ond mae'r cloc yn tician. Un mis ar ddeg man pellaf sy 'na cyn yr Etholiad Cyffredinol ac os nad yw'r senedd wedi cymeradwyo'r cais cyn hynny fe fydd yn rhaid mynd yn 么l a dechrau'r holl broses eto.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:29 ar 7 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Dewi:

    "Ond mae'r cloc yn tician. Un mis ar ddeg man pellaf sy 'na cyn yr Etholiad Cyffredinol ac os nad yw'r senedd wedi cymeradwyo'r cais cyn hynny fe fydd yn rhaid mynd yn 么l a dechrau'r holl broses eto."

    Pam?

    (Ac i fod yn bedantaidd geeklyd dywedodd Obama "Above my paygrade"...)

  • 2. Am 16:39 ar 7 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Nid oes modd cario LCO drosodd o un senedd i'r nesaf. Mae'n rhaid mynd yn ol i gychwyn y broses. Fe fydda'n bosib, wrth gwrs, gyflymu'r broses trwy fynd trwy rai o'r camau'n ffurfiol heb fawr o drafodaeth...ond mae'n rhaid cymryd pob cam eto a chyda newid llywodraeth yn San Steffan yn bosib, gallai'r broses fod yn un hir.

  • 3. Am 22:28 ar 7 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Emyr Lewis:

    Rwyf wedi bod yn crafu pen am y cymal canlynol o adroddiad y Pwyllgor Dethol ar ELCO鈥檙 iaith Gymraeg:

    110. We are of the view that powers relating to the Welsh language should be transferred to the Assembly, but only on the basis of legislative precision. This would benefit both the Assembly, by providing a solid legislative foundation for its Measures, and those who will be subject to the legislation, by providing them with clarity and a degree of certainty. It is for the Welsh Assembly Government to propose draft legislation, which we then scrutinise, but we have given some consideration to how the scope of the proposed Order can be improved. We suggest that a more sophisticated and appropriate way of dealing with the issues of definition would be for this Order to contain clear principles against which the Assembly Measures can be tested. One way to achieve this would be for the Welsh Assembly Government to insert in this draft Order tests that have to be met by any Measure subsequent to this LCO, rather than trying to insert definitions themselves in the text. These might include a test of reasonableness, a test of proportionality, and a consideration of the cost to demonstrate that the application of any Measure to particular bodies or organisations will, in the long term, provide a cost-effective benefit to the public in terms of the use of the Welsh language. This would mean that instead of the Order defining those who will be affected by subsequent Measures there is greater clarity of purpose and definition of what is to be achieved, leaving it to any individual Measure to provide a definition that satisfies those tests.

    Os d毛ellais hyn yn iawn, mae'r Pwyllgor yn awgrymu y dylai鈥檙 ELCO gynnwys cymal sy鈥檔 dweud y bydd yn rhaid i unrhyw Fesur a wneir gan y Cynulliad mewn perthynas 芒鈥檙 iaith Gymraeg gwrdd 芒 rhai meini prawf penodol, cyn iddo fod yn ddilys.

    Ymddengys hyn yn awgrym mwy chwyldroadol hyd yn oed na鈥檙 awgrym yn yr ELCO tai fforddiadwy y byddai angen cyd-syniad Ysgrifennydd Cymru ar gyfer caniat谩u rhai mathau o Fesurau.

    Y cwestiwn cyntaf gen i yw a yw hyn yn ddilys dan Ddeddf Llywodraeth Cymru? Mae鈥檙 Ddeddf honno yn gosod ffiniau cyffredinol na all y Cynulliad eu croesi (e.e. ni all ddiwygio鈥檙 Ddeddf Hawliau Dynol). Pe bai angen cynnwys rhyw faen prawf cyffredinol ar gyfer deddfwriaeth, fel 鈥渞hesymoldeb鈥, yna byddai rhywun wedi disgwyl gweld hynny ar glawr y Ddeddf ei hun.

    Mae鈥檙 prif gwestiwn gen i, fodd bynnag, yn un egwyddorol, yn ymwneud 芒 natur y setliad presennol. Os cynhwysir geiriau o鈥檙 fath a awgrymir, yna bydd modd herio Mesur mewn Llys Barn ar y sail nad yw鈥檔 rhesymol, a鈥檌 fod felly tu hwnt i rym deddfu (neu gymhwysedd deddfwriaethol) y Cynulliad.

    Mewn geiriau eraill, byddai penderfyniad Barnwr o鈥檙 hyn sydd yn rhesymol yng nghyd-destun deddfu mewn perthynas 芒鈥檙 iaith Gymraeg yn drech na barn Cynulliad etholedig Cymru.

    Mae鈥檔 bosib 鈥榤od i wedi cam-ddeall, ac os felly byddwn yn falch o wybod a oes barn arall ar y mater.

  • 4. Am 23:52 ar 7 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Emyr, ydy OFN? yn gyfieithiad synhwyrol o OMG? Fe fydd yn rhaid i fi feddwl cyn cynnig ymateb!

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.