Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sosban Wag

Vaughan Roderick | 21:50, Dydd Sul, 29 Tachwedd 2009

_42704763_llanellitowncentre_203.jpgRoeddwn i draw yn Llanelli dros y penwythnos ac mae canol y dref, neu efallai y dylwn i ddweud hen ganol y dref, yn lle hynod o drist. Mae rhannau eraill o Lanelli yn ymddangos yn ddigon llewyrchus ond y gwir amdani yw bod yr hen ganol yn pydru oherwydd bod y gwir ganol wedi symud, a hynny mwy neu lai o fwriad.

Parciau siopa Pemberton, Trostre a Pharc y Sgarlets yw canol bywyd y dref bellach ac efallai bod hynny er gwell. Wedi'r cyfan mae llwyth o swyddi wedi eu creu a phobol oedd wedi dechrau teithio i Abertawe neu Gaerdydd i siopa yn aros yn Sir Gâr. Ar y llaw arall mae'n amlwg nad yw Llanelli yn ddigon o faint i gynnal canol traddodiadol llwyddiannus yn ogystal a pharciau manwerthu mawr ar ei gyrion. Caerdydd ac Abertawe? Ie. Casnewydd a Wrecsam? Efallai. Llanelli? Byth bythoedd.

Beth sydd i wneud felly? Fe fyddai'n drist ac yn hurt i adael i'r hen ganol fynd a'i ben iddo ond dyw rhoi got o baent ar y canopïau rhad a hyll oedd yn rhan o'r ymdrech ddiwethaf i adfywio'r lle ddim yn mynd i wneud y tro. Dyw gwario ffortiwn ar adfer esiampl arall o'r ffordd yr oedd boneddigion yn byw yn "Llanelly House" ddim yn mynd i wneud hynny chwaith. Dim ar ben ei hun, ta beth. Mae angen mwy.

Mae gen i awgrym. Dydw i ddim yn gwybod os ydy'r awgrym yn wreiddiol ai peidio. Dydw i ddim chwaeth yn hawlio fy mod yn nabod Llanelli yn dda ac mae eraill yn llawer mwy deallus na fi am y pethau hyn.

Ar ôl cyfaddef hynny i gyd, wrth grwydro'r dref fe wnaeth rywbeth fy nharo. Mae llwyth o arian wedi buddsoddi yn y blynyddoedd diwethaf ym Mlaenafon. Dyrchafwyd y dref yn safle treftadaeth o werth byd-eang gan UNESCO oherwydd ei bod yn esiampl, unigryw bron, o dref o ddyddiau cynnar y chwyldro diwydiannol sy'n agos at fod yn gyflawn. Ironbridge yn Swydd Amwythig yw'r unig le sy'n dod yn agos ati.

Nawr, edrychwch ar ganol Llanelli a beth sydd i weld. Edrychwch ar y capeli ysblennydd sydd dan fygythiad, y rhai y mae Huw Edwards wedi sgwennu amdanyn nhw yn ei . Dyrchafwch eich llygaid i fyny heibio lloriau gwaelod y siopau elusennol a gallwch synhwyro pa berlau sydd wedi eu cuddio oddi isod. Mae bragdy Felinfoel yn dal i weithio a'r tro diwethaf yr edrychais i, mae rhannau healaeth o hen fragdy Buckleys o hyd yn sefyll. Mae'r Llyfrgell a Neuadd y Dref yn adeiladau ysblennydd a dyw Parc y Strade ddim wedi diflannu eto!

Y pwynt rwy'n ceisio gwneud yw hwn. Mae 'na duedd wedi bod yn Llanelli (a phob man arall hefyd) i feddwl mai trwy ddymchwel a chuddio hanes y mae'r ffordd i lewyrch. Y gwrthwyneb sy'n wir, yn fy marn i.

Dyma fy nghyngor i. Breuddwydiwch yn fawr! Anghofiwch yr "hanging baskets", y ffug-fictoriana a'r goleuadau "tymhorol" shimpyl. Yng ngeiriau'r lle ei hun "shgwlwch be sy da chi"! Os oedd rhywun yn rhwygo mygydau ymdrechion blaenorol i "wella'r" dref i ffwrdd fe fyddai pobol efallai yn gweld bod lot mwy o'r hen Lanelli wedi goroesi na sy'n amlwg ar yr olwg gyntaf.

Hen ganol Llanelli, hyd y gwelaf i, yw'r lle gorau i allu synhwyro sut lefydd oedd cymunedau diwydiannol Cymru ar eu hanterth. Ag eithrio'r gweithfeydd eu hun (ac mae hynny'n eithriad o bwys) mae llawer dal yna ond yn gudd dan ymdrechion aflwyddiannus i "foderneiddio".

Dyma'r awgrym felly. Mae Huw wedi galw am ymdrech i ddiogelu capeli Llanelli. Rwy'n eilio'r alwad ond dwi am fynd un cam ymhellach. Mae cestyll Eryri, Pontcysylltau a Blaenafon eisoes yn safleoedd treftadaeth rhyngwladol. Beth am galw'r haneswyr a'r penseiri at ei gilydd i weld beth sydd ar ôl yn y dref ac i ystyried oes 'na ddigon i gyfiawnhau ychwanegu canol Llanelli at y rhestr? Fe fyddai hynny'n agor lot o ddrysau.

Os nad oes digon i gyfiawnhau'r statws hynny siawns bod 'na ddigon i geisio denu pobol ar sail treftadaeth canol y dref? Does bron dim byd arall i'w denu, wedi'r cyfan.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.