Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Patrick Hannan

Vaughan Roderick | 09:18, Dydd Llun, 12 Hydref 2009

patrick_hannan.jpgMae'n rhyfedd meddwl nad oedd y fath bobol a newyddiadurwyr gwleidyddol yn bodoli yng Nghymru ddeugain mlynedd yn ôl. Roedd gan ambell i bapur ohebydd gwleidyddol ond yn San Steffan yr oedd y rheiny yn byw a bod. Roedd y syniad y gallai 'na fod digon o wleidyddiaeth ar lawr gwlad Cymru fach i gyfiawnhau gohebydd llawn amser yn cael ei ystyried yn chwerthinllyd braidd.

Pan benodwyd Patrick Hannan, a fu farw'n ddisymwth dros y Sul, yn ohebydd gwleidyddol Ö÷²¥´óÐã Cymru cafodd y teitl "Political and Industrial Correspondent" i ddechrau. Yn ôl Pat cafodd y gair "Industrial" ei ychwanegu i'r teitl am ddau reswm. Yn gyntaf doedd neb yn sicr iawn os oedd 'na ddigon o bolitics i lenwi ei oriau gwaith. Yn ail, gwleidyddiaeth y mudiad Llafur oedd gwleidyddiaeth Cymru i raddau helaeth iawn ar y pryd ac os am ddeall y blaid Lafur rhaid oedd deall y brodyr yn yr undebau hefyd. Wel, fe ddaeth Pat o hyd i hen ddigon o wleidyddiaeth yng Nghymru a gosododd batrwm a maes llafur i bawb ddaeth ar ei ôl.

Gallwn sôn llawer am Pat. Mae gen i atgofion dirifedi amdano. Roeddwn yn rhyfeddu at ei wybodaeth eang a'i ddawn sgwennu anhygoel ond yr hyn yr oeddwn yn edmygu fwyaf amdano oedd ei ystyfnigrwydd a'i ymroddiad i newyddiadura.

Roedd ef ac eraill o'i genhedlaeth o newyddiadurwyr wedi treulio degawd a mwy yn y chwedegau a'r saithdegau yn trafod "cwestiwn cyfansoddiadol Cymru". Roedd hi'n ymddangos bod y cwestiwn hwnnw wedi ei ateb yn ddigon eglur yn refferendwm 1979.

Doedd yr ateb yna ddim yn ddigon da i Pat. Dydw i ddim yn meddwl y byddai pleidlais "Ie" wedi plesio fe chwaeth. Fe fyddai'r bleidlais yn '79, y naill ffordd neu'r llall, yn un ddifeddwl ac anwybodus yn ei farn ef. Roedd 'na gwestiynau eraill i'w hateb yn gyntaf.

Yn anad dim yr hyn oedd Pat eisiau oedd i bobol feddwl ynghylch pynciau fel cenedligrwydd Cymru, ei threfniadau cyfansoddiadol a'i difreintedd economaidd. Trwy lyfr a thrwy raglen yr un oedd y nod bob tro. Roedd profocio, cellwair, cwestiynu a dadlau i gyd yn arfau i orfodi i'w ddarllenwyr a gwrandawyr feddwl drostyn nhw ei hun ac i gyflwyno'r wybodaeth iddyn nhw allu wneud hynny.

Roedd yn gas gan Pat pobol oedd yn siarad mewn ystrydebau neu'n parablu safbwyntiau ail-law. Cynhyrchodd gyfres deledu gyfan yn herio mytholeg rhai o arwyr gwleidyddol Cymru oherwydd hynny. Roedd dyrchafu gwleidyddion yn arwyr, ym marn Pat, yn esgus i beidio herio eu safbwyntiau a'u daliadau ac, yn ei dyb ef, herio popeth oedd hanfod dysg a democratiaeth.

Fe fyddai Pat yn dirmygu unrhyw ymdrech i'w ddyrchafu fe'i hun yn arwr. Fe wna i ddim felly. Fe ddyweda i hyn yn lle. Roedd Pat yn athro da i mi ac yn athrylith gwleidyddol. Roedd yn gyfaill a chydweithiwr ffyddlon ac yn bersonoliaeth cyfan gwbwl unigryw.

Nid oes angen dweud y bydd colled ar ei ôl.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:43 ar 12 Hydref 2009, ysgrifennodd Gwilym Euros Roberts:

    Blogiad gwych Vaughan, mae'n debyg o fod yn annodd i chi yn y 'stafell newyddion 'na heddiw.
    Heddwch i'w lwch -roedd o'n gawr newyddiadurol Cymreig.
    Dwi'n cofio cymryd diddordeb cynnar iawn mewn materion cyfoes a gwylio Wales Today ar glin fy nhad gyda Patrick, David Parry-Jones a John Darren yn cyflwyno...Dad druan yn gwylltio am fy mod yn holi am hyn a holi am llall.
    Diolch iddo fo a nhw am ysgogi'r diddordeb sydd wedi tyfu a thyfu ers hynny.
    Pob cydymdeimlad i Menna a'i deulu yn eu colled.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.