Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyfarchion y Tymor

Vaughan Roderick | 13:31, Dydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2009

_42451871_oscar1_bodyap.jpgMae rhai o'r sylwadau heddiw wedi cyhuddo Mohammad Asghar o beidio rhoi rhagrybudd i'w staff am ei benderfyniad i newid plaid. Mae ffynonellau o fewn Plaid Cymru yn cadarnhau bod hynny'n wir.

Yn dechnegol mae'r staff yn cael eu cyflogi gan yr aelod nid y blaid. Ar bapur dylai penderfyniad yr aelod wneud dim gwahaniaeth i'w cyflogaeth. Yn realistig mae 'na ddyddiau llwm o'u blaenau. Ymhlith y pedwar gweithiwr syn cael ei gyflogi gan Oscar mae un o sêr ifanc Plaid Cymru, Steffan Lewis, darpar ymgeisydd y blaid yn Islwyn, ac un o'i hoelion wyth yng Nghaerffili John Taylor. Deallaf fod y staff mewn trafodaethau brys a'u hundeb.

Rwy'n synnu at allu Oscar a'r arweinydd Ceidwadol, Nick Bourne i gadw'r gyfrinach. Fe ddaeth y newyddion fel sioc i bawb ym Mhlaid Cymru a'r rhan fwyaf o Dorïaid hefyd. Efallai bod Nick yn ofni y byddai Ieuan Wyn Jones wedi llwyddo darbwyllo Oscar i newid ei feddwl pe bai'n cael y cyfle. Wedi'r cyfan, os mai cael ei wthio i lawr y rhestr gan Adam Price yn 2011 oedd yn becso Oscar (a dyna yw theori aelodau yn y ddwy blaid) efallai y byddai Ieuan wedi gallu lleddfu ei bryderon.

Yn y cyfamser mae'n rhyfeddod cyn lleied o amser wnaeth hi gymryd i newid ar wefan y Cynulliad. Ar y llaw arall go brin y bydd hyn yn wir am yn hir iawn;"Gwefan Personol; www.mohammadasghar.plaidcymru.org"

Mae'r holl helynt ynghylch Oscar wedi denu'r sylw i ffwrdd o ddiwrnod olaf Rhodri Morgan i ryw raddau ond roedd ei ateb olaf yn ei sesiwn gwestiynau olaf yn glasur!

Wrth ddisgrifio ffurfio clymblaid "Cymru'n Un" nododd bod Llafur wedi cymeradwyo'r glymblaid ar ddydd Gwener, Plaid Cymru wedi ei chefnogi ar y dydd Sadwrn a'i fod e wedi cael trawiad ar y galon ar y dydd Sul. Ai hwn gofynnodd y Prif Weinidog "oedd y tro cyntaf i'r croeshoeliad ddod tridiau ar ôl yr atgyfodiad?" Mae pawb yn mynd i golli leins fel 'na!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:38 ar 8 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Sion:

    Un peth ydy newid plaid am nad ydych yn gefnogol iw hegwyddorion craidd bellach, gallaf fyw â hynny er bod cwestiynau yn cael eu codi am hygrededd gwr sy'n penderfynu hynny ond sy'n parhau'n fodlon derbyn yr arian a'r statws daeth yn sgil bod yn aelod o'r blaid honno ar yr adeg cywir. Mae wedyn i wneud hynny heb roi unrhyw rhag hysbys i'w aelodau staff yn y munudau cyn iddo droi i fyny yng nghynadledd y wasg y Ceidwadwyr yn cadarnhau yn fy marn i nad oes gan egwyddorion lawer o le yn mhenderfyniadau Oscar. Mae hynny'n drueni am unrhyw wleidydd.

  • 2. Am 15:20 ar 8 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Aled G Job:

    Mae'r Toriaid yn ymddangos yn blaid fach shinachlyd iawn yn tynnu stynt fel hyn ar ddiwrnod olaf Rhodri. Ond dwi'n meddwl bod yna gwestiynau difrifol i'w gofyn am flaenoriaethau Plaid Cymru fan hyn hefyd, h.y ai'r gwir ydi bod y ffaith bod Mohammad Ashgar yn ticio'r bocsus iawn( cynrychioli lleiafrif ethnig) yn bwysicach yn eu golwg nhw na sicrhau eu bod nhw'n cymeradwyo cenedlaetholwr Cymreig? Mae datganiad Oscar heddiw "I have always believed in the Queen and the United Kingdom" yn dweud cyfrolau am hynny .

    Ond mae gen i ofn mai'r Cynulliad ei hun fydd yn dioddef fwyaf yn sgil yr helynt heddiw. Unwaith eto, mi gaiff y cyhoedd eu hatgoffa bod yna rhai gwleidyddion yn gosod eu buddiannau a'u diddordebau personol uwchlaw gwasanaethu eu plaid eu hunain heb son am wasanaethu'r cyhoedd. Yn waeth na hynny, byddd y sylw a gaiff y stori hon, yn arwain llawer mwy i gredu mai dyna ydi swm a sylwedd gwleidyddiaeth gyfoes bellach. Tydi'r narratif "mae'r cynulliad yn wahanol i san steffan" ddim yn dal cymaint o ddwr ar ol heddiw gwaetha'r modd. Rheswm arall dros bwyllo cyn rhuthro tuag at refferendwm ddwedwn i.

  • 3. Am 16:02 ar 8 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Helen:

    Sioc o'r mwyaf! Mae hefyd yn dangos y perygl i unrhyw sefydliad democrataidd o beidio â chynnwys cymal yn ei gyfansoddiad ynglyn ag aelodau sy'n newid eu plaid yng nghanol tymor eu gwasanaeth - dylent sefyll is-etholiad a chael eu hail-ethol yn eu lliwiau newydd - dyna fyddai'n gwneud synnwyr. Mewn theori, pe bai nifer fawr o aelodau unrhyw sefydliad o'r fath yn newid eu plaid dros nos, gallai'r sefydliad hwnnw droi'n gwbl groes i'r hyn yr oedd y bobl wedi'i ethol yn wreiddiol. Dylai hanes cyfansoddiad senedd yr Eidal yn 20au a 30au'r ganrif ddiwethaf a thwf ffasgaeth fod yn wers inni i gyd.

  • 4. Am 18:06 ar 8 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Giraldus:

    Helen - wyt ti dweud bod Oscar yn ffasgwr llechwraidd? Dw i'n meddwl y dylen ni wybod...

  • 5. Am 18:08 ar 8 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Dylan Llyr:

    Pa ffordd wnaeth Oscar bleidleisio ym mhenderfyniad y clymbleidio? Fel Tori, mae'n rhaid roedd o'n hynod daer o blaid yr Enfys felly doedd? Wel nagoedd. Dw i ddim yn siwr pa ffordd bleidleisiodd o yn y diwedd, ond roedd o'n ansicr hyd y diwedd yn ôl eich cofnod o'r cyfnod, Vaughan. Fe ddylai fod wedi bod yn benderfyniad hawdd, oni feddyliech? Mae'n rhaid gofyn a oes gan y gwr unrhyw egwyddorion o gwbl. Yn wir, ei ddatgeliad heddiw ei fod o blaid y Frenhines a'r Deyrnas Gyfunol (ac ei fod wedi bod erioed! Wnaeth o ffwdanu ymchwilio o gwbl cyn dechrau ar yrfa wleidyddol gyda Phlaid Cymru?!) ydi'r unig ddatganiad cadarnhaol o blaid unrhyw beth dw i'n cofio iddo'i wneud erioed.

    Dw i'n cofio adeg ei ethol yn 2007, roedd cryn amheuaeth ynglyn â'i egwyddorion. Fe nododd Blamerbell, ymysg eraill, ei fod wedi ceisio ymaelodi â nifer o bleidiau eraill cyn rhoi cynnig arni efo PC. Dyn rhyfedd.

    Mae'n codi cwestiynau difrifol am y ffordd mae Plaid Cymru'n dewis ymgeiswyr hefyd!

  • 6. Am 18:16 ar 8 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Gan ei fod yn aelod rhestr yna onid y Blaid sydd wedi derbyn y pleidleisiau yn hytrach na'r unigolion. Os felly yna dylid tynu ei enw oddi ar y rhestr ac ethol yr aelod oddi tano. Pwy oedd ef neu hi ?

  • 7. Am 19:11 ar 8 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mewn egwyddor efallai- ond nid yn ol y ddeddf. Colin Mann, cynghorydd o Gwm Rhymni oedd nesaf ar rest y blaid.

  • 8. Am 20:33 ar 8 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Sion:

    Yr enghraifft orau o hyn yn digwydd o'r blaen oedd Tommy Sheridan yn gadael yr SSP yn senedd yr Alban pan oedd yn aelod rhestr iddynt a sefydlu ei blaid ei hun.

    Y bai mwyaf ydy ar reolau'r Cynulliad yn sicr, dylid eu newid i amddiffyn pob plaid ar gyfer etholiadau nesaf y Cynulliad.

  • 9. Am 20:44 ar 8 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae Glyn Davies yn codi dadl diddorol i'r gwrthwyneb nad oedd wedi fy nharo. Pe bai aelod etholaeth oedd wedi newid ei blaid yn ymddiswyddo fe fyddai gan yr etholwyr gyfle i farnu y naill ffordd neu'r llall. Yn achos aelod rhestr byddai 'na ddim cyfle i'r etholwyr gael dweud eu dweud ynghylch ai'r dyn neu'r blaid oedd wedi derbyn eu pleidlais.

  • 10. Am 08:30 ar 9 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Guto Dafydd:

    Dwi'n cytuno efo'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywedwyd yma'n barod - mae PR da gwleidyddol-gywir y Blaid wedi bacffeirio arnynt: maen nhw'n edrych fel pobl sy'n barod i egsbloetio rhywun o leiafrif ethnig er eu dibenion eu hunain. Dydi hynny wrth gwrs ddim yn esgusodi ymddygiad Oscar ac os oes unrhyw amheuaeth ynghylch ei anhrydedd neu'i egwyddorion, y ffaith na ddywedodd wrth ei staff am hyn yw'r prawf. Ond mae hyn wedi dangos bod y Blaid yn fodlon cymryd unoliaethwyr a monarchwyr jest am yr enw da - gwarthus. Ar dwi'n dweud bod Ieuan Wyn Jones wedi bod i weld Oscar yn bersonol, ac mae 'na ddyfyniad blasus ac eironig gan Bethan Jenkins.

  • 11. Am 10:25 ar 9 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Rhys:

    Rwy'n falch i weld bod y drefn ddeuol problematig o aelodau etholaethol a rhanbarthol eto. Yn ogystal â'r problem o aelodau'n gadael eu pleidiau, mae'r ffaith gall amgylchiadau penodol mewn un etholaeth olygu bod aelodau rhanbarthol profiadol yn medru colli eu seddi (e.e. Glyn Davies yn colli ei sedd oherwydd llwyddiannau sir Benfro). Efallai bod angen meddwl am ddiwygio'r drefn 'ma yn y dyfodol agos.

    Un awgrym yw mynd at etholaethau aml-aelod gyda system STV wedi eu seilio ar yr awdurdodau unedol (a fydd yn osgoi etholaethau sy'n treosesgyn tri sir). Bydd modd yna i nifer o'r aelodau ym mhob sir-etholaeth fod yn seiliedig ar eu cyfran o'r boblogaeth - e.e. Caerdydd, â 10% o etholwyr cymru, a 6 AC, neu 10% o'r aelodau.

    Bydd hwn yn datrys y math broblem o croesi'r llawr gan taw unigolion, nid pleidiau, bydd yn cael eu hethol. Bydd rhaid, felly, iddynt wynebu'u hetholwyr rywbryd, tra'n osgoi problem systemau cynta' heibio'r postyn.

  • 12. Am 12:51 ar 9 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Helen:

    Giraldus, yr egwyddor sydd gen i dan sylw, nid y sefyllfa unigol bresennol - mae angen i unrhyw gorff etholedig ei warchod ei hun ymlaen llaw rhag i aelodau unigol newid eu plaid, fel y bydd y corff dan sylw yn parhau i adlewyrchu dymuniadau'r etholwyr adeg yr etholiad. Yn anffodus, dwy ddim yn credu y gallai unrhyw newidiadau cyfansoddiadol yn y Cynulliad fod yn ôl-weithredol, mae'r digwyddiad anffodus diweddar eisoes wedi bod, ond bydded hyn yn wers at y dyfodol - hoffwn weld newid cyfansoddiadol yn gofyn am is-etholiad neu, yn achos aelodau rhanbarthol, am ddewis y person nesaf yn y rhestr y blaid yr oedd y gwrthgiliwryn ei chynrychioli'n wreiddiol.

    Rhaid cofio hefyd nad yw'r sefyllfa hon yn unigryw - tua dechrau'r 80au, trodd nifer fawr o Aelodau Seneddol (Llafur yn bennaf, ond nid yn ddi-eithriad, cofier C. Brocklebank-Fowler) at yr SDP, wedi'u sbarduno gan y Gang o 4 (y Campaign for Labour Victory tua diwedd y 70au), sef D. Owen, S. Williams, R. Jenkins a W. Rogers, a oedd ar y dde i'r Blaid Lafur ar y pryd. Ychydig yn unig o is-etholiadau a gynhaliwyd o ganlyniad, gan mai rhywbeth gwirfoddol oedd cynnal is-etholiadau yn y fath sefyllfa. O ganlyniad, newidiodd cyfansoddiad y SEnedd ar y pryd, o ryw fymryn, berth bynnag. Yn fwy diweddar, gwelwyd AS Stratford, Alan Howarth, yn gadael y Blaid Geidwadol i ymuno â'r Blaid Lafur, yng nghanol tymor Seneddol - heb angen is-etholiad.

    Yn fy meddwl i, mae'n rhaid unioni'r sefyllfa - yr egwyddor sy'n bwysig yma. Fel arall, mewn theori, gallai cyfansoddiad unrhyw gorff etholedig 'democrataidd' newid dros nos.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.