Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ailgylchu Mehefin 2008

Vaughan Roderick | 08:15, Dydd Mercher, 19 Awst 2009

O ystyried y penderfyniad i gwtogi ar gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yng nghofnod y Cynulliad mae ail-gyhoeddi'r erthygl yma o 2008 yn amserol. Er fy mod ar wyliau mae'r sylwadau ar agor.
arwydd.jpg
Ebill Deudwll

Doedd gen i ddim clem beth oedd ystyr "ebill deudwll". Os oeddwn yn gorfod mentro byswn wedi tybio ei fod naill ai'n gymeriad o'r Mabinogi neu'n ddisgrifiad o weithred aflednais yn un o gywyddau Dafydd ap Gwilym. Yn anffodus mae'r ystyr yn llai diddorol na hynny. Mae'n debyg mai "ebill deudwll" yw enw'r teclyn bach hwnnw sy'n gwneud dau dwll ar ochor tudalen. Wrth gwrs taw e ...ebill ...deudwll. Mae'n amlwg wrth feddwl am y peth!

Ebillion deudwllaidd y byd yma sy'n rhannol gyfrifol am ffenomena y mae bron pob un ohonom yn gyfarwydd â hi. O bryd i gilydd mae'r rhan fwyaf ohonom yn gweld yr angen i fwrw golwg ar fersiwn Saesneg rhyw ffurflen neu daflen i ddarganfod beth ar y ddaear yw ystyr rhyw air neu derm yn y fersiwn Gymraeg. Dyna yw'r rheswm mae'n debyg bod cymaint ohonom yn dewis darllen a defnyddio dogfennau Saesneg hyd yn oed os ydy'r Gymraeg yn iaith gyntaf i ni.

Mae'r arfer hynny wedi darbwyllo ambell i wleidydd bod yr holl gyfieithu yma'n wastraff arian. Oni fyddai'n well gwario'r arian ar fesurau eraill i gryfhau'r Gymraeg- papur dyddiol, dyweder, neu grantiau i ysgolion meithrin a dosbarthiadau dysgwyr?

Mae awgrymiadau o'r fath ychydig yn naïf gan awgrymu bod ariannu'r iaith yn rhyw fath o "zero sum game" hynny yw bod 'na swm penodol digyfnewid i wario ar yr iaith. Yr hyn sy'n bwysig meddir yw gwario'r arian hwnnw yn y modd mwyaf effeithlon posib.

Mewn un ystyr mae'n debyg i'r ddadl yn erbyn datganoli yn ôl yn y saithdegau. Dro ar ôl tro roedd arweinwyr yr ymgyrch "Na" yn taranu am faint o beiriannau arennau y byddai'n bosib eu prynu am gost y cynulliad arfaethedig. Wel, fe bleidleisiodd Cymru yn erbyn datganoli yn 1979 a hyd y gwn derbyniodd yr un ysbyty beiriant arennau o ganlyniad i'r bleidlais honno. Yn yr un modd dw i'n ei chael hi'n anodd credu y byddai caniatáu i'r adran drwyddedi ceir neu'r adran drethi gynhyrchu ffurflen uniaith Saesneg yn golygu y byddai aur yn llifo i gyfeiriad Cylch Meithrin Cwmsgwt.

Efallai fy mod yn benstiff ynghylch y pwnc yma ond pa hawl sy gan unrhyw gorff cyhoeddus i benderfynu ym mha un o ieithoedd cynhenid Prydain y dylwn i, fel trethdalwr, ddelio â nhw?

O fy mlaen, yr eiliad hon, mae copi o gytundeb Lisbon yn yr Iaith Wyddeleg. Oes 'na unrhyw un, naill yn Nulyn neu ym Mrwsel, a fyddai'n awgrymu am eiliad bod cynhyrchu'r ddogfen honno yn anghywir neu'n wastraffus? Go brin.

Y gwir amdani yw hyn. Gellir trin y Gymraeg fel iaith swyddogol neu fel rhyw fath o achos da i dderbyn cardod ar fympwy cyrff cyhoeddus. Ydy, mae'r llwybr cyntaf yn golygu cyhoeddi llawer o ddogfennau a thaflenni does bron neb yn eu darllen. Gydag unrhyw lwc, wrth i ni arfer ac ystyr termau fel "ebill deudwll", fe fydd hynny'n newid. Mae'r llwybr hwnnw yn un costus ond fe fyddai cymryd y llwybr arall yn gam peryglus yn ôl.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:18 ar 21 Awst 2009, ysgrifennodd Gareth Jones:

    Wrth gwrs mae'r penderfyniad i beidio a chyfieithu'r Cofnod yn codi cwestiwn arall, sef a ddylem gefnogi ymgais y Cynulliad am LCO am yr Iaith? Mae'r Cynulliad wedi dangos na ellir ymddyried ynddo i ddiogelu'r iaith, ac ni ellir yn bendant ymddyried yn Dafydd El a Chris Franks, y ddau aelod o Blaid Cymru ar y Comisiwn. Gan fod y Commisiwn am anwybyddu Cynllun Iaith y Cynulliad a ddim hyd yn oed wedi ymgynghori a'r Bwrdd Iaith pwy all ddibynnu arno i ddeddfu dros y Gymraeg? Roeddwn i'n frwd o blaid yr LCO erbyn hyn dw i ddim mor siwr!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.