Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwesty Cymru a Hotel Rwanda

Vaughan Roderick | 13:32, Dydd Mercher, 10 Chwefror 2010

_40094446_peter_hain_203.jpgWel, dyma i chi rhywbeth i ddathlu. Mae Cymru yn "gymharol gyfoethog" yn ôl Peter Hain. O gymharu â phwy? Coeliwch neu beidio, yr ateb yng ngolwg Ysgrifennydd Cymru yw Rwanda!

Dyma ei union eiriau yn y senedd heddiw wrth ymateb i gyhuddiad gan David Jones ei fod yn hunanfodlon ynghylch cyflwr economi Cymru.

"Does he not agree, that compared with Rwanda, and most other countries of the rest of the world is the point I was making, if he'd not chosen to take the quote out of context; that Wales is indeed still a wealthy country?"

Dyma i chi ychydig o ffeithiau am Rwanda.

Mae trigolion y wlad ac incwm o $410 y flwyddyn ar gyfartaledd yn ôl y "World Bank". Mae dynion ar gyfartaledd yn byw i fod yn 48. Mae 7% o'r boblogaeth yn berchen ar ffôn ac mae 1% yn defnyddio'r rhyngrwyd.

Teg yw dweud felly bod Peter Hain yn ffeithiol gywir.

Diweddariad Mae Peter newydd ryddhau'r datganiad yma;

"Frankly, I could have chosen my words more carefully. Of course no one is suggesting that Wales has ever suffered from poverty on the same scale as in Africa.

My point was that home repossessions and job losses in Wales are, thankfully, at a much lower level than under the disastrous recessions of the 1980s and 1990s when Conservative Governments were in power."

Oes 'na derm Cymraeg am "non sequitur"?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:07 ar 11 Chwefror 2010, ysgrifennodd Iwan:

    Felly hyd nes bod Cymru yn dlotach na Rwanda, does dim angen i ni boeni. Diolch Peter, diolch Llafur, a diolch Lloegr!

  • 2. Am 21:26 ar 11 Chwefror 2010, ysgrifennodd Jon Jones:

    Ond mae Cymru yn wlad cymharol gyfoethog. Mae GDP y pen yma tua $23-24,000. Os oedd Cymru'n gwlad annibynnol, fase hyn yn meddwl bod tua 50 gwlad yn fwy cyfoethog na ni a tua 170 yn dlotach. 'Dwi ddim yn cytuno gyda'r gymhariaeth gyda Rwanda, ond mae'r pwynt sylfaenol yn sownd - mae Cymru yn wlad cymharol gyfoethog. Pam ydym ni'n ymfalchïo bod ni'n wlad dlawd - rhan o'n "cultural cringe" siŵr o fod.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.