Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ar y ward

Vaughan Roderick | 17:11, Dydd Gwener, 16 Ebrill 2010

clegg.jpgEfallai nad yw Nick Clegg yn gyfarwydd â newyddiadurwyr yn syllu'n ofalus ar bob gair sy'n dod o'i enau- y fath o scriwtini mae Gordon Brown a David Cameron yn dioddef yn ddyddiol. Efallai y bydd angen iddo ddewis ei eiriau'n fwy gofalus o hyn ymlaen.

Gadewch i ni edrych ar un peth ddywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y ddadl neithiwr.

Yn ystod y drafodaeth ynghylch mewnfudo disgrifiodd Mr Clegg ymweliad ag "ysbyty plant" yng Nghaerdydd. Ysbyty'r Brifysgol yn y Mynydd Bychan oedd yr ysbyty hwnnw. Dyma ddisgrifiad Nick Clegg o'r hyn ddigwyddodd.

"There was a ward standing completely empty, though it had the latest equipment. I said to the ward sister 'What's going on? Why are there no babies being treated?' She said 'New rules mean we can't employ any doctors from outside the European Union with the skills needed'. That's an example of where the rules are stopping good immigration which actually helps our public services to work properly."

Beth sydd gan yr ysbyty i ddweud? Wrth reswm, dydyn nhw ddim am fod yn rhan o ffrae etholiadol ond does 'na ddim "ward standing completely empty" yn adran blant y Mynydd Bychan. Yr hyn sydd 'na yw pedwar crud sy'n wag mewn ward o drideg pedwar.

Yn ôl yr ysbyty fe benderfynwyd yn 2009 i gadw'r crudau'n wag oherwydd prinder meddygon arbenigol addas. Mae'r ysbyty yn cadarnhau bod hynny'n broblem trwy Brydain yn y maes arbennig yma.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:22 ar 16 Ebrill 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    Rhaid cofio fod dau rownd ar ol. Gall hi fod yn beryglus galw gornest focsio ar ol y rownd gyntaf. Un dyrniad sydd ei angen ar gyfer "knockout" ond mae Nick Clegg wedi gosod ei farc ac wedi gwneud argraff, yr anhawster fydd cynnal gobeithion pobl. Yn y gorffennol roedd y Lib Dems yn cael ei diystyru fe fydd hyn yn anoddach rwan. Dwi yn edrych ymlaen at yr gornestau nesaf i weld pa dacteg fydd Llafur a'r Ceidwadwyr yn ei harddel. Pwy fydd yn ymosod a sut fyddent yn ymosod. Roedd yn ddiddorol cymharu y papurau heddiw ar spin. Roedd y Sun yn gyndyn i gyfaddef fod Nick wedi ennill ac yn nodi mae Brown gollodd ond dwi yn meddwl gyda disgwyliadau mor isel mae llai o lawer o bwysau ar Brown. Dwi wrth fy modd yn gwrando ar Mandelsson dwi yn meddwl ei fod yn hynod feistrolgar yn trin a troi.

    Gyda llaw oes dadansoddiad ar gael ynghlyn a nifer y gystadleuthau Llafur V Lib Dems a Ceidwadwyr V Lib Dems. Ydwi yn iawn i gredu fod gan y Ceidwadwyr fwy i'w golli o ran ymchwydd i'r Lib Dems na Llafur. Ydi Lembit yn cysgu yn well rwan ar ol neithiwr ? Oes rhagor o berlau ganddo yn y Sport. ?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.