Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Teimlad Chwithig

Vaughan Roderick | 16:45, Dydd Gwener, 11 Medi 2009

brezhnev.jpgPam oedd asgell chwith y Blaid mor blest ac araith Ieuan Wyn Jones? Ai'r holl gyfeiriadau at "newid" neu'r ymsodiadau ar y banciau a chwmniau mawrion? Y naill na'r llall, mae'n ymddangos.

Beth felly am y pedwar gair "we on the left"? Go brin.

I fod yn deg roedd y paragraff yma ychydig yn fwy radicaliaidd nac arfer;

"What were those stories that shaped my political beliefs? The fight for the state pension, benefits for people out if work, free state education, the battle to set up the NHS."

Ond nid hwnnw oedd wedi cyffroi'r chwith chwaith.

Efallai bod hyn yn anodd i gredu ond y ffaith mai ymgeisydd Islwyn, Steffan Lewis yn hytrach na'r aelod lleol, Gareth Jones oedd wedi ei ddewis i gyflwyno'r arweinydd oedd wedi egseitio ambell un!

Mae cesio dadansoddi gwleidyddiaeth mewnol Plaid Cymru fel gwylio'r Kremlin yn yn nyddiau Brezhnev ar adegau!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:37 ar 11 Medi 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Deall fod Ron Davies wedi gwneud sylwadau ddiddorol mewn cyfarfod yn y gynhadledd a bod Wilgey wedi bod yn hynod groesawgar.

    Oes unrhyw sail i'r honiadau y bydd Ron yn cael ei demtio i sefyll yn enw'r blaid ?

    Mae'r sibrydion ar led ers blynyddoedd ond dwi yn amheus !!

  • 2. Am 09:53 ar 12 Medi 2009, ysgrifennodd Edward:

    Heb fod eisiau codi bwganod...ond alli di roi rhyw fath o syniad i ni o sut wyt ti'n gweld pethau'n datblygu o ran taith y Blaid i'r chwith? Fydd angen plaid newydd adain dde genedlaetholgar, neu ydi'r Ceidwadwyr am newid digon i fod yn addas i lot o Guto Bebbiaid?

    Fy hun, mi hoffwn weld plaid sy'n nes at Ryddfrydiaeth Lloyd Georgaidd - dwi'n credu mai dyna ydi gwleidyddiaeth cefnogwyr craidd y Blaid o hyd ond bod y top wedi penderfynu y byddai'n dda dweud 'Sosialwyr llawen ydym ni' i geisio denu pleidleisiau. Roedd hynny'n iawn pan oeddan ni'n gwbod rili mai plaid genedlaetholgar oedd hi...ond mae Tŷ Gwynfor wedi llenwi braidd efo pobol sy'n ifanc, sosialaidd-siampên, efo rhyw fath o genedlaetholdeb ond eu teyrngarwch cynta at y blaid newydd, lachar, slic...

  • 3. Am 21:48 ar 12 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Ymddiheuriadau am beidio ymateb yn gynt! Mae'r cwestiwn yn haeddu post llawn- mwy nac un efallai. Fel mae'n digwydd rwyf ar fin darllen traethawd doethuriaeth ynghylch y traddodiad Rhyddfrydol yng Nghymru. Hwyrach y bydd gen i ragor i ddweud ar ôl gwneud!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.