Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 12:12, Dydd Iau, 17 Medi 2009

don.jpgGyda'r holl sylw y mae "" yn cael mae'n bosib bod rhai heb sylwi bod y cywiriadur iaith bellach ar gael ar lein ac am ddim.

Rwy'n ffan enfawr o Cysill nid yn unig oherwydd safon y feddalwedd ond hefyd oherwydd yr oriau o sbort sydd i gael wrth i'r safle geisio "cywiro" enwau pobol.

Mae ambell i enw yn gallu bod yn rhyfeddol o addas, Gordon Frown a Jac Strap (Jack Straw), er enghraifft. Os ydy'r sibrydion yn wir, dyw Nick Barrwn ddim yn enw gwael i arweinydd Ceidwadwyr y Cynulliad! Y gorau ohonyn nhw i gyd yw'r enw mae Cysill yn cynnig am y gwleidydd sydd yn y llun. Fe wna i adael y pleser i chi!

Dyma ambell i ddolen ddifyr arall;

- Peter Hain Guardian
Oherwydd bod "Vote Plaid, get the Tories" wedi gweithio mor dda tro diwethaf...

Our Kingdom

Herald
Pob lwc da' hwnna, Alex!

Times

a'u heffaith ar

Irish Independent



SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:10 ar 17 Medi 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Mae Cysill hefyd yn cynnig 'cachasid' am 'ceisydd' - felly dydi o ddim yn hollol ddibynadwy!

  • 2. Am 13:48 ar 17 Medi 2009, ysgrifennodd BYS BAWD:

    HO HO HO, HA HA HA.

    Deg allan o ddeg i Cysill.

    Bendigedig

  • 3. Am 14:35 ar 17 Medi 2009, ysgrifennodd Dewi b:

    Mae gen ti obsesiwn gyda Cysill a c*chu HoR ;)

    Mae Cysill (ar-lein a PC) yn cynnig 'caeasid' yn unig i mi ar gyfer 'ceisydd'.

  • 4. Am 16:28 ar 17 Medi 2009, ysgrifennodd Gwyn Jones:

    Da iawn. Yn well na "Toerag".
    Rwyf yn cael fy atgoffa o stori yn y "Daily Post" rhai blynyddoedd yn ôl am Gwilym Euros (Roberts). Un ai 'roedd o wedi bod yn ffraeo yng nghyngor tref Blaenau Ffestiniog neu yn ceisio cwffio a phoeri mewn gêm beldroed yn Llanrug. 'Roedd y stori yn amlwg wedi ei rhoi drwy spell check . Daeth ei enw allan fel "Grimly Aurous"!

  • 5. Am 12:32 ar 18 Medi 2009, ysgrifennodd Gruffudd Prys:

    Cofiwch fod y fersiwn 'llawn' o Cysill sy'n rhan o'r pecyn Cysgliad yn eich galluogi chi i ychwanegu geiriau ac enwau pobl at y rhestr o eiriau derbyniol.

    Gallwch hyd yn oed greu geiriadur pwrpasol ar gyfer meysydd penodol (e.e. enwau gwleidyddion) a'u tagio nhw â'r rhan ymadrodd cywir (enw, enw person, ansoddair etc.) fel eu bod yn cael eu hadnabod yn iawn gan reolau gramadeg Cysill.

    Gweler Llawlyfr Ar-lein Cysill am fwy o fanylion:

    Gwyn: dwi'n cofio Bedwyr Williams (yr artist/digrifwr) yn arddangos cerddi 'spellcheck'. Dyma ddolen at wybodaeth:

    /cymru/celf/eisteddfod03/artist/bedwyr-williams.shtml

    Rhywun yn gwybod sut i gael gafael ar y cerddi eu hun?

  • 6. Am 13:12 ar 18 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'n fwy o sbort fel ac y mae hi!

  • 7. Am 13:20 ar 18 Medi 2009, ysgrifennodd Wilias:

    Wrth olygu erthygl am bysgota yn lleol flwyddyn/ddwy 'nol, yn cynnwys 'Cymdeithas Enweiriol y Cambrian' rhedais Cysill . Difyr fyddai wedi sylwi ar ymateb rhai o'r hen aelodau petawn i wedi derbyn awgrym y feddalwedd, sef Cymdeithas Wahanrywiol y Cambren. Cinci!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.