主播大秀

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Elystan

Vaughan Roderick | 11:27, Dydd Iau, 15 Hydref 2009

elystanmorgan203_s4c.jpg
Peth rhyfedd yw'r blogio 'ma. Ar adegau mae dyn yn teimlo'r angen i bostio rhywbeth ond mae amser yn brin a dyw'r awen ddim yn dod. Mae'n bosib mai rhywbeth felly wnaeth arwain at bost ynghylch ei gas wleidyddion. Go brin ei fod yn disgwyl y nyth cacwn wnaeth lanio ar ei ben!

Cynnwys enw Elystan Morgan ar fersiwn wreiddiol y rhestr oedd asgwrn y gynnen ac fe ddiflannodd yr enw o'r ail fersiwn. Ond pam ei gynnwys yn y lle cyntaf?

Hyd y gwn i ddau beth a dau beth yn unig y mae Elystan wedi gwneud i bechu cenedlaetholwyr. Ei agwedd tuag at sefydlu Ysgol Penweddig oedd un ohonyn nhw. Ei benderfyniad i gefnu ar Blaid Cymru ac ymuno a'r blaid Lafur yn 1965 oedd y llall.

Mae 'na hen ddigon o wleidyddion wedi newid plaid heb wynebu'r fath lid a dirmyg. Mae'n anodd osgoi'r casgliad mai'r rheswm am y teimladau gelyniaethus tuag at Elystan oedd ei fod yng ngolwg llawer nid yn unig wedi "bradychu'r blaid" neu "fradychu Cymru" ond ei fod wedi "bradychu Gwynfor".

Elystan oedd etifedd Gwynfor. Ef oedd y mab darogan. Ar 么l i Gwynfor fethu ennill Meirionydd yn 1959 Elystan gafodd y fraint o sefyll yn "sedd y Llywydd" yn 1964. Ei fethiant yno wnaeth ei ddarbwyllo i droi at Lafur gan arwain at ethol yn aelod Ceredigion yn 1966. Dyma'r esboniad a roddwyd gan Elystan yn ei yn 2008.

"Er bod gen i'r parch eithaf i amcanion Plaid Cymru i ennill statws cyfansoddiadol teilwng i'r genedl, fe ddes i deimlo fwy a mwy nad oedd strategaeth y Blaid yn cyfateb 芒 realaeth y sefyllfa na'r tymheredd gwleidyddol ychwaith. Fe deimlwn o ran fy hunan pe bai'r ddegrif nesaf yn ailadrodd patrwm y ddegrif flaenorol nad oedd yna yn wir ddim cyfraniad o werth y medrwn i ei wneud i'r sefyllfa o fewn Plaid Cymru. Yr ail oedd yr honiad a oedd yn un o ganonau canolog Plaid Cymru fod Llafur yn wrth-Gymreig ac na fuasai Llafur fyth yn arwain Cymru yn sylweddol i statws cyfansoddiadol uwch. Pan felly y bu i Lywodraeth Lafur yn ail ddydd ei bodolaeth ar 么l etholiad Hydref 1964 sefydlu'r swydd o Ysgrifennydd i Gymru, fe deimlais ysfa gref i ymuno 芒'r Blaid Lafur. Wedi'r cyfan yr oedd creu'r ysgrifenyddiaeth yn gydnabyddiaeth gwbl bendant o fodolaeth Cymru fel gwlad a chenedl."

Y gwir oedd, wrth gwrs, bod Elystan wedi llwyr camddarllen y "tymheredd gwleidyddol". Fe drodd ei fuddugoliaeth ei hun yng Ngheredigion yn llwch yn ei geg gyda buddugoliaeth Gwynfor yng Nghaerfyrddin rhai misoedd yn ddieddarach. Roedd Nans Jones, hoelen wyth pencadlys Plaid Cymru yn adrodd hanes amdano yn dod ati yn fuan wedyn gyda dagrau yn ei lygaid gan ofyn "beth wnes i"? Yn ol bywgraffiad Rhys Evans o Gwynfor roedd Elystan yn "gyfaill cywir" iddo yn San Steffan yn sgil yr isetholiad.

Fe gollodd Elystan yng Ngheredigion yn 1974. Fe gollodd eto yn ynys M么n yn 1979 yn rhannol am iddo dreulio llawer o'i amser yn y flwyddyn honno yn arwain yr ymgyrch "ie" yn y refferendwm datganoli. Ni fyddai wedi gwneud hynny pe na bai'n wleidydd o argyhoeddiad ac yn Gymro gwlatgar.

Pe na bai Elystan wedi troi at Lafur mae'n debyg y byddai wedi ei ethol dros Blaid Cymru ym Meirionnydd yn 1970 neu 1974 ac wedi dal y sedd am gyhyd yr oedd e'n dymuno. Mae'n ddigon posib y byddai wedi diweddu ei yrfa yn arwain Plaid Cymru yn y Cynulliad.

Dim ond Elystan all ddweud ond dw i'n meddwl y byddai fe wedi cael mwy o foddhad o'r yrfa honno nac o fod yn Farnwr ac yn Arglwydd.

Fe wnaeth Elystan gamgymeriad gwleidyddol. Dyna i gyd. "Get over it" fel maen nhw'n dweud.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:42 ar 15 Hydref 2009, ysgrifennodd Idris:

    Amen i hynny Vaughan. Fel un sydd wedi cael y pleser o weithio efo Elystan ar sawl achlysur tydw i ddim yn meddwl i mi ddod ar draws cenedlaetholwr mwy diffuant, na gwr mwy bonheddig, o fewn unrhyw blaid.

  • 2. Am 16:32 ar 15 Hydref 2009, ysgrifennodd blogmenai:

    Efallai bod y blogiad gwreiddiol yn un a wnaed mewn absenoldeb rhywbeth gwell i'w ddweud - ac mae'n rhyfedd bod cymaint o bobl yn cymryd darn oedd i fod yn ysgafn cymaint o ddifri. Mae'n rhyfedd hefyd pam mor uchel ydi'r darlleniad i'r math yna o eitem. Gallaf dreulio dwy awr yn rhoi rhywbeth 'dadansoddol' a 'sylweddol' at ei gilydd a chael hanner darlleniad y joban dau funud yna.

    O ran Elystan, mae'n debyg bod ganddo sawl problem canfyddiad (os mai dyna'r gair) o safbwynt rhai cenedlaetholwyr. 'Doedd o ddim yn ffigwr ymylol pan adawodd, ac mae hynny'n rhoi min ar y drwg deimlad. 'Dwi ddim yn amau dy fod yn gywir wrth i ei fod yn gobeithio gwneud mwy o les oddi mewn i'r Blaid Lafur - ond ymuno efo plaid George Thomas, Leo Abse ac ati oedd o yn y diwedd. Mae'r canfyddiad ei fod yn rhoi ei yrfa wleidyddol o flaen ei ddaliadau yna o hyd - efallai bod hwnnw'n ganfyddiad anheg, ond mae'n un sydd wedi 'sticio'.

  • 3. Am 16:41 ar 15 Hydref 2009, ysgrifennodd Sion:

    Er gwybodaeth, mae'r ddarlith a draddodwyd gan Elystan y llynedd yn narlith flynyddol Archif Wleidyddol Gymreig y Llyfrgell Genedlaethol, bellach ar lein

    Y darlithydd eleni fydd Rhodri Morgan ar nos Wener 6 Tachwedd. Tocynnau am ddim, ond mae seddi'n bri. Bwciwch nawr!

  • 4. Am 16:48 ar 15 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Rwy'n gwybod o brofiad mai'r posts ffwrdd a hi yn aml yw'r rhai sy'n denu darllenwyr a sylwadau! Dim ond yn ddiweddar y gwnes i ddarllen darlith Elystan yn LlG ac roeddwn wedi bod yn chwilio am reswm/esgus i dynnu sylw ati. Mae'n gymeriad hynod ddiddorol a difyr ac mae'r ddarlith yn adlewyrchu hynny.

  • 5. Am 17:12 ar 15 Hydref 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Y canlynol, o gyfsrfod datganoli yn Aber, yn ardderchog:

    "Cofiaf orffen fy araith gan droi at Kinnock a dweud 鈥渄on鈥檛
    ever think that you can trample the life of a nation in the mud of
    your own miserable self-interest.鈥"

  • 6. Am 20:49 ar 15 Hydref 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Beth am i ti gynnig rhestr debyg Vaughan !!.
    Rhywbeth arall ar gyfer y llyfr fydd yn cael ei gyhoeddi ar dy ymddeoliad mi dybiaf.

  • 7. Am 20:55 ar 15 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fe fyddai fy ymddeoliad yn dod yn gynt na'r disgwyl pe bawn i yn cyhoeddi'r rhestr yna! Yn rhyfedd iawn fe fyddai'r person sy'n rhif un ar fy restr o gas wleidyddion hefyd yn rhif un ar fy restr o hoff wleidyddion! Ddweda i ddim mwy.

  • 8. Am 13:35 ar 16 Hydref 2009, ysgrifennodd Dinesydd:

    Dafydd El si诺r o fod! Ond nid oes angen ymateb Vaughan.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.