Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Gwir Iforiaid

Vaughan Roderick | 11:08, Dydd Gwener, 17 Gorffennaf 2009

Fel enwau bron pawb arall mae enwau'r rhan fwyaf o wleidyddion yn mynd yn angof yn hwyr neu'n hwyrach. Ychydig iawn sy'n fwy nac ôl-nodyn yn y llyfrau hanes. Ond mae ambell un yn sicrhau rhyw fath o gofeb wrth i'w enw gael ei gysylltu â rhyw ddatblygiad neu'i gilydd. Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un yn galw dyddiau hyfforddiant mewn swydd yn "Baker days" bellach ond mae goleuadau'r hen Leslie Hoare-Belisha yn dal i oleuo'n croesfannau sebra.

Mae Joel Barnett yn 86 erbyn hyn ac mae'n gwestiwn agored p'un ai y bydd y fformiwla sy'n dwyn ei enw yn ei oroesi ai peidio. Dyw Arglwydd Barnett ddim yn dymuno iddi wneud. Mae fe wedi bod yn galw am ei newid ers degawdau.

Mewn gwirionedd does neb wedi cynnig dadl ddeallusol nac egwyddorol o blaid y fformiwla ers blynyddoedd. Mater o gyfleustra oedd ei chadw. "Be careful what you wish for" oedd mantra Andrew Davies a Peter Hain wrth drafod y fformiwla. Roedd y mantra hwnnw'n seiliedig ar ofn cwbwl dealladwy sef y byddai cychwyn trafodaeth ynghylch y fformiwla yn arwain at ddrwgdeimlad yn Lloegr, drwgdeimlad a allai arwain at gwtogi gwariant cyhoeddus yng Nghymru. Y peryg oedd y byddai dicter Seisnig tuag at setliad yr Alban yn esgor ar doriadau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon hefyd.

Mae'n ymddangos bod yr ofn hwnnw'n ddi-sail yn sgil cyhoeddi adroddiad Pwyllgor Dethol yr Arglwyddi. Mae hwnnw'n datgan yn eglur bod Caeredin ar ei hennill a Bae Caerdydd a Belfast ar eu colled o dan y drefn bresennol a bod angen ei newid.

Pwy felly oedd yn gyfrifol am sicrhau nad oedd buddiannau Cymru cael eu hanwybyddu wrth i'r Saeson a'r Albanwyr glatsio ei gilydd?

Dyw e ddim yn gyd-ddigwyddiad yn fy marn i mai Arglwydd Ivor Richard (cadeirydd Comisiwn Richard) yw cadeirydd y Pwyllgor Dethol. Bois da yw bois Rhydaman!

Ar ôl glynu at ei fantra am flynyddoedd mae'n ddiddorol gweld bod Peter Hain bellach yn rhoi'r gorau i ganu ei dôn gron. " Mae'n bryd i ni edrych ar y fformiwla er mwyn sicrhau bod Cymru'n cael chwarae teg yn y dyfodol" yw'r lein newydd.

Prif argymhelliad Pwyllgor Arglwydd Richard yw sefydlu comisiwn annibynnol i bennu lefelau gwariant cyhoeddus yn y gwledydd datganoledig. Yr "UK Finance Commision" yw'r enw trwsgl sy'n cael ei gynnig ar gyfer y corff hwnnw. Mae gen i well syniad. Yr "Ivor"!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.