Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwely a Brecwast

Vaughan Roderick | 13:23, Dydd Mercher, 21 Ebrill 2010

_36625023_bigben_bbc150.jpgFe gaeodd enwebiadau ar gyfer yr etholiad ddoe ac os edrychwch chi ar wefannau'r cynghorau fe wnewch chi sylwi ar un newid bach ers yr etholiad diwethaf.

Am y tro cyntaf mae hawl gan ymgeiswyr i ofyn i'w cyfeiriadau cartref beidio gael eu cyhoeddi ar y rhybudd etholiad a phapurau pleidleisio. Yn lle hynny mae'r dogfennau perthnasol ond yn enwi'r etholaeth lle mae'r ymgeisydd yn byw.

Mae nifer o ymgeiswyr wedi cymryd mantais o'r newid. Ar Ynys Môn, er enghraifft, mae pedwar o'r saith ymgeisydd sef David Owen, Dylan Rees, Anthony Ridge Newman a Matt Wood wedi dewis peidio cyhoeddi eu cyfeiriadau. Mae Elaine Gill, Albert Owen a Peter Rogers ar y llaw arall yn cyhoeddi eu cyfeiriadau cartref.

Nawr, ar yr olwg gyntaf mae'r newid bach yma'n ymddangos yn rhesymol fel rhan o ymgais i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch teuluoedd yr ymgeiswyr. Ar y llaw arall roedd y newid yn ddadleuol. Pleidleisiodd TÅ·'r Cyffredin o'i blaid y llynedd, wythnosau'n unig cyn i'r helynt dreuliau ffrwydro.

Roedd y wybodaeth am gyfeiriadau o etholiadau'r gorffennol yn rhan o'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd gan newyddiadurwyr i ganfod camymddwyn, yn enwedig achosion o "fflipio", yn ystod yr helynt hwnnw. Ar y pryd cafwyd cyhuddiadau bod y newid yn y gyfraith yn rhan o ymdrech gan rai i gelu camymddwyn.

Un ffaith fach ddiddorol i chi. Dim ond ymgeisiwyr mewn etholiadau seneddol sy'n cael y fraint yma, os braint mohoni. Mae ymgeiswyr mewn etholiadau eraill o hyd yn gorfod caniatáu cyhoeddi eu cyfeiriadau llawn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:54 ar 21 Ebrill 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    Oes na reswm arall i beidio rhoi cyfeirad ? A fydd hyn yn rhoi mwy o sylw i enw'r ymgeisydd a'r Blaid. A fydd yn caniatau defnyddio print mwy gan wneud yr enw yn fwy amlwg. Dim ond gofyn ?

  • 2. Am 22:30 ar 21 Ebrill 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    Rheswm arall wrth gwrs dros beidio datgelu fyddai cyddio'r ffaith nad yw'r ymgeisydd yn byw yn yr etholaeth. Dwi yn credu fod hynny yn berthnasol gyda rhai o'r enwau uchod ond nid y cyfan.

  • 3. Am 00:19 ar 23 Ebrill 2010, ysgrifennodd Huw Waters:

    Hollol hurt! Sefyll am swydd cyhoeddus a gwneud hi'n amhosib i'r rhai fydd eisiau cysylltu wneud. I mi hwn yw un o'r rhesymau dros ddiffyg diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Tystiolaeth arall na dewis gyrfa ydyw, yn lle gwneud y peth iawn a chynrychioli dy bobol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.