Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cornel y beirdd

Vaughan Roderick | 13:01, Dydd Llun, 3 Mai 2010

plaidies.JPGMae beirdd yn derbyn eu hysbrydoliaeth o'r llefydd rhyfedda!

Roedd rhai o fewn Plaid Cymru wedi corddi braidd pan gyhoeddais y darlun (plentynnaidd braidd) yma o eiddo'r blaid Lafur.

Dwn i ddim beth fydd eu hymateb i'r triban yma wnaeth gyrraedd yn ddienw!

O'r Blaid - o blaid neu beidio
y niwclear i'n goleuo?
Does obaith gawn ni'r gwir yn Wyn
a'r Llwydyn yn ein llywio!

Os oes rhai yn dymuno troi'r post yma'n dalwrn answyddogol mae croeso iddyn nhw wneud hynny!


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:59 ar 3 Mai 2010, ysgrifennodd Iwan Rhys:

    Dim ond un Blaid sy'n ysu
    yn wir i flaenoriaethu
    ein cenedl ni dros arfau'r gro,
    a honno yw Plaid Cymru.

  • 2. Am 21:02 ar 3 Mai 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    Pa fesur ar yr englyn yw hwn ?

  • 3. Am 21:17 ar 3 Mai 2010, ysgrifennodd Iwan Rhys:

    Tair plaid a gaiff eu harwain
    gan ddynion draw yn Llundain
    yw Llafur, Toris a Dems Rhydd.
    Eleni, Gymry, rhown ein ffydd
    yn ein harweinydd ni ein hunain.

  • 4. Am 16:16 ar 4 Mai 2010, ysgrifennodd Adam Jones:

    Cyn bod unrhyw un yn sôn am fesur ayyb s'dim mesur i hon ond mae na neges i bawb ar fai y chweched a neges clir y bo hwnnw.

    Pendronwn, Pleidleisiwn, Penderfynwn
    Mwy o arian a rhydid i Gymru y mynnwn
    Y Tri Tafwysyn Talog: Biliynau eu gwastraff hwy
    A Chymru'n cael ei tan-chyllido am ddegawdau am mwy
    Pe gwelwn y greal yn Gordon a'i lap wast yn don o gon
    Pleidleisiwn dros Blaid Cymru, ac achub Cymru rhag hon

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.