Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Clustiau i wrando...

Vaughan Roderick | 20:33, Dydd Mawrth, 8 Medi 2009

kirsty.512.jpgDoes dim byd yn bod ar wrando. Dim byd o gwbl. Yn wir, byth ers dyddiau "Labour Listens" yn ôl yn yr wythdegau mae hi bron a bod yn ddefod i blaid gynnal taith gwrando yn sgil siom etholiadol. Gall hynny gynnwys cyfarfodydd traddodiadol fel "Cameron Direct", gimics fel taith gerdded Ieuan Wyn Jones neu hyd yn oed defnydd trawiadol o'r dechnoleg newydd. Oes 'na unrhyw un ar "Twitter", er enghraifft, sy ddim yn cael ei ddilyn gan Barack Obama?

Kirsty Williams yw'r diweddaraf i ddilyn y llwybr hwn gydag un cyfarfod wedi ei gynnal yn barod yng Nghaerfyrddin ac un wythnos nesaf ym Mhontypridd. Rwy'n cymryd mai prosiect hir- dymor yw hwn gyda'r bwriad o "blannu eglwysi" mewn ardaloedd lle nad yw'r blaid yn arbennig o gryf (Pontypridd) neu brin yn bodoli o gwbwl (Caerfyrddin).

Fe fyddai'n gamgymeriad i fuddsoddi gormod o ymdrech yn y gwaith yma, o leiaf rhwng nawr a'r etholiad cyffredinol. Mae gafael y blaid ar ei thair sedd seneddol yn y Canolbarth yn ddigon ansicr. Fe fydd ceisio eu cadw nhw i gyd yn her aruthrol. Fe fydd na 'alw mawr hefyd am adnoddau a gweithwyr yng Ngorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd dwy etholaeth y gallai'r blaid eu cipio.

O fewn y blaid ar lefel Brydeinig ar hyn o bryd mae 'na adwaith yn erbyn yr hyn sy'n cael ei alw'n "Rennardism" sef tactegau etholiadol yr hen brif weithredwr Chris Rennard. Un o gonglfeini'r strategaeth honno oedd canolbwyntio'n ddidrugaredd ar wardiau ac etholaethau oedd yn bosib eu hennill. Gyda etholiad anodd yn brysur agoshau fe fyddai'r blaid yn gall i beidio cefnu ar y rhan yna o'i strategaeth.

Mae angen i Kirsty feddwl am hyn. Meddyliwch os oedd y blaid yn colli Brycheiniog a Maesyfed o gan pleidlais. Sut y byddai Kirsty yn ateb y cwestiwn "beth ddiawl oeddech chi'n gwneud yng Nghaerfyrddin?" Fe fyddai'r cwestiwn yn gwbwl annheg ond fe fyddai'n cael ei ofyn ac yn anodd i'w ateb.

Fe fydd llwyddiant neu fethiant Kirsty fel arweinydd yn cael ei fesur yn gyntaf yn neuaddau cyfri Aberhonddu, y Drenewydd ac Aberaeron nid yn neuaddau a stafelloedd hanner gwag yng Nghaerfyrddin a Phontypridd. Fe fydd 'na hen ddigon o amser i wrando rhwng etholiad San Steffan ac etholiad y Bae. "Pawb at y pympiau" sydd angen ar hyn o bryd!

Diweddariad Mae'r blaid wedi ffonio i ddweud y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn etholaethau allweddol y blaid yn ogystal â llefydd eraill.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:36 ar 9 Medi 2009, ysgrifennodd jim cro crwstyn:

    Mae gan VR ragfarn yn erbyn y Rhyddfrydwyr (official).

    Pam yn y byd na all y Rhyddfrydwyr gynnal cyfarfod yng Nghaerfyrddin a Phontypridd ac hefyd ymgyrchu'n llwyddiannus yng Ngheredigion, Trefaldwyn a Brycheiniog. Dyw'r blaid ddim mor wanllyd na allith hi gyflawni dau beth yr un pryd. Petai Krispy'n cadw draw o Gaerfyrddin a Phontypridd dwi'n amau mai VR fyddai'r cyntaf i'w beirniadu am beidio lledaenu'r neges.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.