Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Triawd y Buarth

Vaughan Roderick | 10:36, Dydd Gwener, 2 Hydref 2009

huey.jpgDyw hwn ddim yn flog byw fel y cyfryw ond gan fy mod yn disgwyl sawl datblygiad yn y ras i olynu Rhodri yn ystod y dydd fe fydd y post yma'n cael ei ddiweddaru o bryd i gilydd.

10.35; Dyw'r ymgeiswyr posib na'u cefnogwyr ddim i fod ymgyrchu cyn hanner dydd heddiw. Os wnaethoch chi glywed Albert Owen a Sian James ar Post Cyntaf neu Good Morning Wales y bore 'ma dyna oedd y rheswm yr oedd y ddau mor garcus ynghylch enwi enwau.

Fe wna i rannu'r gyfrinach. Mae Albert yn cefnogi Carwyn a Sian yn ochri gyda Huw Lewis. Mae penderfyniad Sian yn dipyn o glec i Edwina gan danlinellu gwendid ei chefnogaeth ymhlith Aelodau Seneddol. Dyw'r gwendid hynny ddim yn annisgwyl. Mae agwedd Edwina tuag at Aelodau Seneddol yn hwpo eu trwynau i mewn i fusnes y cynulliad wedi tynnu blew o'r union drwynau hynny!

hdl.jpg12.00 Mae Huw Lewis ac Edwina Hart wedi cadarnhau eu bod yn sefyll yn yr etholiad. Mae Huw hefyd wedi cyhoeddi enwau'r chwe Aelod Cynulliad sy'n ei enwebu er mwyn lladd unrhyw awgrym na fyddai'n cyrraedd y trothwy.

Y chwech yw Huw ei hun, Karen Sinclair, Irene James, Joyce Watson Ann Jones a Lynne Neagle. Does dim awgrym felly bod y "chwaeroliaeth" yn benderfynol o gael menyw i'w harwain! Mae Huw a Lynne yn briod, wrth gwrs, rhywbeth y mae hi'n cyfeirio ato yn ei datganiad i o gefnogaeth.

"Now, there are three good candidates to choose from. Carwyn's easy, affable manner is an attractive quality in the Assembly Chamber; Edwina's decisive nature as Health Minister has been a valuable asset - but I don't live with either of them!"

Mae honna'n gythraul o lein dda, os caf i ddweud!

Mae cyhoeddiad Edwina i'w weld ar .

150full.jpg14.15 Fe gyhoeddodd Edwina ei hymgeisyddiaeth y tu fas i siop hufen ia Verdi's yn y Mwmblws? Ai peth call yw gelyniaethu selogion Joe's ac a fydd Huw a Carwyn yn gwneud ffafrau tebyg i Sidoli's a Cresci's? Mae podlediad newydd ar fin cael ei gyhoeddi. Toby Mason sy'n esbonio cymhlethdodau'r Coleg Etholiadol Llafur.

16.15;Os nad oedd y darpar arweinwyr Llafur yn gwybod bod 'na fynydd o'u blaenau mae Karl y bwci wedi bod mewn cysylltiad. Dyma'r prisiau y mae Karl wedi eu gosod ar gyfer pa blaid fydd a'r nifer fwyaf o seddi yng Nghymru ar ôl yr Etholiad Cyffredinol nesaf;

Ceidwadwyr; 4-7
Llafur; 11-8
Cydradd; 10-1

17 aelod Ceidwadol yw'r nifer fwyaf tebygol medd yr oracl. 14 yw'r ffigwr fwyaf tebygol i Lafur.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:57 ar 2 Hydref 2009, ysgrifennodd Emyr:

    Diddorol oedd clywed Huw Lewis yn siarad Cymraeg ar CF99 pwy noson. Wyddwn i ddim ei fod o'n medru'r iaith.

  • 2. Am 12:59 ar 2 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae fe wedi bod yn dysgu ers rhai blynyddoedd ond roedd yn mahrod i ddefnyddio'r iaith yn gyhoeddus nes iddo gyrraedd safon oedd yn dderbyniol iddo. Wrth gwrs mae ganddo'r fantais enfawr o siarad ac acen y cymoedd yn Saesneg sy'n gwneud i'w Gymraeg swnio'n gwbwl naturiol.

  • 3. Am 13:20 ar 2 Hydref 2009, ysgrifennodd Mel:

    Dim cyhoeddiad gan Carwyn Jones felly?

    A yw'n wir fod yr undebau yn ffafrio Huw Lewis?

  • 4. Am 13:36 ar 2 Hydref 2009, ysgrifennodd Idris:

    Pwynt diddorol am fantais acen y Cymoedd i ddygsgwyr Cymraeg - rioed wedi ystyried hynny o'r blaen.

    Er mod i'n dipyn o ffan o Edwina a'i ffordd o weithio, mae'r fideo yne yn amlygu eto y broblem wirioneddol sydd ganddi o ran cyfathrebu - roedd yn teimlo mwy fel ffrae ('telling off') nag apel am gefnogaeth!

  • 5. Am 14:05 ar 2 Hydref 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Chwarae teg iddo. Mae'n cymryd amser ac amynedd i ddysgu iaith. Mae'n rhaid hefyd dwi'n meddwl cael elfen o empathi â'r iaith ac eisiau ei ddysgu er mwyn llwyddo. Da iawn.

  • 6. Am 15:13 ar 2 Hydref 2009, ysgrifennodd Padrig:

    Chwarae teg i Huw Lewis am ddysgu'r iaith. Fe sy'n cael ei weld fel yr un mwya "wrth-genedlaetholgar" o'r tri - "wrth-gymreig" gan rai. Efallai bod dysgu'r iaith yn dangos fod e'n derbyn pwysigrwydd y cymry Cymraeg fel etholaeth. Diddorol iawn.

    Ydy Edwina Hart yn atgoffa unrhywun arall o Angela Merkel "Mewn tawelwch mae nerth"?

  • 7. Am 15:28 ar 2 Hydref 2009, ysgrifennodd Idris:

    Dim ond Dau o'r Bae sydd i'w glywed ar y Podlediad hyd y gwela i, dim son am Toby sydd yn bechod achos mi fase'n dda cael goleuedigaeth ynghylch sut ma'r etholiad ma'n gweithio.

    O ran y drafodaeth ar y rhaglen am hoff 'Rhodrisms', mi atgoffodd sylwadau Myrddin fi o ateb a roddodd Rhodri i gwestiwn gan Jenny Randerson ynghylch y gyllideb iechyd cwpl o flynyddoedd yn ol:

    "That was a long and complicated inverted pyramid of a question, balancing on the head of a pin that was itself the result of a complete misunderstanding of the budget."

    Mae'r cyfiethiad Cymraeg (diolch amdano!) hyd yn oed yn well...

    "Yr oedd hwnnw’n byramid gwrthdro hir a chymhleth o gwestiwn, yn cael ei ddal ar ben pin a oedd ei hun yn ffrwyth camddealltwriaeth lwyr o’r gyllideb."

  • 8. Am 15:49 ar 2 Hydref 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Ydi mae Huw Lewis yn cael ei ystyried yr un mwyaf gwrth Gymraeg o'r tri ymgeisydd, ond dydi dysgu Cymraeg (na'r gallu i'w siarad) ddim yn gwneud rhywun yn gyfaill i'r iaith o bell ffordd. Wedi'r cyfan, a fyddai llawer ohonom yn ystyried Alun Michael, ar ôl y ffars efo datganiadau trenau yn ne Cymru, neu David Davies yn frwd dros yr iaith? Dim ffiars!

    Mae 'na wahaniaeth MAWR rhwng cydnabod pwysigrwydd pleidleisiau'r Cymry Cymraeg a chydnabod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg, ffrindiau!

  • 9. Am 15:50 ar 2 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fe wna i checio beth yw'r broblem gyda'r podelediad

  • 10. Am 16:37 ar 2 Hydref 2009, ysgrifennodd Padrig:

    Mae'r Hogyn yn iawn, wrth gwrs.

  • 11. Am 20:55 ar 2 Hydref 2009, ysgrifennodd Josgin:

    A wnaeth 'brwdfrydedd' Rhodri Morgan dros y Gymraeg yn ymestyn i ffydd yn y system addysg Gymraeg gyda'i deulu ei hun ?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.