Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Fel y dwedais i...

Vaughan Roderick | 18:22, Dydd Sul, 2 Mai 2010

llanidloes300.jpgRwyf wedi nodi cwpwl o weithiau yn ystod yr ymgyrch ffenomen y mae cyfaill o Dde Awstralia yn galw'n "first time candidate syndrome" sef y duedd i ymgeiswyr sy'n sefyll am y tro cyntaf argyhoeddi eu hun eu bod yn gallu ennill.

Nawr yn ôl pob sôn mae Heledd Fychan wedi cynnal ymgyrch dros Blaid Cymru ym Maldwyn na welwyd ei debyg ers dyddiau Islwyn Ffowc Elis. Hi hefyd yw'r unig ymgeisydd yng Nghymru i mi wybod sydd wedi bod yn vlogio (blogio ar fideo) yn gyson yn ystod yr ymgyrch.

Yn wir mae'r gwrthgyferbyniad rhwng gwefan a'r tawelwch rhyfedd ar safle yn drawiadol. Efallai bod Glyn yn rhy brysur, wedi digalonni neu yn dioddef o'r rheol yna sy'n gwahardd ymgeiswyr Ceidwadol rhag cyhoeddi unrhyw beth ar y we nad yw wedi derbyn sêl bendith y blaid yn ganolog.

Ta beth dyma vlog diweddaraf Heledd. Ynddi mae'n proffwydo y gallai hi ennill Maldwyn.

Nawr, yn wahanol i Heledd, dydw i ddim wedi bod ym Maldwyn yn ystod yr ymgyrch ond mae'r rheiny o'm cydnabod sydd wedi bod yno yn awgrymu bod hi "yn y bag" i Lembit. Gallwn i fod yn anghywir, wrth gwrs, wrth amau bod Heledd yn dioddef o'r syndrom ond mae'n bosib hefyd bod hi wedi ei thwyllo gan gwrteisi a charedigrwydd etholwyr gwledig tuag at ymgeisydd ifanc brwdfrydig.

Dyw'r ffaith bod nifer fawr o bobol yn eich hoffi chi ddim yn golygu o reidrwydd eich bod yn mynd i gael eu pleidleisiau.

6.9% o'r bleidlais wnaeth Plaid Cymru dderbyn ym Maldwyn yn 2005 o gymharu â 51.2% y Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd Plaid Cymru yn y pedwerydd safle. Yn etholiad cynulliad 2007 roedd Plaid Cymru'n drydydd gyda 13.8% ac roedd cefnogaeth Mick Bates gryn dipyn yn is na chefnogaeth Lembit. 39% oedd siâr y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholiad hwnnw.

Os ydw i'n defnyddio pob owns o ddychymyg sy gen i gallaf feddwl am sefyllfa lle y gallai Plaid Cymru, mewn storom berffaith, gipio Maldwyn ar lefel y Cynulliad. Ond mewn etholiad cyffredinol... pan mae'r llanw yn rhedeg o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol? Fedra i ddim gweld y peth.

Ar ôl dweud hynny, rwyf wedi bod yn anghywir o'r blaen ac os ydy Heledd yn gwneud yn dda ym Maldwyn fe fydd hi'n haeddu cael cyfle mewn etholaeth neu etholiad lle mae ennill yn obaith mwy realistig.

Mae rhestr o ymgeiswyr Maldwyn yn ,


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:32 ar 2 Mai 2010, ysgrifennodd Aled Wyn:

    Er tegwch, pa ymgeisydd bydd yn dweud na fydden nhw yn ennill? Dwi ddim yn credu bod hi "in the bag i Lembit yma ym Maldwyn, mae 'na lawer o bobl yn anhapus gydag ef,

  • 2. Am 23:06 ar 2 Mai 2010, ysgrifennodd lembo:

    mewn etholaeth lle mae pawb yn meddwl mai ras dwy geffyl yw hi, dyw gweud bo chi'n meddwl bo 'da chi obaith o ennill ddim yn mynd i wneud dim drwg nagyw? ma dowt 'da fi bo heledd wir yn credu hynny...

  • 3. Am 09:43 ar 3 Mai 2010, ysgrifennodd Adam Jones:

    Mae Heledd wedi gwneud yr un fideo yn Gymraeg, braidd yn od cael yr un Saesneg ar flog Cymraeg yn dyw e?

  • 4. Am 09:54 ar 3 Mai 2010, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Vaughan, lle gall rhywun weld dadl neithiwr ar yr iPlayer? Mae'r fersiwn radio i'w gweld ond ddim yn fersiwn deledu, allwch chi fwrw golau ar hyn??

  • 5. Am 12:13 ar 3 Mai 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Doedd y fideo Gymraeg ddim wedi ei llwytho pan sgwennais i'r post gwreiddiol neu efallai mai fi wnaeth fethu sylwi!. Rwyf wedi newid y post ar ol i ti dynnu fy sylw at y peth. Diolch.

  • 6. Am 12:16 ar 3 Mai 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fe ddylai hi fod yna. Fe wna i ymholiadau!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.