Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hydref 2010?

Vaughan Roderick | 12:51, Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2009

Hangman-5.pngRwyf wedi ysgrifennu nifer o weithiau am y danchwa bosib sy'n wynebu Llafur yn yr etholiad cyffredinol nesaf gan gymryd gofal bob tro i gynnwys rhyw gymal fel "gallai pethau newid" neu "os na ddaw achubiaeth o rywle". Dilyn rheol gyntaf Mario Bassini ydw i wrth wneud hynny sef "always leave yourself a get out clause"!

Mae'n hawdd anghofio weithiau maint y mynydd sy'n wynebu'r Ceidwadwyr yn 2010. Oherwydd amryfal resymau yn ymwneud a'r nifer o etholwyr ym mhob etholaeth a dosraniad cefnogwyr y pleidiau mae angen cythraul o ogwydd i'r Ceidwadwyr er mwyn i'r blaid ennill mwyafrif dros bawb.

Yn ôl y gwrw etholiadol Michael Thrasher o brifysgol Plymouth fe fydd angen i'r Ceidwadwyr fod deuddeg pwynt ar y blaen i Lafur yn y bleidlais boblogaidd (40% i 28%, dyweder) er mwyn sicrhau mwyafrif o un sedd. Mae arolwg a gyhoeddwyd y bore 'ma yn awgrymu mai cael a chael fydd hi. Yn ôl mae'r Ceidwadwyr ar y blaen o 39% i 29%. Fe fyddai canlyniad felly yn yr etholiad yn arwain at senedd grog.

Mae seneddau crog yn bethau prin yn San Steffan. Rhaid mynd yn ôl i saithdegau'r ganrif ddiwethaf i ganfod yr un ddiwethaf. Serch hynny, mae'n werth ystyried beth fyddai'n digwydd pe na bai'r etholiad cyffredinol nesaf yn cynhyrchu llywodraeth fwyafrifol.

Os oedd y naill blaid fawr neu'r llall wedi syrthio mymryn yn brin o fwyafrif fe fyddai na ddau ddewis yn wynebu arweinydd y blaid honno. Y dewis cyntaf fyddai ffurfio llywodraeth leiafrifol gyda'r bwriad o alw ail etholiad o fewn byr o dro. Dyna wnaeth Harold Wilson yn 1974 a dyna, dwi'n amau, fyddai dewis David Cameron. Y dewis arall fyddai ceisio llunio clymblaid neu gytundeb a phlaid arall er mwyn sicrhai llywodraeth hir-dymor. Rwy'n amau y byddai Gordon Brown yn ceisio dilyn y trywydd hwnnw.

Mae 'na fath arall o senedd grog yn bosib- un lle'r oedd y ddwy blaid fawr mwy neu lai'n gydradd a'i gilydd o safbwynt eu niferoedd.

Y ffactor allweddol mewn sefyllfa felly fyddai nifer aelodau'r Democratiaid Rhyddfrydol ac a fyddai'r nifer yna'n ddigon i roi mwyafrif i'r naill blaid neu'r llall. Fe fyddai hynny'n dibynnu ar faint o aelodau oedd gan y Democrataid Rhyddfrydol o gymharu a chyfanswm aelodau'r DUP, SNP, Plaid Cymru, aelodau annibynnol ayb. Mae'r Democrataid Rhyddfrydol ar y blaen yn gyffyrddus i'r "aelodau eraill" ar hyn o bryd ond gallai pethau newid yn ddigon hawdd. Yn y senario gyntaf fe fyddai nifer y Democratiaid Rhyddfrydol yn ddigonol ac fe fyddai'r blaid mewn sefyllfa hynod rymus, yn yr ail sefyllfa lle'r oedd y pleidiau llai a'r llaw flaenaf fe fyddai 'na fawr o ddewis ond galw ail etholiad.

O gymryd hyn oll i ystyriaeth mae 'na bosibilrwydd go iawn nad un etholiad cyffredinol fydd yn cael ei gynnal yn 2010 ond dau. O gofio bod 'na etholiad cynulliad yn 2011 ac, o bosib, refferendwm i'w ffitio mewn yn rhywle gallai'r deunaw mis nesaf fod yn loddest gwleidyddol!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:52 ar 10 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Mabon:

    Mae hon yn senario ddiddorol a chyffrous.
    ond, fel sydd eisioes wedi ei nodi ar y blog yma rhyw dro arall, mae posib ffurfio llywodraeth gyda mwyafrif gweithredol heb ennill y bleidlais boblogaidd.
    Dyna pam fod y Ceidwadwyr yn pwmpio miliynau o bunnoedd i fewn i ambell i etholaeth fydd yn gallu sicrhau llywodraeth gweithredol iddyn nhw, er ddim o reidrwydd mwyafrid mawr - yr ennill sydd yn bwysig wedi'r cyfan.
    Oes unrhyw arwydd o filiynau'r Arglwydd Ashcroft yn cael ei wario mewn etholaethau yng Nghymru eto?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.