Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Barnu'n deg

Vaughan Roderick | 10:35, Dydd Gwener, 12 Mawrth 2010

schools_sub1.jpgFe gododd Guto Bebb bwynt diddorol ar CF99 y noson o'r blaen. Honnodd fod yr awgrymiadau cyson bod y ras rhwng y Ceidwadwyr a Llafur yn un agos wedi eu lliwio gan y ffaith bod arolygon YouGov yn cael eu cyhoeddi'n ddyddiol a bod y rheiny yn ffafrio Llafur. Yn ôl Guto mae arolygon gan gwmniau eraill yn awgrymu bod y Ceidwadwyr o hyd yn arwain yn gyffyrddus.

Nid ym Mhrydain yn unig y mae YouGov yn wynebu cyhuddiadau bod ei methodoleg yn ffafrio'r chwith. Yn yr Unol Daleithiau mae nifer o sylwebyddion gwleidyddol yn anwybyddu polau Rasmussen/ Noson Lawen a YouGov- y naill am ffafrio'r Gweriniaethwyr a'r llall am ffafrio'r Democratiaid. Mae hyd yn oed y "" un o brif wefannau'r chwith yn disgrifio arolygon YouGov fel hyn "crappy internet polls that lean Democratic".

Y safle gorau i weld canlyniadau'r holl arolygon diweddar yw "" ac wrth edrych ar yr ystadegau mae'n amlwg bod gan Guto bwynt. Yn ôl arolwg diweddaraf YouGov dim ond tri phwynt sy'n gwahanu'r ddwy blaid fawr ac mae'r gwahaniaeth wedi bod yn llai na chwech y cant ers wythnosau.

Mae cwmnïau eraill sy'n cyhoeddi eu canlyniadau yn llawer llai aml na YouGov yn awgrymu bod yr adwy llawer yn fwy. +9 oedd ffigwr ddiwethaf Ipsos Mori, er enghraifft.

Nid bod hynny'n golygu nad yw'r ras wedi closio. Roedd y cwmnïau i gyd o'r farn bod yr adwy mewn ffigyrau dwbl hydref diwethaf. Y cwestiwn yw ydy'r adwy wedi cau i'r graddau y mae YouGov yn honni? Fe gawn wybod yn ddigon buan.

Y broblem i'r Ceidwadwyr yw bod y polau yn gallu creu'r naratif trwy ddylanwadu ar ganfyddiad yr etholwyr. Dyna'r rheswm am y rheolau caeth iawn sydd gan y Ö÷²¥´óÐã ynghylch comisiynu a chyhoeddi arolygon barn. Maen nhw'n boen weithiau ond mae 'na reswm da drostyn nhw.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.