Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhyfel Agored

Vaughan Roderick | 09:57, Dydd Gwener, 25 Medi 2009

Siarad-Cymraeg.gifMae Cofnod trafodion y Cynuliad wedi ymddangos ar ei newydd wedd heb gyfieithiad o'r Saesneg o'r Gymraeg. Ar y dudalen flaen mae'n dweud hyn;

"Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y Siambr. Yn ogystal, cynhwysir cyfieithiad Saesneg o gyfraniadau yn y Gymraeg. Cyhoeddir fersiwn ddwyieithog ymhen pum diwrnod gwaith."

Yn ôl y Bwrdd Iaith mae'r polisi hwnnw'n groes i'r Cynllun Iaith a basiwyd yn unfrydol gan y Cynulliad ac yn groes i ddyletswyddau statudol y Comisiwn. Mae'n ymddangos bod y Comisiwn wedi ystyfnigo gan fwrw ymlaen a'r cynlluniau er gwaethaf pawb a phopeth. Mae 'na drafferth wleidyddol ac, o bosib, cyfreithiol difrifol yn wynebu'r aelodau a'r Llywydd.

Mae "giang o bedwar" aelod wnaeth gyhoeddi cynnig i orfodi i'r Comisiwn barhau a'r hen drefn o gyfieithu dros nos newydd ryddhau'r datganiad a ganlyn;

"Mae'r cynnig yn awr wedi ei drafod gan bob plaid yn y cynulliad ac mae 'na gonsensws ynglŷn â'r ffordd ymlaen... Dros y dyddiau diwethaf rydym wedi ceisio cynnal trafodaethau a chyrraedd cyfaddawd gyda'r comisiwn. Rydym yn ymwybodol bod eraill hefyd wedi ceisio llunio cyfaddawd gyda'r Comisiwn. Rydym wedi ein siomi'n arw bod y Comisiwn wedi gwrthod cwrdd i drafod y cynigion hyn gan anwybyddu teimladau cryfion aelodau o bob plaid ynghylch y mater yma. Rydym yn gobeithio felly y bydd y mater yma'n cael ei drafod a'i setlo wythnos nesaf."

Mae'r frawddeg olaf yn cyfeirio at ddadl a phleidlais yn y siambr. Mae cefnogwyr y cynnig yn gyfangwbwl hyderus y bydd y Comisiwn yn colli'r bleidlais. Mae'n fater i'r Pwyllgor Busnes ddod o hyd i'r amser ar gyfer dadl yn y Siambr. Gesiwch pwy yw'r Cadeirydd.

Yn ôl un o gefnogwyr y cynnig mae'r Comisiwn wedi ymddwyn mewn modd cwbwl anghwrtais a thrahaus. Mae cefnogwyr y cynnig yn gynddeiriog bod y Llywydd wedi "llwyr cam-ddarllen teimladau aelodau'r cynulliad".

Fe fyddwn yn trafod y pwnc hwn ar "Dau o'r Bae heddiw am 1.15. Fe fydd modd gwrando ar y rhaglen ar iPlayer neu drwy danysgrifio i'r gwasanaeth podledu trwy glicio'r botwm ar y dde.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:34 ar 25 Medi 2009, ysgrifennodd Meirion:

    Dydi'r dudalen agoriadol ddim wedi newid hyd yma serch hynny - mae'n dal i ddweud:
    Cyhoeddir trawsgrifiadau cwbl ddwyieithog o Gyfarfodydd Llawn o fewn 24 awr i ddiwedd y cyfarfod. Ceir crynodeb o fusnes pob cyfarfod yn y Pleidleisiau a Thrafodion, (a gyhoeddir o fewn 30 munud i ddiwedd pob cyfarfod).

  • 2. Am 14:45 ar 25 Medi 2009, ysgrifennodd Cwtin:

    Mae'n bryderus bod yr Arglwydd Elis-Thomas hefo'r fath rym wrth fod yn cadeirio'r Pwyllgor Busnes hefyd.

    Pe byddai penderfyniad y Pwyllgor Busnes yn mynd o'i blaid - a fyddai hyn yn gallu bod yn sail addas i drefnu pleidlais o ddiffyg hyder ynddo fo fel Llywydd y Cynulliad? Ydi hyn yn bosibl hyd yn oed Vaughan?

    Ac os aiff o a'r maen i'r wal drwy ddefnyddio ei ddylanwad mewn un pwyllgor i gyflawni dyhead gwleidyddol yn y Comisiwn yna mi fydd yn debygol o fod yr unig enghraifft i mi ei gofio o'r hen wireb gwleidyddol treuliedig am dwrciod yn pledleisio o blaid cael Nadolig cynnar.

  • 3. Am 14:53 ar 25 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Yn realistig, y mwyaf gallai'r PB ei wneud, rwy'n meddwl, yw gohirio'r ddadl am wythnos neu efallai ddwy. Yr hyn doedd ambell i AC ddim wedi sylweddoli oedd bod y newid yn digwydd yr wythnos hon er mai arbed arian yn y flwyddyn ariannol nesaf oedd y rheswm/esgus a roddwyd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.