Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ailgylchu

Vaughan Roderick | 18:03, Dydd Iau, 6 Awst 2009

Doeddwn i ddim yn nabod yr athrawes y bu farw mewn damwain bws yng Nghaerdydd. Mae'r cannoedd o deyrngedau iddi ar yn ddirdynnol. Maent hefyd yn adlewyrchu'r cymdeithasau cynnes a chlos y mae hi ac eraill wedi eu hadeiladu wrth gynnu tân ar hen aelwyd y Gymraeg yn ysgolion y de-ddwyrain.

Rhai blynyddoedd yn ôl pan oedd y blog yma o hyd yn golofn fe gollais gyfaill agos mewn damwain car. Roedd yntau hefyd yn athro ac roeddwn yn meddwl amdano ar ôl darllen negeseuon trist disgyblion "Miss Bedwyr".

Colli Ffrind Mawrth 2007

Bu farw fy nghyfaill, David Knight. Cafodd ei ladd mewn damwain car ger Pont Abraham.
Doeddwn i ddim wedi ei weld ers peth amser

Roeddwn i mewn siop pan gefais alwad gan blismon wnaeth esbonio bod David wedi bod mewn damwain ac yn gofyn a oeddwn yn gwybod am rhif i gysylltu a'i frawd. Doedd gen i ddim rhif ond cynigiais gyfeiriad mam David i'r swyddog. Roedd ei ymateb yn adrodd cyfrolau am agwedd ymroddedig ein gweision cyhoeddus.

Esboniodd fod yr heddlu eisoes yn gwybod cyfeiriad ei fam ond oherwydd ei bod hi'n oedrannus roeddynt yn mynd allan o'i ffordd i dorri'r newydd i aelod arall o'r teulu yn gyntaf. Hynny yw, er gwaetha'r holl bwysau arnynt, roedd plismyn Dyfed-Powys nid yn unig am wneud eu dyletswydd ond roedden nhw am wneud hynny yn y modd mwyaf sensitif posib. Hyd yn oed os oedd hynny'n golygu llwyth o waith ychwanegol.

Dyn fel yna oedd David hefyd. Cafodd ei fagu mewn tÅ· cyngor yng Nghefn Cribwr ger Pen-y-bont a'i genhedlaeth ef oedd y cyntaf o'i deulu i aros 'mlaen yn yr ysgol. Hanes oedd diddordeb mawr David ond roedd caniatau iddo astudio'r celfyddydau yn y chweched yn ormod o naid i'w dad. Rhaid oedd astudio rhywbeth defnyddiol, rhywbeth oedd yn arwain at swydd.

Felly astudio gwyddoniaeth gwnaeth David gan sicrhau swydd fel technegydd labordy mewn ysgol gyfun ym Mhen-y-bont. Yn y swydd honno sylweddolodd bod ganddo fwy o ddawn dysgu na llawer o'r athrawon yr oedd yn eu cynorthwyo. Ac yntau yn ei dridegau penderfynodd hyfforddi i fod yn athro i ddysgu nid gwyddoniaeth, ond ei wir ddileit.

Cafodd swydd fel athro hanes yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman. Roedd hynny yn ddigon iddo. Doedd gan y dyn addfwyn hwn fawr o uchelgais. Roedd rhannu ei frwdfrydedd dros hanes a chenedlaethau o blant Ddwyrain Sir Gaerfyrddin yn ddigon iddo.

A dyna ar y cyfan yw'n gweision cyhoeddus ni, boed yn athrawon, yn blismyn neu'n ddoctoriaid; pobol sy'n ceisio gwneud eu gorau dros eraill. Maen nhw'n grwgnach weithiau, yn rhwystredig yn aml ond ar ddiwedd y dydd y bobol yma yw sylfaen ein cymdeithas.

Mae'n hawdd i ni ym Mae Caerdydd anghofio hynny weithiau gyda'r holl gemau gwleidyddol, y pwyllgorau, yr is-bwyllgorau a'r adolygiadau. Sylfaen y gwasanaethau cyhoeddus yw eu gweithwyr; y bobol sy'n gweithio dros bobol. Ac roedd David Knight yn un o'r goreuon.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:52 ar 7 Awst 2009, ysgrifennodd Harri:

    Chware teg i ti Vaughan - mae dy eiriau caredig am dy gyfaill yn adrodd cyfrolau.
    Ddoe bum ym Mhabell y Dysgwyr yn Eisteddofd y Bala - cystadleuaeth darllen blog. Roedd o leia dau o'r cystadleuwyr yn darllen dy sylwadau di gan wneud hynny'n raenus iawn. llongyfarchiadau!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.