Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

E.M.Y.N

Vaughan Roderick | 12:29, Dydd Iau, 13 Awst 2009

yup.jpg
Fe wnes i grybwyll gwefan Cymraeg rhagorol y dydd o'r blaen. Nawr dyma i chi wers ynghylch y ffordd na ddylai cwmnïau ddefnyddio'r Gymraeg i ddenu busnes.

Mae datganiad i'w wasg wedi cyrraedd gan gwmni Rightmobilephone.co.uk yn cynnig talfyriadau Cymraeg i'w defnyddio wrth ddanfon negeseuon bawd. Dyma rai ohonyn nhw.

LoL (Laugh out Loud) = CiMnF (chwardd i maes 'n fan)

BrB (Be right Back) = GLL (Gyda Llaw)

M8 (Mate) = C (chychwior)

OMG (Oh My God) = OMDD (o 'm dduw)

TVM (Thanks Very Much) = DDIL (ddiolch iawn lawer)

BFF (Best Friends for Ever) = ECF (Enilla Ceraint Forever)

BYOB (Bring Your Own Beer) = CCHAB (Chyrch 'ch addef Bir)

Y cyfan ddweda i yw EMYN! (Er mwyn y nefoedd!)

DIWEDDARIADMae tipyn o waith ditectif gan Alun Thomas yn awgrymu mai o'r safle cyfieithu awtomatig y mae'r erchyll bethau wedi dod. Mae 'na oriau o hwyl i gael yn fan hyn!

Er enghraifft mae'r safle yn argyhoeddedig mae'r cyfieithiad cywir o "God Save Our Gracious Queen" yw "Dduw achub 'n 'n dirion banon" ac mai "He is being old country me fathers dearly I" yw ystyr "Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi".

Yr "hun gwrymiau chydfod" yw'r "One Wales Agreement" gyda llaw.

Does 'na ddim llawer o waith yn mynd i ddigwydd 'ma heddiw!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:09 ar 13 Awst 2009, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Gweler fy sylwadau am y peiriant cyfieithu hwn . Dwi ddim yn meddwl fod unrhyw un yn mynd i lwyddo i dynnu'r peiriant dieflig yma oddi ar y we. Wrth gwrs os oedd rhywun fel y Ö÷²¥´óÐã yn ysgrifennu exposé ar y cwmni a'i meddalwedd gwarthus a gwallus, efallai fasen nhw'n ail-ystyried?

  • 2. Am 22:06 ar 13 Awst 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    O pe bai pethau mor hawdd! Dydw i ddim yn credu bod Ö÷²¥´óÐã Cymru mor rymus a hynny! Yn bersonol rwyf eisiau i'r wefan barhau- gyda arwydd enfawr "JUST FOR FUN"! Mae'n anodd gwybod p'un ai i lefain neu chwerthin weithiau!

  • 3. Am 10:55 ar 14 Awst 2009, ysgrifennodd Rhun:

    Beth sy'n fwy brawychus yw fod cynghorau sir yn defnyddio'r gwasanaeth cyfieithu yma ar gyfer cyfieithu swyddogol. Mae nain fy ngwraig yn byw ym Mlaenau Gwent ac ar un ymweliad a hi fe fe gawsom y sioc o weld fod ei bin ailgylchu gwastraff bwyd (ac felly mae'n siwr pob un arall yn y sir) wedi ei labelu 'Food waste only' yn Saesneg a 'Borthiant afrada ond' yn Gymraeg. Teipiwch 'food waste only' i mewn i'r wefan eich hun a gwelwch beth gewch chi!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.