Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Deuparth ffordd ei gwybod

Vaughan Roderick | 18:37, Dydd Llun, 8 Chwefror 2010

Rhydfelenbad.jpgMaddeuwch i mi bod y blogio wedi bod yn ysgafn y dyddiau diwethaf yma. Rhwng mynychu'r hwn a chadeirio'r llall mae pethau wedi bod yn brysur!

Heddiw bues i'n cadeirio trafodaeth ynghylch y mesur iaith arfaethedig wedi ei threfnu gan fudiadau dathlu'r iaith gan ryfeddu, nid am y tro cyntaf, at athrylith a dawn geiriau Gwion Lewis.

Mewn gwirionedd roedd y drafodaeth braidd yn rhyfedd gan fod 'na ambell i wleidydd, gwas sifil a sbad yn y gynulleidfa yn gwybod yn iawn beth yw cynlluniau'r llywodraeth tra bod eraill yn gorfod ceisio dyfalu. Troi o gwmpas y gwahaniaethau rhwng hawliau, safonau a dyletswyddau wnaeth y drafodaeth. Dydw i ddim am fynd i fanylion yn fan hyn ond fe gafwyd un enghraifft hynod ddifyr o'r fath o gwestiynau fydd yn lliwio'r ddadl mewn blynyddoedd i ddod.

Michael Jones o'r mudiad "Rhieni Dros Addysg Gymraeg" wnaeth roi'r wers hanes wrth gyfeirio yn ôl at y cymal yn neddf addysg 1944 sy'n sylfaen i'r gyfundrefn addysg Gymraeg. Mae pob un ysgol Gymraeg yn bodoli ar sail y cymal hwnnw sy'n ymddangos yn gymharol ddi-nod. Cymal 76 yw'r un perthnasol a dyma'r frawddeg allweddol;

"... local education authorities shall have regard to the general principle that, so far as is compatible with the provision of efficient instruction and training and the avoidance of unreasonable public expenditure, pupils are to be educated in accordance with the wishes of their parents."

Y geiriau "dymuniad eu rhieni" oedd y sail i bob ymdrech ac ymgyrch i sefydlu ysgol Gymraeg o 1944 ymlaen. Bu llawer yn frwydrau hir a chaled. Mae'r rheswm am hynny yn amlwg o eiriad y cymal. Gosod dyletswydd, a hynny'n ddyletswydd hawdd ei osgoi, ar gynghorau oedd y ddeddf nid rhoi hawl di-amod i rieni fynnu addysg Gymraeg i'w plant. Dyna oedd yn gyfrifol am yr hyn y mae llawer yn ystyried yn "gywilydd Gorllewin Morgannwg"- y ffaith ysgytwol bod y cyngor hwnnw wedi llwyddo i osgoi agor yr un ysgol gynradd Gymraeg newydd o ddyddiad ei sefydlu yn 1974 i'w ddiflaniad yn 1996.

Mae pethau wedi newid ers sefydlu'r cynulliad. Erbyn hyn mae disgwyl i gynghorau gynnal ymchwil o flaen llaw i asesu maint tebygol y galw am addysg Gymraeg a chynllunio ar ei gyfer. Yn ôl Michael mae'r asesiadau yn effeithiol. Mae p'un ai ydy hynny'n esgor ar weithredu ai peidio yn fater arall.

Cymerwch un enghraifft o eiddo Michael sef y clwstwr o bentrefi rhwng Llantrisant a Phontypridd sy'n ffurfio dalgylchoedd Ysgol Castellau ac Ysgol Gynradd Gartholwg. Fel un wnaeth dreulio rhan o'i blentyndod yn Efail Isaf mae'r peth yn ryfeddod i mi ond mae'n bosib mai'r ardal fach yma fydd y lle cyntaf yn y Gymru di-Gymraeg lle bydd y mwyafrif o'r plant yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng yr iaith.

27.6% o blant yr ardal oedd yn derbyn addysg Gymraeg yn 2008 ond yn ôly Cyngor yn y flwyddyn honno roedd rhieni o gwmpas 35% o'r plant oedd heb gyrraedd oedran ysgol yn dymuno addysg Gymraeg i'w plant.

Pa ymateb sydd wedi bod gan y Cyngor? Dim hanner digon yn ôl Rhag a chan mae dyletswydd ar y cyngor yn hytrach na hawl i rieni yw sylfaen y gyfundrefn o hyd mae'n bosib i gyngor sy'n dymuno llusgo ei draed wneud hynny.

Ni fydd addysg yn rhan o'r Mesur Iaith sydd i'w gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf ond mae'n debyg y bydd 'na fesur yn ymwneud ac addysg Gymraeg yn y Cynulliad nesaf. Gallai'r union gydbwysedd rhwng hawliau, safonau a dyletswyddau yn y mesur cyntaf osod cynsail hynod o bwysig.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 07:30 ar 9 Chwefror 2010, ysgrifennodd Athro :

    Yn anffodus, mae dymuniad rhieni'n gallu gweithio'r ddwy ffordd . Mae nifer o ysgolion uwchradd 'Cymraeg ' Gorllewin Cymru'n dysgu mathemateg a gwyddoniaeth drwy gyfrwng yn ddwyieithog , ac yn debygol o barhau i wneud hynny. Onid gwrthwynebiad rhieni a esgorodd ar ddadl ffyrnig yn Ysgol Bro Myrddin rai blynyddoedd yn ol ?
    Mae dilyniant naturiol i'w weld i'r Dwyrain o'r Llwchwr o ysgolion cynradd i'r ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg. Nid yw hynny yn wir yn yr hen Dyfed .

  • 2. Am 11:28 ar 9 Chwefror 2010, ysgrifennodd Alun o Gasnewydd:

    Mae Meicel fel arfer yn taro'r hoelen ar ei phen. Rhywbeth sydd yn cydfynd gyda hyn oll, sef canlyniadau agor ysgolion cynradd ac Uwchradd Cymraeg yn y De Ddwyrain. Edrychwch ar arolwg Bwrdd yr iaith ar "Nifer a Chanran siaradwyr 3 oed + (adran etholiadol & oedran)"

    Mae yn amlwg ble mae'r cynnydd a phaham mae hyn wedi / yn digwydd. Diolch fyth bod pobol cadarn wedi brwydro yng Ngwent yn y 70au ar 80au yn mynnu ein bod yn cael ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn erbyn gwrwynebiad cryf a chas weithiau gan llawer i gynghorwr bach o fewn y Cyngor Sir

  • 3. Am 12:43 ar 9 Chwefror 2010, ysgrifennodd Welbru:

    Oni ddylen ni feddwl am system hollol newydd i'r Gymru newydd er enghraifft ysgolion dwyieithod i bawb. Cymraeg yn y bore a Saesneg yn y p'nawn i bawb yn yr ysgol gynradd a dewis fesul pwnc yn yr ysgol Saesneg.
    Neu ryw system arall.

  • 4. Am 17:31 ar 9 Chwefror 2010, ysgrifennodd Athro:

    Parthed 3 : Syniad hurt fuasai'n troi y cloc yn ol . Buasai'n distrywio poilsi iaith Gwynedd , a hyd yn oed yn waeth na pholisi iaith yrb hen Dyfed . Y gwir broblem yw agwedd disgyblion ac athrawon at y Gymraeg yn yr ysgolion di-Gymraeg. Bum yn dysgu fy hun mewn un , ac mae'r gwrth-Gymreictod yn amlwg. Tybiaf hefyd nad yw'r ysgolion yna yn cael llawer o ansawdd yn eu hymgeiswyr am swyddi dysgu Cymraeg . Mae'n gylch dieflig.

  • 5. Am 23:26 ar 9 Chwefror 2010, ysgrifennodd Andrew, Llanilltud Faerdref:

    Mae'r pwynt ynglŷn ag ysgolion rhwng Pontypridd a Llantrisant yn un sy'n peri ofn imi. Disgybl yn chweched Ysgol Gyfun Rhydfelen ydwyf - o deulu Saesneg fel mae'n digwydd - sydd felly wedi teimlo grym cyflawn gwrth-Gymreictod cyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'n arwyddocaol eich bod wedi defnyddio bathodyn ac arwyddair yr ysgol - gan fod y cyngor yna wedi gwneud popeth a medron nhw i ladd enw, bathodyn a hanes yr ysgol, er protestiadau gan y mwyafrif llethol o athrawon, disgyblion, ac yn groes i'r ddeddf uchod: rhieni. Os mai'r cyngor yma bydd yn derbyn yr ardal â'r mwyaf o ddisgyblion Cymraeg, rhaid gofyn cwestiynau am eu gallu nhw i ymdopi a gofynion rhieni, sydd yn amlwg yn groes i'w syniadau nhw fel cyngor. Heb neges glir bod y Gymraeg yn iaith i'w defnyddio, yn un gydradd â Saesneg - neges nad sydd, o'm profiad i wrth gerdded coridorau'r ysgol, yn cyrraedd y plant iau, nag, yn anffodus, y rhai hŷn - mae'n amhosib newid yr agwedd yr agwedd yma. Efallai gaw y rhieni addysg Gymraeg i'w plant. Ond os nad yw R.C.T. yn medru edrych ar ôl yr ysgol gyfun hynaf yn Ne Cymru, 'dwi'n amau sawl plentyn daw allan gydag unrhyw fymryn o barch tuag at yr iaith.

  • 6. Am 12:40 ar 10 Chwefror 2010, ysgrifennodd welbru:

    Athro: syniad hurt? Roeddwn i'n sôn am bob plentyn yng Nghymru. Llawer mwy no phoblogaeth Gwynedd.
    Dydw i ddim yn synnu os oes yna ddrwgdeimlad pan mae athrawon di-Gymraeg yn cael eu gorfodi i ddysgu Cymraeg i blant er eu bod nhw eu hunain prin yn gallu siarad yr iaith a gorfodi darpar athrawon i siarad Cymraeg (gwael) yn lle hyfforddi athrawon Cymraeg sydd yn arbennigo yn hynny i deithio o amgylch ysgolion cynradd.
    Beth am agwedd disgyblion tuag at y Gymraeg mewn ysgolion Cymraeg eu hiaith? Dwi'n edrych ar y rhai oedd yn yr ysgol efo fi a sydd rwan ar Facebook, dim ond y rhai o deuluoedd ble mae'r fam yn siarad Cymraeg, sydd yn siarad unrhyw Gymraeg rwan er bod nhw'n gefnogol i'r Gymraeg. Mae'n rhaid cyfaddef bod y system rawn ddim yn berffaith.
    Allwn i gario ymlaen i whanau 'ysgolion Cymraeg' ac 'ysgolion Saesneg' am byth a'r holl ffraeo (ffafriaeth i'r Gymraeg etc.) sydd o'i amgylch? Dwyieithrwydd i bawb?

  • 7. Am 17:52 ar 10 Chwefror 2010, ysgrifennodd Athro:

    'Ffafriaeth i'r Gymraeg ' ? Hwre os yw hynny'n wir . Mae llawer o gyflogwyr yma yn y Gogledd (fel yn ddiweddar yn 'Stiniog)a fuasai'n fwy na parod i wrthbrofi hynny .
    Tydi ysgolion ddim wedi eu gwahanu mor syml a hynny. Mae llawer o ysgolion
    (Gelwir hwy yn 'draddodiadol' Gymraeg fel arfer). Mae ambell i ysgol arall
    ( yn ein trefi prifysgol) sydd yn smalio cynnig darpariaeth Cymraeg er mwyn denu disgyblion. Dwi'n cytuno, serch hynny , mai prin yw'r plentyn o gartref di-Gymraeg sy'n defnyddio'r Gymraeg yn gyson yn gymdeithasol ar ol gadael ysgol. Fel cyflwynwyr Radio Cymru a S4C , a dweud y gwir.

  • 8. Am 12:21 ar 11 Chwefror 2010, ysgrifennodd Welbru:

    "Tydi ysgolion ddim wedi eu gwahanu mor syml a hynny. Mae llawer o ysgolion
    (Gelwir hwy yn 'draddodiadol' Gymraeg fel arfer). "

    Dwi'n cytuno nad oes yna ddim ffafriaeth ond gyda mwy o alwad am ysgolion Cymraeg a rhai newydd yn cael eu hagor o achos hynny, mi all edrych fel ffafriaeth. Bydd rhieni di-Gymraeg yn poeni na fydd eu plant yn gallu ffeindio swyddi yn y dyfoodol ond ddim yn fodolon gyrru eu plant i ysgolion Cymraeg hollol a dyna pam roeddwn i'n meddwl y byddai ysgolion dwy-ieithog yn apelio. Math o ysgol ddwyieithog ydy'r ysgolion 'traddodiadol Gymraeg' yng Ngwynedd os ydw i'n deall yn iawn, rhai pynciau'n cael eu dysgu drwy'r Gymraeg a rhai drwy'r Saesneg...

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.