Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llwyfan Llawn

Vaughan Roderick | 10:23, Dydd Mawrth, 20 Hydref 2009

theatre_masks_203x152.jpgDoeddwn i ddim yn gwybod, onest a dydw i ddim yn mynd i hawlio'r peth fel buddugoliaeth i'r blog!

Mae'r llywodraeth newydd gyhoeddi cymhorthdal o £15 miliwn tuag at y gost o godi canolfan gelfyddydau newydd ym Mangor.

Mae hynny ar gyfer y flwyddyn 2010-2011. O'r diwedd! Ond oedd angen cau Theatr Gwynedd yn y cyfamser?

Trwy gyd-ddigwyddiad bues i'n sgwrsio bore 'ma a Judith Isherwood, pennaeth Canolfan y Mileniwm sy'n gadael am Awstralia ddiwedd yr wythnos hon.

Buodd hi'n son am y problemau oedd yn wynebu'r ganolfan cyn iddi agor ac fe dynnodd gymhariaeth ddiddorol rhwng Cymru ac Awstralia. "Gwlad y medra" go iawn oedd Awstralia meddai lle'r oedd pawb yn ystyried popeth yn bosib. Mae pethau'n newid yng Nghymru, meddai, ond yn rhy aml yn y gorffennol mae pobol wedi chwilio am resymau neu esgusodion i beidio gwneud pethau.

Ta beth, fe fydd Judith yn cymryd yr awenau yng nghanolfan gelfyddydau fwyaf Awstralia ym Melbourne. A fydd 'na gydweithio rhwng y ganolfan honno a chanolfan Caerdydd? Dyw Judith ddim am ddweud gormod ond mae 'na rhywbeth ar y gweill- rhywbeth sy'n ymwneud a'r Urdd a Chapel Cymraeg Melbourne. " Cysylltiad Methodistiaid Calfinaidd Talaith Victoria- the Opera" efallai!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:39 ar 20 Hydref 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    Da iawn Vaughan. Nesa, mae angen i ti flogio ynglyn a pha mor warthus yw'r diffyg pwerau sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol...!

  • 2. Am 11:46 ar 20 Hydref 2009, ysgrifennodd Daran:

    Ti moen swydd fel lobiydd?

  • 3. Am 18:32 ar 20 Hydref 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    'Sdim dwywaith mai Alun Ffred yw'r gweinidog Treftadaeth orau i Gymru ei gael.

    Mae'n deall mai diwylliant yw pob gwleidyddiaeth a bod cenedlaetholdeb ddiwylliannol yn rhywbeth i fod yn falch ohono ... ac sy'n dod â gwaith ac urddas i fywyd pobl. Does dim pwynt cael senedd i Gymru os nad yw diwylliant ac iaith Cymru am elwa o hynny.

    Mae hon ond y diweddaraf i ddatganiadau gwych gan Alun Ffred o lunio agenda Gymreig i Cadw, cefnogi cyhoeddi i ail-godi Iaith Pawb.

    Falch iawn 'mod i wedi pleidleisio Plaid Cymru yn 2007.


  • 4. Am 22:07 ar 20 Hydref 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Ia. Da iawn. Beth am flog ar yr A470 nesaf. Dwi wedi wastio beth sy'n teimlo fel blynyddoedd ar y ffordd. Mae cysylltu cenedl a'i gilydd yn holl bwysig i undeb cenedlaethol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.