Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cylch Bywyd

Vaughan Roderick | 12:14, Dydd Llun, 7 Medi 2009

1999_dafyddwigley2.jpgMae 'na beryg mewn darllen gormod mewn i benderfyniad Dafydd Wigley i dynnu ei enw yn ôl o ystyriaeth fel aelod posib o Dŷ'r Arglwyddi. Mae "poeri gwaed" yn ddigon o esboniad!

Roedd penderfyniad Plaid Cymru i gyfaddawdu ei hegwyddorion ynghylch yr ail siambr yn un anodd.

Doedd hi ddim yn afresymol i blaid sydd wedi ei chynrychioli yn y siambr etholedig yn ddi-dor am bron i ddeugain mlynedd ddisgwyl y byddai Gordon Brown yn rhoi rhwydd hynt iddi gael ei chynrychioli yn y siambr uchaf. Fe fyddai hynny wedi'r cyfan yn ychwanegu at ddilysrwydd cyfansoddiadol y tŷ hwnnw. Mae'n sicr bod gweld Glenys Kinnock yn swancio i mewn i'r lle ar ôl gadael Senedd Ewrop wedi ychwanegu halen at y briw.

Y cwestiwn sy'n codi nesaf wrth gwrs a fydd Dafydd yn ceisio dychwelyd i'r Cynulliad? Rheolau'r blaid ynghylch gosod menyw ar frig ei rhestrau rhanbarthol wnaeth rhwystro ei ymgais i wneud hynny y tro diwethaf. Ni fyddai hynny'n broblem yn 2011 pe bai'n dewis ymgeisio ar restr y Gogledd. Fe newidiwyd y system yn sgil yr etholiadau diwethaf.

Y broblem yw nad oes 'na sicrwydd y bydd Plaid Cymru yn ennill yr un sedd rhestr yn y Gogledd y tro nesaf os ydy'r gefnogaeth i Lafur ar lefel etholaethol yn parhau i ddadmer. Fel yn y Canolbarth a'r Gorllewin mae'n ddigon posib mai gwobrwyon cysur Llafur fydd rhai o seddi rhanbarthol y Gogledd y tro nesaf.

Gallai Dafydd chwilio am sedd mewn rhan arall o Gymru wrth gwrs. Fe benderfynodd beidio gwneud hynny y tro diwethaf am resymau personol a theuluol. Pe bai'n teimlo'n wahanol y tro hwn mae 'na ambell i gyfle o gwmpas yn enwedig os ydy'r Ceidwadwyr yn San Steffan yn cadw at eu bwriad i ddiddymu'r gwaharddiad ar unigolion rhag ymgeisio am sedd etholaeth a sedd rhestr ar yr un pryd.

Mae Merthyr, lle wnaeth Dafydd gychwyn ei yrfa wleidyddol, yn un posibilrwydd. Fe fyddai'n rhyfeddod pe na bai uned datblygu newydd Plaid Cymru yn targedi'r etholaeth honno. Yn fwy atyniadol efallai fyddai etholaeth y gwnaeth Dafydd ei "hennill" yn etholiad Ewropeaidd 1994 sef Maldwyn. Gyda Mick Bates yn ymddeol hwyrach y bydd yn rhaid i'r Democratiaid Rhyddfrydol ail-baentio'r slogan "Wigley out" yna yng Nghomins Coch!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.