主播大秀

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Ie... Ie... Ie... Ie dros Gymru

Vaughan Roderick | 12:14, Dydd Gwener, 13 Tachwedd 2009

tn-DARE05.jpgChurchill, dwi'n meddwl, wnaeth ddweud mai'r ddadl orau yn erbyn democratiaeth yw sgwrsio am bum munud gydag etholwr. Rwy'n sicr mai fe ddywedodd mai democratiaeth yw'r gyfundrefn waethaf o lywodraethu ac eithrio pob un arall. Stori arall yw hynny, y dyfyniad cyntaf yw thema'r bregeth am heddiw!

Mae Syr Emyr Jones Parry wedi treulio llawer mwy na phum munud yn siarad ag etholwyr Cymru a dyw e ddim yn ymddangos bod y profiad wedi pylu ei frwdfrydedd dros gynnal pleidlais gynnar ynghylch cynyddu pwerau'r cynulliad. Yn wir, os ydy'r sibrydion yn gywir, y gwrthwyneb sy'n wir gydag aelodau confensiwn yn mynd yn fwyfwy brwdfrydig ynghylch refferendwm wrth i'r broses ymgynghori fynd yn ei blaen.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae ambell i wleidydd, Carwyn Jones a Peter Hain yn eu plith, wedi ceisio arllwys ychydig o dd诺r oer ar y syniad o bleidlais gynnar. Nawr mae 'na bob math o gymhellion posib gan y ddau. Mae un, wedi'r cyfan, ar ganol ymgyrch etholiad a'r llall yn ceisio amddiffyn ei etifeddiaeth fel gweinidog ond nid ar chwarae bach y dylid diystyru safbwyntiau dau 诺r a thrwynau gwleidyddol mor brofiadol.

Beth sydd wrth wraidd y gwahaniaeth barn? Profiad, dw i'n tybio. Boed hynny mewn arolwg neu mewn cyfarfod cyhoeddus mae Syr Emyr wedi bod yn gofyn ei gwestiwn yn annibynnol o gyd-destun y sefyllfa wleidyddol ehangach. Mae Peter a Carwyn ar y llaw arall yn ymwybodol bod cyd-destun yn gallu bod yn bopeth mewn gwleidyddiaeth.

Yn 么l yn 1979 er enghraifft go brin mai manteision neu anfanteision cael cynulliad oedd ym mlaen meddyliau'r etholwyr ar Fawrth 1af. Yr hyn oedd yn eu corddi (ac yn eu darbwyllo i bleidleisio "na") oedd bod ysbwriel heb ei chasglu, cyrff heb eu claddu a'r economi ar ei din tra bod gwleidyddion wedi treulio'r gorau peth o'u hamser yn malu awyr am ddatganoli.

Heb os y cyd-destun gorau i sicrhau buddugoliaeth mewn refferendwm fyddai mewn cyfnod lle'r oedd cryfhau'r Cynulliad yn ymddangos yn gam angenrheidiol i ddiogelu buddiannau personol yr etholwyr. Yn ystod cyfnod, dyweder, lle'r oedd llywodraeth amhoblogaidd yn San Steffan a'i bryd ar dorri gwariant cyhoeddus.

Os ydw i'n deall yn iawn, nid dweud bod y Confensiwn yn anghywir y mae Carwyn a Peter ond dweud y bydd na 'well cyfleoedd i ennill refferendwm yn y dyfodol na'r un y mae Syr Emyr yn ei gynnig.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:48 ar 13 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Meurig:

    Wrth ystyried agwedd Peter Hain, ydy hi'n berthnasol o bosib i ystyried canlyniadau 1997? Yn enwedig, y sir efo'r 'ie' fwyaf - nid Caerfyrddin ond Castell Nedd wrth gwrs. Yn ddi-os, roedd peiriant GOTV y Blaid Lafur yno (gyda Hain yn ben arni) yn ffactor yn llwyddiant yr ochr 'ie'. Mae Hain yn gwybod yn well na'r rhelyw beth yw cyflwr y peiriant mewn llefydd fel Castell Nedd erbyn hyn.
    Dwi ddim yn bersonol yn derbyn hyn fel rheswm dros beidio a chynnal refferendwm, ond o bosib fod e'n un ffactor ym meddwl Hain.

  • 2. Am 15:55 ar 13 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Senior Poluleuligaga:

    Pwynt da iawn 'da Meurig. Roedd ye IE fawr o Gastell Nedd yn syndod ac yn profi y gellid dibynu ar y Blaid Lafur i berfformio mewn ambell etholaeth. Ond roedd hynny deng mlynedd yn ol. Beth fydd cyflwr y Blaid Lafur ymhen blwyddyn?

    Oes gan rywun o'r Blaid Lafur rhywbeth i'w ddweud ar y mater?

  • 3. Am 16:00 ar 13 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Alun o Gasnewydd:

    Mae yn gas gen i gyfaddef rwy鈥檔 llwyr gytuno a thi a Meurig uchod. Os na fydd yr hinsawdd wleidyddol yn gywyr and yn ffafrio'r blaid mewn p诺er does gennym ddim gobaith ennill. Bydd rhaid ennill ac ennill yn dda y tro yma gyda phleidleisiau Gwynedd Caerfyrddin Ceredigion a heb os Castell Nedd yn hanfodol. Os fydd Llafur wedi colli etholiad bydd pleidleisiau'r De Ddwyrain a'r Gogledd Ddwyrain yn dilyn y sector 鈥淣a鈥 fel digwyddodd yn1979

  • 4. Am 01:50 ar 14 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Huw Waters:

    Bydd y tebygrwydd o gael pleidlais 'na' yn cynyddu os yw prosiectau fel y Mersey Dee Alliance yn cael caniatad. Cynllun i droi gogledd ddwyrain Cymru yn 'commuter belt' enfawr i Gaer a Lerpwl a gweddill gogledd orllewin Lloegr.

  • 5. Am 13:34 ar 14 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Mabon:

    Fel rhywun oedd yn byw yn etholaeth Castell Nedd a Phort Talbot bryd hynny ac yn ymgyrchu o blaid 'Ie', mi alla i ddweud o mhrofiad i na ddylid rhoi y clod i gyd i'r Blaid Lafur am gael y bleidlais Ie allan ar y diwrnod.

    fe wnaeth aelodau Plaid Cymru llawr gwlad wneud toreth o waith yn cynnwys dosbarthu taflenni y Blaid Lafur a rhoi posteri y Blaid Lafur i fyny.

    Yng Nghlydach, er enghraifft, ar ddiwrnod yr etholiad mynegwyd rhyddhad fod y Blaid Lafur - o'r diwedd - wedi tynnu ei bys mas yn yr ardal oherwydd fod y pentref wedi ei orchuddio a phosteri 'Ie' Llafur a thaflenni drwy'r drysau. Mi alla i ddweud a chryn sicrwydd mai aelodu Plaid Cymru wnaeth hyn a dim oll i wneud ag aelodau y Blaid Lafur.

    Dyw hynny ddim i dynnu oddi ar waith caled nifer o'r aelodau Llafur yn yr etholaeth wnaeth weithio yn rhagorol o blaid yr ymgyrch, ond dyw hi ddim yn gywir i ddweud mai'r Blaid Lafur 'ddelifrodd' y bleidlais Ie yno.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.