Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Danteithion Dydd Mawrth

Vaughan Roderick | 08:18, Dydd Mawrth, 27 Ebrill 2010

exchange.jpg

Rwyf wedi dweud droeon mai hwn yw'r etholiad cyffredinol mwyaf diddorol fedra i gofio ac mae pobol tu hwnt i'r ynysoedd yma wedi dechrau sylwi. Dyma i chi erthygl gan Denis Campbell ar o un o brif wefannau gwleidyddol America.

Doeddwn i ddim yn y gynhadledd newyddion Llafur ddoe ond mae 'na ddyfyniad rhyfedd iawn gan Peter Hain yn adroddiad Martin Shipton yn y ,

"He added that Plaid Cymru was in danger of "leaving their backdoor open" in the west Wales seats of Llanelli and Carmarthen East by pouring all its resources into Ceredigion, which the nationalists are trying to retake from the Liberal Democrats."

Plaid Cymru'n gadael "drws cefn ar agor" yn Llanelli? Beth ar y ddaear mae hynny'n golygu?

Chwi gofiwch, mae'n sicr Elfyn Llwyd yn cael tipyn o grasfa a'r Dragon's Eye. Fe dalodd Plaid Cymru'r pwyth yn ôl neithiwr ar Newsnight.

Dyma'r munudau perthnasol.

A dyma ddarn bach o Rialtwch etholiadol. Mae'n anghyfreithlon ym Mhrydain i ymgeisydd gynnig diod (hyd yn oed diod feddal) i etholwr. Peidied neb a chopïo gimig yr ymgeisydd yma o Aspen felly!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:22 ar 27 Ebrill 2010, ysgrifennodd Meiriona:

    Eurfyl ap Gwilym yn chwalu Jeremy Paxman: dim rhyfedd fod Gordon Brown wedi rhwystro Eurfyl rhag cynrychioli Plaid Cymru yn yr Ail Dy. Diolch i ti am y blog, Vaughan - mae'n wych.

  • 2. Am 11:37 ar 27 Ebrill 2010, ysgrifennodd Mabon:

    Eurfyl ap Gwilym 1
    Paxman 0

    Waw!
    Dwi erioed wedi gweld rhywun yn cael y gorau ar Paxman fel hyn o'r blaen (tua 35munud i fewn i'r rhaglen).
    Mae'n mynd i ddangos mae dim ond angen bod 1 cam o flaen y gwrthwynebydd sydd angen - mae Eurfyl filltiroedd o flaen Paxman yma!

  • 3. Am 12:29 ar 27 Ebrill 2010, ysgrifennodd Elin:

    Ai ddoe oedd diwrnod Cymru Ö÷²¥´óÐã Rhwydwaith? Y trip un-dydd arferol i'r "outpost"? Wrth i bobol ffoli am gyfweliad Eurfyl ap Gwilym hawdd anghofio am y darn hynod gamarweiniol, unochrog oedd yn ffeithiol anghywir oedd gan Alan Little ar News at 10 neithiwr. Darn yn edrych ar ddatganoli pellach i Gymru gyda 3 llais yn erbyn datganoli pellach a dim un o blaid. Darn oedd yn awgrymu y byddai datganoli pellach yn golygu trethi uwch, pan nad yw hynny'n opsiwn. Darn oedd yn awgrymu mai dim ond cefnogwyr Plaid Cymru yn y gogledd sy'n cefnogi datganoli pellach pan gafwyd pleidlais unfrydol o blaid refferendwm yn y Cynulliad. Mae pob arolwg diweddar - gan gynnwys un dydd gwyl Ddewi y Ö÷²¥´óÐã - yn dangos mwy o gefnogaeth i ddatganoli pellach gyda'r gagendor dros 20% yn arolwg y Ö÷²¥´óÐã.
    Vaughan, rwy'n gwybod dy fod ti a Betsan a dy gyd-weithwyr yn tynnu'ch gwallt o'ch pen gyda phethau fel hyn a'ch bod chi'n gweithio'n ddyfal i "addysgu" gohebwyr Llundeining am yr hyn sy'n digwydd yma. Ond mae darlledu adroddiad fel hyn ar adeg mor sensitif o ran etholiad yn gwbl angyhyfrifol. Ydy adroddiad King wedi mynd yn angof ac yn casglu llwch ar silffoedd Broadcasting House?

  • 4. Am 12:42 ar 27 Ebrill 2010, ysgrifennodd Alun o Gasnewydd:

    Dyma'r cyfweliad gorau eto. Dyle hwn fynd lawr mewn hanes a rhoi mewn arceif i hyfforddi seneddwyr Plaid Cymru yn y dyfodol

    Byddwn ni yn dweud:

    Eurfyl ap Gwilym 100
    Paxman 0

    Beth ddigwyddodd i Elfyn Llwyd te?? nid fel fe i fod mor llipa!!!

  • 5. Am 15:40 ar 27 Ebrill 2010, ysgrifennodd FiDafydd:

    Mae Elin yn iawn, Ö÷²¥´óÐã Llundain mor ddiog a nawddoglyd a di-glem ag erioed. Ydyn nhw'n cysylltu hefo pobl fel chdi a Betsan o gwbl am gyngor, Vaughan? Pam ddylwn i gredu unrhyw beth sydd yn adroddiadau mynych y boi yma o wledydd tramor pan fydd o'n creu nonsens fel hyn wrth drafod Cymru?

    Ydi'r Ö÷²¥´óÐã yn sylweddoli pa mor ddylanwadol ydyn nhw? A ydyn nhw'n malio? Neu, ac mae rhywun yn gorfod gofyn y cwestiwn - a ydyn nhw'n gwybod yn iawn beth maen nhw'n ei wneud?

    Does dim yn fy ngwylltio i'n fwy na'r newyddiaduraeth ddiog sy'n peri i dde Cymru fod yn un uned a'r un fath am y gogledd.

    Beth oedd barn Huw Edwards tybed?!

  • 6. Am 17:00 ar 27 Ebrill 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae rhai yn dewis gofyn ein cyngor ac eraill ddim.

  • 7. Am 18:04 ar 27 Ebrill 2010, ysgrifennodd Adam Jones:

    ateb cyfyng iawn fynna mae rhaid dweud Mr Roderick mae'n amlwg bod yr adroddiad yma wedi creu trafferthion i'r BBc ac mi fydda i'n ysgrifennu e-bost o gwyn atynt wedyn i ddatgan pa mor anhapus ydwyf gyda'r dwli na yn y fideo!.

    Ond Ie da iawn Eurfyl hen brydi rywun rhoi paxman yn ei le!!

  • 8. Am 18:11 ar 27 Ebrill 2010, ysgrifennodd Daniel:

    Ai ofni am ei ddrws cefn ei hun mae Peter Hain yn ei isymwybod sgwn i? Wn i ddim am Gastell Nedd, ond dim ond posteri Plaid Cymru ac Alun Llywelyn sydd i'w gweld yng Nghwm Tawe. (Gwn yn iawn y gall hyn fod yn gwbl gamarweiniol, ond mae'n drawiadol yn yr etholiad yma). Taflen etholiad heb air o Gymraeg oddi wrth y Dem Rhydds a'r Toriaid, a Chymraeg hollol garbwl ar daflen Peter Hain. Hynny mewn trefi fel Ystalfera sydd a dros 50% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Gobeithio i drigolion Castell Nedd wylio Newsnight neithiwr.

  • 9. Am 18:43 ar 27 Ebrill 2010, ysgrifennodd Adferwr:

    Os oes un gwr yn haeddu cael ei ethol, Alun Llywelyn yw hwnnw.
    Gwr egwyddorol, diflino sydd wedi ymladd dros ei filltir sgwar ers cenhedlaeth . Dylai fod yn uwch ei broffil na rhai o'r corachod a'r corachesau sy'n rwdlian dros y Blaid ym mae Caerdydd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.