Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Jyst dweud

Vaughan Roderick | 23:17, Dydd Sadwrn, 17 Hydref 2009

ebbwvaleparkway200.jpgMae hyn ond o ddiddordeb i flogwyr, mewn gwirionedd. Mae brenin y blogwyr Iain Dale wedi methu ennill enwebiad y Ceidwadwyr yn Bracknell. Does dim clem da fi lle mae'r lle ond mae'r dyn wnaeth ennill, Phillip Lee, yn gythraul o foi yn ôl Iain.

" He will be an absolutely brilliant candidate and I offer him my genuine congratulations."

Dyma ganlyniad Blaenau Gwent yn 2005.

Peter Law Annibynnol 20,505
Maggie Jones Llafur 11,384
Ian Thomas Dem. Rhydd. 1,511
John Price Plaid Cymru 843
Phillip Lee Ceidwadwr 816

Pam nad oedd etholwyr Blaenau Gwent yn gallu gweld pa mor "brilliant" oedd Phillip Lee? Ydy Alun Davies yn fodlon ymddiried ei ddyfodol i etholwyr mor gibddall? Os nad ydynt yn gallu gweld bod Phillip Lee yn "brilliant" oes na beryg na fyddent yn llwyr werthfawrogi talentau Alun?

Jyst rhag ofn i rywun gwyno, cellwair yw'r post yma ond dyma i chi ffaith ryfeddol. Yr wythnos hon fe fydd teithiwr rhif 1,000,000 yn teithio ar lein Glyn Ebwy. Mae'r defnydd o'r gwasanaeth yn fwy na dwbl y disgwyl.

Fe gefnogwyd ail-agor y lein gan bob un o bleidiau'r cynulliad. Beth am roi tipyn o glod am unwaith? Gall y cynulliad a'i lywodraeth frolio ynghylch hyn ac mae'n gwneud i bolisi adran drafnidiaeth Lloegr o wrthod pob cais i ail agor rheilffyrdd edrych yn rhyfedd ar y naw.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 08:38 ar 18 Hydref 2009, ysgrifennodd Dewi:

    "Gall y cynulliad a'i lywodraeth frolio ynghylch hyn"
    Gwir - ond nawr mae angen uchelgais. 5 awr 10 munud o Fangor i Gaerdydd yn 2009???? - Mae angen lein newydd cyflymdra uchel reit trwy ganol y wlad megis beth mae'r Basgiaid yn gwneud..

  • 2. Am 20:41 ar 18 Hydref 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Dylset wybod cystal a neb tydi democratiaeth yn aml ddim yn gwobrywo dawn a gallu. Mae fel trio dewis mab yng nghfraith tydi'r dewis call yn aml ddim digon diddorol !!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.