Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhyfedd Iawn

Vaughan Roderick | 14:08, Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2009

2093_13600_file_eng_Welsh-Assembly-Government-Logo_195_159.jpgFe wnaeth Betsan a finnau dynnu sylw ddoe at sianel "" Llywodraeth y cynulliad gyda dewis eang o fideos proffesiynol iawn yr olwg er eu bod yn cynnwys ambell i wall yn enwedig yn Gymraeg.

Dyma esiampl o'r cynnwys;

Sylwch ar y geiriau ar y diwedd "brought to you by the Welsh Assembly Government" ynghyd a logo'r Llywodraeth.

Mae'r cynnwys i gyd yn ffafriol i'r llywodraeth neu o leiaf yn niwtral ac mae'n cynnwys deunydd fideo o mor bell yn ôl a 1997 ac mor ddiweddar â ddoe.

Mae 'na broblem. Does neb yn y llywodraeth yn gwybod pwy sy'n gyfrifol! "Nid ni" medd swyddfa'r wasg. "Smo fi'n gwybod" medd... wel, medd un ddylai wybod!

Cwmni yn trial am gytundeb, efallai? Myfyrwyr? Y person mwyaf trist yn y byd? Dyn a ŵyr. Oes unrhyw un yn gallu helpu?

Yr awdur a'r darlledwr Hywel Williams, Yr Athro Howard Williams o Brifysgol Aberystwyth, a'r ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus Elin Wyn a fu'n byw yng Ngwlad Pwyl a'r Undeb Sofietaidd yw'r gwesteion ar CF99 heno.

Fe fyddwn yn trafod yr effaith gafodd cwymp wal Berlin ar Ewrop a dyfodol y cyfandir yn sgil cadarnhau cytundeb Lisbon.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:49 ar 4 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Gareth:

    Roedd hi'n eitha amlwg nad safle swyddogol mohoni, o ystyried y nifer o wallau sillafu a gramadeg yno...

  • 2. Am 15:51 ar 4 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Wnes i sôn am hyn . Dwi'n dyfalu mai un o'r 'ymchwilwyr' enwog yna yw e sy'n gweithio i un o'r aelodau Llafur.

  • 3. Am 17:37 ar 4 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Hen Ferchetan:

    Mae'r fidios "Tales from the Chamber" yn ddiddorol i'w gwylio - ma nhw bron yn gwneud i ddigwyddiadau'r senedd edrych yn ddiddorol@

    Onid ddylsa rhywun holi Andrew Davies? Mae'n rhaid fod o'n gwybod pwy oedd y tu ol i'r camera pan oddo'n gwneud ei ptc!

  • 4. Am 20:18 ar 4 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Mae fideo Andrew Davies wedi ei gymeryd o - sianel 'swyddogol' (?) gyda un fideo unig - mae'r ansawdd llawer uwch fel y gwelwch chi, a dyma'r fideo gwreiddiol. Does dim ffilmio gwreiddiol yn unrhyw un o'r fideos ar sianel 'GovernmentofWales' - mae'r cyfan wedi ei ddwyn/fenthyg o ffynonnellau eraill - sy'n esbonio ansawdd ofnadwy y lluniau i'w gymharu a'r testun sydd wedi ei osod ar ei ben.

  • 5. Am 11:50 ar 5 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Catrin Davies:

    Cwestiwn - am wefan "Democracy Live" .
    Pan fydd un o'r aelodau yn siarad yn Gymraeg yn y Senedd - beth a fydd ar wefan y Ö÷²¥´óÐã - y siaradwr/aig neu troslais gyda chyfieithiad i'r Saesneg ?

  • 6. Am 12:16 ar 5 Tachwedd 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    A gafwyd ateb/esboniad eto?

    (Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at ddiflaniad y blwming llythrennau 'na!!!)

  • 7. Am 13:29 ar 5 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Y Gymraeg sydd i'w chlywed o wylio ar "Democratiaeth Fyw/ Democracy Live/Cymru" Ceir y troslais Saesneg ar "Democracy Live/Wales" Mae'r un peth yn wir am iaith y capsiynnau

  • 8. Am 13:31 ar 5 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dim eto! Mae'r llywodraeth yn cynnal ymchwiliad!

  • 9. Am 12:54 ar 6 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Yr un person sy'n gyfrifol am sianel YouTube sydd hefyd yn dwyn cynnyrch fideo rhywun arall a rhoi llwyth o destun ac effeithiau Apple iMovie arno. Trist yn wir..

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.