Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 18:01, Dydd Llun, 12 Hydref 2009

naze_semaphore.jpgMae'r rhain yn ddyddiau pur dywyll i'r cyfryngau a newyddiaduraeth Saesneg yng Nghymru. Braf yw gweld un llygedyn bach o obaith felly.

Mae perchnogion y Guardian wedi cyhoeddi eu bod am lansio gwasanaeth newyddion lleol i Gaerdydd ar y we flwyddyn nesaf. Mae'r safle yn rhan o arbrawf gan y cwmni gyda gwefannau tebyg i'w lansio yng Nghaeredin a Leeds. Mae gan y cwmni bresenoldeb yn y tair dinas yn barod fel perchnogion gorsafoedd llwyddiannus "Real Radio".

Guardian

Gobeithio nad "strangled at birth" fydd ffawd y gwasanaeth newydd! Dyna ddigwyddodd i flog Gareth Hughes yn gynharach eleni. Prin fod yr hen foi wedi cychwyn postio cyn i dranc "ITV Local" dagu ei ymdrechion. Wel mae yn ôl- ar ei liwt ei hun y tro hwn!

Wrth yrru trwy Lanelwedd yn ddiweddar sylwais fod siop Co-op newydd wedi agor yno. Mae hynny'n ychwanegol at yr un ar draws y bont yn Llanfair. Ai Buallt yw'r unig le yn y byd lle mae gan yr hen go-op fonopoli? Hwyrach na ddylwn i chwerthin.

Times

Rwyf wedi clywed rhywbeth fel hyn o'r blaen yn rhywle...

Scotsman

Ac ambell i beth arall...

Politico (UDA)
The Local (Sweden)
The Hindu

Mae'n gwestiwn da. Sut mae ffitio 50 iaith ar bapur 5 rupee?




Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.