Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Titch a Cwacers

Vaughan Roderick | 13:45, Dydd Llun, 2 Tachwedd 2009

duck_203_203x152.jpgO am fod yn bry ar wal yng nghyfarfodydd "hustings" yr arweinyddiaeth Llafur!

Does dim angen Tardis i deithio yn ôl hanner canrif a mwy. Y cyfan sydd angen yw cerdyn aelodaeth Llafur i glywed cyhuddiadau bod y Western Mail yn "Tory rag", y Ö÷²¥´óÐã yn "cael ei rhedeg gan Blaid Cymru" a bod busnesau yn "our class enemy".

Pa ymgeisydd sy'n dweud pethau felly? Gwell i mi beidio ei henwi ond mae treigliadau'n adrodd cyfrolau weithiau!

Gyda llaw mae gwasanaeth newydd "Democratiaeth Fyw" ar gael yn. Mwynhewch!

Trwy gyd-ddigwyddiad mae Llywodraeth y Cynulliad newydd lansio sianel You Tube "". Mae 'na sianel "" hefyd ond hyd yma does dim cynnwys arni. Hwyrach y bydd Dewi Llwyd, John Meredith a finnau ar honna! Yn y cyfamser dyma Huw Edwards a Peter Snow ar noson fythgofiadwy yn 1997.

Mae'n ddiddorol nodi nad hwn yw'r tro cyntaf yn ddiweddar i'r llywodraeth ddefnyddio'r term "Government of Wales" yn hytrach na "Welsh Assembly Government". Ydy hynny'n arwydd o rywbeth sydd i ddod?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:42 ar 2 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Iestyn:

    "Mae'n ddiddorol nodi nad hwn yw'r tro cyntaf yn ddiweddar i'r llywodraeth ddefnyddio'r term "Government of Wales" yn hytrach na "Welsh Assembly Government". Ydy hynny'n arwydd o rywbeth sydd i ddod?"

    Wel, mae'r Cynulliad wedi bod yn ymgynull yn y Senedd ers ticyn. Rhywun yn deall pwer labeli, mae'n siwr...

  • 2. Am 10:01 ar 4 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Rhys:

    Mae Dafydd yn amau pa mor 'swyddogol' yw'r fideos You Tube.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.