Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhagor o chwarae plant

Vaughan Roderick | 10:14, Dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2009

Dioch i bawb wnaeth gynnig ar gêm Myrddin ddoe. Dyma'r atebion;

Geiriau Myrddin

Calf; croth coes , Broom; banhadlen, Leeches; gelen, Collar bone; pont yr ysgwydd, Curlew; gylfinir

Geiriau "Democratiaeth Fyw"

Ladle; lletwad, Jay; sgrech y coed, Moustache; trawswch (ar ddyn) swch ddu (ar fenyw) , Tuning Fork; trawfforch, Barrel Organ; organ gelwrn.

Mae Idris yn gofyn am gyfieithiadau i ddau derm gwleidyddol sef "turnout" (mewn etholiad) ac "engage" (ee the Assembly is seeking to engage with children). Fe fyddai cyfieithiad i'r cyntaf yn fendith mae "canran wnaeth bleidleisio" yn drwsgl tu hwnt!

Fe wna i ychwanegu un gair arall sef "swing" (ee swing of 10%). Mae rhai (gyda fi yn eu plith) yn defnyddio "gogwydd" ond dyw hynny ddim cweit yn golygu'r un peth!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:40 ar 31 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Marc:

    "Moustache; trawswch (ar ddyn) swch ddu " - Tybed, felly, beth yw'r hanes tu ôl i'r ffaith fod yr addfwyn John Elfed Jones (Aliwmuniwm Môn gynt; Cadeirydd Bwrdd yr Iaith gynt) yn cael ei adnabod gan lawer wrth y llys enw "Swch".

  • 2. Am 14:52 ar 31 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Ani:

    Be am chwarae'r gêm y ffordd arall? Meddwl am eiriau Cymraeg sy'n anodd eu cyfieithu i'r Saesneg? Sgen i ddim awgrymiadau, ond neb i ddeud 'hiraeth'!

  • 3. Am 15:20 ar 31 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Nangogi:

    Oes gan rywun awgrym call ar gyfer 'capacity' - yn yr ystyr 'need to build capacity'? Dwi wastad yn cael trafferth gyda hwnna.

  • 4. Am 15:22 ar 31 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Syniad da Ani! Does dim gair Saesneg go iawn am gawl am wn i!

  • 5. Am 16:00 ar 31 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    I mi'n bersonol dwi byth, byth bythoedd yn gwybod be ydi rwdan yn Saesneg, hyd yn oed wrth 'sgwennu hwn 'sgen i ddim clem!

    Mae 'baw ci' yn un arall - dwi'n meddwl efallai 'dog waste' fyddai'r cyfieithiad arferol, ond dydi o dal ddim yn swnio'n iawn i mi.

    Un bach diddorol (ond wn i ddim o ba iaith i'r llall mewn difri) ydi nad oes cyfieithiad uniongyrchol o Welsh Rarebit - caws ar dost ydi'r Gymraeg!

  • 6. Am 16:05 ar 31 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dydw i ddim yn gallu meddwl am derm sy'n cyfleu union ystyr "malu cachu" chwaith a chan fy mod yn feistr ar y grefft...

  • 7. Am 00:46 ar 1 Awst 2009, ysgrifennodd Dewi:

    "Cwtsh", "Anibendod"

  • 8. Am 19:47 ar 1 Awst 2009, ysgrifennodd Dan Din:

    Beth yw jellyfish yn Gymraeg? Sglefren for? neu oes enw arall cynhenid a gwell?

  • 9. Am 20:40 ar 5 Awst 2009, ysgrifennodd ceri jones:

    Mae 'didoreth' yn air diddorol. Ti'n ei glwad e lot fwy yn Saesneg pobol y Cymoedd nag wt ti'n ei glwad e yn eu Cymraeg!!

  • 10. Am 23:00 ar 5 Awst 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Gwir y gair!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.