Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sabulon a thir Nafftali

Vaughan Roderick | 12:56, Dydd Mawrth, 11 Awst 2009

allnat.jpgOs ydych chi'n gyfarwydd â Chaerdydd mae'n bosib eich bod wedi sylwi ar yr adeilad modern gyferbyn ac Ysbyty'r Brifysgol, adeilad sydd wedi ei amgylchynu gan faneri lliwgar gwahanol wledydd.

"Canolfan yr Holl Genhedloedd" yw'r adeilad, canolfan gynhadledda sydd ymhlith y mwyaf prysur a llwyddiannus yn y brifddinas. Fel y gwelwch o mae'n cynnig y cyfleusterau mwyaf modern mewn lleoliad digon hwylus.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud cryn ddefnydd o'r ganolfan. O ganlyniad i gais rhyddid gwybodaeth gan Ö÷²¥´óÐã Cymru rydym yn gwybod faint yn union y mae'r ganolfan wedi derbyn gan y llywodraeth dros y pum mlynedd diwethaf.

2004/05 £6,596.45
2005/06 £3,278.27
2006/07 £29,276.32
2007/08 £91,605.44
2008/09 £33,614.74

Nawr pe bai'r ganolfan yn fenter fasnachol fe fyddai modd codi cwestiynau ynghylch maint y defnydd ohoni. Wedi'r cyfan dyw'r cyfleusterau ddim mor wahanol a hynny i'r rheiny sydd ar gael am ddim yn NhÅ· Hywel neu mewn colegau a gwesteiau'r brifddinas.

Ond mae 'na gwestiynau pwysicach na hynny i ofyn yn fan hyn oherwydd mae eglwys yw "Canolfan yr Holl Genhedloedd" mewn gwirionedd. Mae fersiwn grefyddol gwefan y ganolfan yn

Nid Eglwys "paned y sgwrs" yw hon chwaith ond eglwys tân a brwmstan sy'n arddel daliadau cadarn a digyfaddawd. Dyma flas o gynnwys ei gwefan.

"The Bible is infallible: it does not mislead or deceive. It is completely trustworthy. It contains no errors or contradictions."

Teg yw cymryd bod yr anffaeledigrwydd hynny yn cynnwys yr hyn sydd gan Lefiticus a'r Apostol Paul i ddweud am ymddygiad hoyw.

Mae hon hefyd yn eglwys hefyd sy'n credu mewn siarad mewn tafodau. Gadewch i ni edrych ar y gwefan eto; "speaking in tongues is the ability to speak to God in a language you have never learned. It is the doorway to the supernatural"

Mae'r eglwys yn ddigon llewyrchus i allu cynhyrchu cylchgrawn sgleiniog "Tell" i dosbarthu o gwmpas cartrefi'r brifddinas. Ar dudalennau'r rhifyn presennol cawn ddysgu am achos rhyfeddol o iachâd trwy ffydd yn un o'i gwasanaethau;

"Three young boys were sent to me to place their hands upon my head... I was amazed to find that the pain had now diminished considerably...and in a few moments it was gone completely."

Beth mae'r eglwys y meddwl o'n gwleidyddion, tybed? Dyma sydd gan un o weinidogion yr eglwys, ,i ddweud.

"When a nation decides to turn its back on God it will inevitably forsake God's ways. Here in the UK, successive governments have introduced anti-biblical legislation. Our political leaders by and large are avowed atheists or agnostics".

Wrth gwrs dyw hynny ddim yn rheswm dros beidio derbyn eu harian!

Dyw'r eglwys ddim yn celu ei chysylltiad â'r ganolfan na'i daliadau. Mae'r cyfan uchod i'w gweld ar wefannau cyhoeddus yr eglwys. Oes unrhyw un yn y llywodraeth wedi trafferthu eu darllen?


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:08 ar 11 Awst 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Dwi'n fwy crefyddol na'r rhan fwyaf o bobl ond doedd Noa ddim yn 600 oed ar adeg y dilyw mawr - infallible wir!

  • 2. Am 15:02 ar 12 Awst 2009, ysgrifennodd Dylan Llyr:

    Dw i wedi sefyll arholiadau prefysgol yn yr adeilad felly cefais sioc gwpl o flynyddoedd yn ol wrth ddarllen am eu credoau crefyddol gwirion (a'n aml, cwbl afiach a gwrthun). Diolch am godi'r pwnc, Vaughan; er fel y noda mae'r wybodaeth i'w gael yn glir ar eu gwefan, sgwn i faint o bobl sy'n sylweddoli pa safbwyntiau mae unrhyw arian a roddir i'r sefydliad yma'n mynd ati i'w cefnogi.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.