Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pum munud o enwogrwydd

Vaughan Roderick | 23:00, Dydd Mercher, 22 Gorffennaf 2009

Mae gan bawb yr hawl i bum munud o enwogrwydd yn ôl Andy Warhol.

Fe gafodd Pedr Lewis ei bum munud pan heriodd Dafydd Elis Thomas am lywyddiaeth Plaid Cymru yn yr wythdegau. Roedd hi'n ddigon hawdd i bobol wneud sbort am ei ymgeisyddiaeth ond fe roddodd gyfle i bobol ei blaid gael trafodaeth agored am bynciau oedd yn poeni llawer.

Yn ôl fe fu farw Pedr heddiw yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont.

Fe fyddai Pedr wedi mwynhau'r eironi bod gweriniaethwr pybyr wedi gadael y byd yma mewn lle ac enw mor frenhinol!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 06:13 ar 23 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Ceri Jones:

    Pymtheg munud o enwogrwydd yw be wedodd Andy Warhol, Vaughan. Sori bod yn bedantig :)

  • 2. Am 08:24 ar 23 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Harri:

    Diolch am y neges yma. H.

  • 3. Am 11:24 ar 23 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Rwy'n rhoi'r bai ar chwyddiant!

  • 4. Am 00:50 ar 24 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd John Davies:

    Rwy'n cofio Pedr Lewis. Heddwch i'w lwch

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.