Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

TÅ· ar y tywod

Vaughan Roderick | 10:10, Dydd Mawrth, 6 Ebrill 2010

_45628431_brown_bbc_226b.jpgDyma i chi gwestiwn diddorol. Ydy Llafur yn gallu ennill yr etholiad?

Nid sôn am sicrhau senedd grog ydw i yn fan hyn, na hyd yn oed bod yn blaid fwyaf mewn senedd o'r fath, ond ennill go iawn. Hynny yw, oes 'na siawns i Lafur sicrhau mwyafrif dros bawb trwy ennill dros hanner y seddi yn Nhŷ'r Cyffredin?

Doedd y cwestiwn ddim wedi fy nharo nes i ryw un ei ofyn y bore 'ma. Mae pethau wedi bod cynddrwg i Lafur ers cyhyd nes i mi gymryd yn ganiataol bron mai senedd grog oedd y gorau y gallai Llafur ei disgwyl. A barnu o brisiau'r bwcis mae rhan fwyaf o'r rhai sy'n mentro swllt ar y canlyniad o'r un farn.

Mae 'na ddwy ffactor y mae pobol yn anwybyddu yn fan hyn, dwi'n meddwl, y naill yn ymwneud a'r gyfundrefn etholiadol a'r llall a thactegau'r Ceidwadwyr.

Y pwynt cyntaf i gofio yw cyn ised yw'r trothwy y mae'n rhaid i Lafur ei gyrraedd oherwydd y manteision y mae'n system bleidleisio yn rhoi i'r blaid. Wedi'r cyfan, fe enillodd Llafur a mwyafrif cysurus yn 2005 er iddi dderbyn llai na 36% o'r bleidlais. Mae 'na ad-drefnu ffiniau wedi bod sydd wedi lleihau'r fantais Lafur i ryw raddau ond mae hi dal yn bodoli. Siawns nad yw trothwy mor isel y tu hwnt i gyrraedd y blaid.

Yr ail bwynt yw hwn. Rydym wedi clywed hyd syrffed am y ffordd y mae'r Ceidwadwyr wedi canolbwyntio adnoddau ar y seddi ymylol ond os ydych chi'n palu ymhellach nid yn y rheng flaen o etholaethau y mae'r arian hwnnw wedi buddsoddi. Yn hytrach mae'r Torïaid wedi canolbwyntio ar y seddi llai ymylol sydd eu hangen er mwyn ennill mwyafrif.

Mae hynny'n gwneud synnwyr perffaith. Wedi'r cyfan fe ddylai'r seddi mwyaf ymylol ddisgyn heb fawr o ymdrech yn yr hinsawdd bresennol. Ond mae 'na ochor arall i'r geiniog fach yna.

Pe bai Llafur yn llwyddo i adennill tir i'r graddau mai senedd grog oedd y canlyniad tebygol fe fyddai maes y gad yn symud o'r ail reng o seddi ymylol i'r rheng gyntaf- yr union seddi lle nad yw'r Ceidwadwyr wedi buddsoddi'n helaeth.

Nid proffwydoliaeth dy gen i yn fan hyn ond sylw.

Y peryg i'r Ceidwadwyr yw eu bod wedi codi tŷ heb osod sylfaen. Pe bai'r gwynt yn dechrau chwythu i gyfeiriad Llafur gallai'r gwynt hwnnw ddymchwel gobeithion y Ceidwadwyr yn y seddi mwyaf ymylol yn ogystal â'r ail reng. Dydw i ddim am fentro hanner coron y bydd hynny'n digwydd ond yr ateb syml i'r cwestiwn "oes gobaith i Llafur ennill?" yw "oes gleu".

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:47 ar 6 Ebrill 2010, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Dwi'n tueddu i anghytuno, er fy mod innau o'r farn y bydd pethau'n agosach na'r disgwyl. Yr ystadegau plaen ydi mai dim ond 24 o seddau sy'n rhaid i Lafur golli er mwyn colli eu mwyafrif, ac mae'n anodd iawn, iawn rhagweld NA fydd Llafur yn colli 24 o seddau dros Brydain gyfan.

    Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn i weld dy broffwydiadau!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.