Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyma'r frwydr ola'i gyd...

Vaughan Roderick | 12:08, Dydd Mercher, 30 Medi 2009

_44380753_towermarchdragon300.jpgMae'r arwyddion yn ddigon eglur. Mae Aelodau Llafur y Cynulliad wedi eu gwahodd i gyfarfod o bwyllgor gwaith Llafur Cymru yfory. Does dim dwywaith mai'r cyfarfod hwnnw yw dechrau'r broses i ddewis rhyw un i fod yn... wel, i ddewis rhyw un i fod yn rhywbeth.

Mae 'na broblem fach, chi'n gweld. Er y bydd olynydd Rhodri yn cael ei ddewis gan y blaid Gymreig yn ei chyfanrwydd ac er y bydd y person hwnnw yn cael ei ddisgrifio gan y cyfryngau fel "arweinydd Llafur Cymru" dyw hynny, mewn gwirionedd, ddim yn gywir.

Dyw Aelodau Seneddol Llafur Cymru ddim yn poeni rhyw lawer am y peth ond rwyf wedi gweld rhai o'u cefndryd Albanaidd yn mynd yn gwbl wallgof o glywed yr arweinydd Llafur yn Holyrood yn cael ei ddisgrifio fel "arweinydd Llafur yr Alban".

"Gordon Brown yw arweinydd Llafur yr Alban a Llafur Cymru a phobman arall hefyd! Arweinwyr grŵp yw'r arweinwyr yng Nghaeredin a Chaerdydd" yw'r mantra cyson gan rai.

Yn dechnegol mae hynny'n gywir, dwi'n meddwl. Ar y llaw arall os mai dyna yw'r sefyllfa pam y mae'r blaid gyfan yn cael llais wrth ddewis arweinwyr Caerdydd a Chaeredin? Dyw hynny ddim yn digwydd gydag arweinwyr llywodraeth leol nac arweinydd senedd Ewrop. Hwyrach y dylai'r cyfarfod dreulio ychydig funudau i ystyried y pwynt yfory.

Cofiwch, fe allai'r cyfarfod ystyried cwestiwn mwy dwys, un sy'n ddiwinyddol bron, sef beth yn union yw "Llafur Cymru"? Mae ganddi gynhadledd, pwyllgor gwaith, strwythurau i ddatblygu polisi, swyddfa a swyddogion ond ers rhai blynyddoedd bellach does ganddi ddim bodolaeth annibynnol ariannol. Dyna yw'r unig gasgliad posib o'r ffaith nad yw hi, yn wahanol i blaid yr Alban, bellach yn cyflwyno cyfrifon i'r .

Does gan gyfansoddiad y Blaid Brydeinig () fawr i ddweud am Lafur Cymru ac eithrio'r ffaith ei bod yn bodoli. Hyd y gwn i does gan y blaid Gymreig ddim cyfansoddiad ei hun er ei bod y ffordd mae'n gweithredu yn adlewyrchiad o'r blaid ar lefel Brydeinig.

Dyw hyn oll ddim yn beth drwg o reidrwydd. Yn wahanol i gyfansoddiadau'r Democratiaid Rhyddfrydol neu Blaid Cymru, dyweder, mae'r cyfansoddiad Llafur yn gryno ac yn hyblyg. Mae'n hawdd deall mai agwedd aelodau'r blaid am ddegawdau oedd "if it ain't broke don't fix it".

Y broblem yw wrth gwrs bod Llafur Cymru bellach wedi ei thorri neu mewn peryg o gael ei thorri. Mae rhes o drychinebau etholiadol yn brawf o hynny. Efallai na ddylai plaid syllu i'w bogail cyfansoddiadol ei hun ar drothwy etholiad. Ar y llaw arall sut mae dewis arweinydd heb wybod beth yn union yw'r dyletswyddau a'r pwerau a beth yn union y mae fe ne hi yn arwain?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.