Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pwy rydd i lawr wÅ·r mawr Mon ?

Vaughan Roderick | 14:14, Dydd Mercher, 12 Awst 2009

_44584363_wyn_jones.jpgFe fydd 'na ochenaid o ryddhad ar bumed llawr TÅ· Hywel wrth weld y ffigyrau diweithdra diweddaraf. Tra bod nifer y di-waith ar draws Prydain yn dal i gynyddu dal i ostwng mae'r nifer yng Nghymru.

Mae'n bosib mai cynlluniau Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am hynny neu efallai ein bod ychydig o fisoedd ar y blaen i rannau eraill o Brydain. Roedd Cymru yn un o'r llefydd cyntaf i deimlo gwyntoedd oer y dirwasgiad, hwyrach ein bod yn cael gwanwyn cynnar hefyd.

Does neb o'r llywodraeth yn clochdar gormod ynghylch y ffigyrau. Fe allai pethau o hyd newid. Serch hynny mae'r ffigyrau yn bluen yng nghap Ieuan Wyn Jones a hynny wythnosau'n unig ar ôl iddo ennill y frwydr hir dros drydaneiddio prif lein reilffordd y de.

Un o elfennau rhyfedd bywyd yn y cynulliad ar hyn o bryd bod 'na gorws o aelodau yn ochneidio gwae ynghylch perfformiad y dirprwy brif weinidog tra y byddai unrhyw sylwebydd niwtral yn barnu ei fod yn llwyddo wrth ei waith. Dyna o leiaf, mae'n ymddangos yw barn y dynion busnes ac undebwyr sy'n delio a'r gweinidog.

Does dim dwywaith bod gan y rheiny sy'n ymosod ar Ieuan gymhellion gwleidyddol ond mae 'na rywbeth mwy na hynny hefyd mewn ambell i achos. Dirmyg efallai, eiddigedd o bosib, casineb hyd yn oed. Yn sicr mae 'na ambell i aelod sy'n ei chael hi'n anodd cuddio eu malais wrth drafod arweinydd Plaid Cymru.

Roeddwn i'n trafod y peth gydag un o'r aelodau Ceidwadol y dydd o'r blaen, un o'r lleiafrif yn ei blaid sydd o'r farn bod Ieuan yn gwneud jobyn da. Problem Ieuan yn ôl yr aelod hwnnw yw ei fod yn ymddwyn fe pe bai'n ddi-hid ynghylch y cynulliad ac yn ystyried yr aelodau etholedig fel tipyn o niwsans. Pam arall y byddai''r gweinidog yn dewis mynychu cynhadledd yn hytrach na dadl yn y siambr neu'n dewis gwneud dim i dawelu eu beirniaid ar y pwyllgor cyllid?

Fe fydd y darlun yna'n gyfarwydd i'r aelodau hynny o Blaid Cymru sy'n edmygu gallu trefniadol eu harweinydd ond yn gresynu weithiau nad yw'n un sy'n gallu swyno'r adar o'r coed.

Yr unig beth ddweda i yw hyn. Gall unrhyw weinidog sy'n gallu brolio am gyflawniadau concrit fforddio anwybyddu rhegfeydd aelodau Llafur a cheisiadau FOI'r Democratiaid Rhyddfrydol fel ei gilydd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:08 ar 12 Awst 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Dwi o'r farn bod Ieuan yn cael gwell hwyl yn gweithio wrth ysgwydd rhywun arall. Roedd yn Drefnydd Busnes da i Wigley yn nyddiau cynnar y cynulliad ac mae yn ddistaw effeithiol gyfochr a Rhodri. Efallai nad oes carisma rhai aelodau ganddo ond mewn gwleidyddiaeth mae llawer gormod o bwyslais ar ddelwedd yn hytrach na sylwedd. O'i weithredoed y dylid mesur dyn ac ar hyn o bryd mae yn ddistaw effeithiol ac mae wedi llwyddo i oroesi ac atgyfodi.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.