Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

A'i Wyddfa yw Bodafon

Vaughan Roderick | 15:16, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

pont_menai.jpgDwi wastad yn garcus wrth drafod gwleidyddiaeth Môn. Does 'na'r unlle yn debyg i'r fam ynys!

Y Ceidwadwyr sy'n gyfrifol am y tro trwstan diweddaraf ar yr ynys yn sgil ymddiswyddiad eu darpar ymgeisydd, Trefor Jones.

Dydw i ddim yn gwybod pam yn union y gwnaeth Trefor benderfynu rhoi'r ffidl yn y to. Roedd e'n ymgeisydd dawnus ac atyniadol ac rwy'n sicr na fyddai wedi tynnu ei enw yn ôl ar chwarae bach. Beth bynnag oedd ei resymau mae'n amlwg nad yw e wedi pechu arweinyddiaeth genedlaethol y blaid. Heddiw mynegodd Nick Bourne obaith y byddai Trefor yn sefyll yn etholiad Cynulliad 2011.

Ta beth, fe adawodd penderfyniad Trefor Torïaid yr ynys mewn picl. Roedd ambell i Dori am ddewis ymgeisydd lleol ond methiant fu eu hymdrechion i ddarbwyllo'r swyddfa ganolog i ganiatau dewis ymgeisydd nad oedd ar restr genedlaethol y blaid. Pwy i ddewis, felly?

Gyfeillion, mae'n bryd i ni gwrdd ag Anthony Ridge-Newman. Mae 'r ymgeisydd newydd yn gynghorydd yn Surrey ond peidied neb a meddwl nad oes ganddo gysylltiadau a Chymru. Mae datganiad newyddion y blaid yn cynnwys tystiolaeth bendant o hynny.

Cawn wybod hyn er enghraift; "Anthony is proud of the fact that he has climbed Mount Snowdon, not once but twice!"

Mae ganddo fe deulu yng Nghymru hefyd er bod ei wybodaeth ddaeryddol yn ymddangos braidd yn simsan.

"Anthony, aged 31, has Welsh heritage from the Williams family of Pontycymmer in the Rhondda Valley. Although he grew up in Worcestershire, he has always been passionate about being part Welsh."

Y tro diwethaf i mi edrych yng Nghwm Garw yr oedd Pontycymmer. Cofiwch, mae'n bosib bod Pontycymmer wedi symud!

Serch hynny ar hyn o bryd mae'n anodd osgoi'r casgliad bod y Cyng. Ridge-Newman yn fwy o Roger Evans na Keith Best!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:36 ar 12 Ionawr 2010, ysgrifennodd Hogygog:

    Mae'n siwr fod Peter Rogers wrth ei fodd !
    Mi wnes i gyfarfod y cyn-ymgeisydd Trefor Jones ddwywaith neu dair, ac nid wyf yn synnu iddo dynnu'n ol . Nid oeddwn yn gweld calibr AS o fath yn y byd ynddo, ond rhwyun a ddewiswyd oherwydd mai Cymro Cymraeg ydoedd .

  • 2. Am 09:26 ar 13 Ionawr 2010, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Fydd Peter Rogers wrth ei fodd efo popeth sy'n digwydd ar Sir Fôn ar hyn o bryd o ran llwyddiant ei ymgyrch - gyda helyntion diweddar Gaerwen, Wylfa ac Aliwminiwn Môn. Gydag Albert Owen yn aelod o blaid amhoblogaidd sy'n llywodraethu dros ddirwasgiad, ac hefyd Ieuan Wyn Jones yn methu â diogelu'r swyddi hyn er ei fod yn dal portffolio'r economi, gallai Llafur a Phlaid Cymru wneud yn waeth na'r disgwyl, er budd Peter Roges.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.