Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Philistia

Vaughan Roderick | 18:34, Dydd Mawrth, 25 Mai 2010

hen_goleg.jpgMae dweud bod Cymru'n wlad fach a bod pawb yn nabod pawb yn ystrydeb braidd. Ond os am brawf o hynny dyma i chi ffaith fach frawychus. Nid yn unig oedd Leighton Andrews a finnau yn y Coleg gyda'n gilydd ond yn ein blwyddyn gyntaf ym Mangor roedd ein hystafelloedd yn Neuadd JMJ o fewn ychydig ddrysau i'w gilydd.

Fe fydd unrhyw un oedd â chysylltiad â Choleg Bangor yng nghanol y saithdegau yn gwybod bod hwnnw'n gyfnod cythryblus ac anhapus yn ei hanes. Roedd 'na wrthdaro cyson rhwng myfyrwyr Cymraeg a Chymreig ac awdurdodau'r coleg ynghylch pynciau fel y polisi iaith a'r hyn oedd yn cael ei weld fel agwedd ffroenuchel yr academyddion at y cymunedau o'u cwmpas.

Roedd Leighton yn un o'r myfyrwyr di-Gymraeg oedd yn gadarn yn ei gefnogaeth i'r protestiadau iaith gan gefnogi'r dadleuon nad oedd y coleg yn cyflawni ei ddyletswyddau i Gymru.

Mae'n ymddangos ei fod yn cofio'r dyddiau hynny ac yn credu bod y broblem yn para hyd heddiw.

Heno fe fentrodd Leighton i ffau'r llewod ym Mhrifysgol Caerdydd i golbio'r colegau mewn ffordd gwbl diflewyn ar dafod.

Yn y bôn cyhuddodd Leighton y Prifysgolion (neu rai ohonyn nhw) o fod yn wrthwynebus i ddatganoli ac o fethu Cymru. Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn ormodedd i ddweud ei fod wedi dod yn agos at eu cyhuddo o fod yn wrth Gymreig. Honnodd fod eu cyrff llywodraethol yn "gartref olaf i'r crachach" ac yn esgus bod yn annibynnol tra'n dibynnu ar arian cyhoeddus am eu cynhaliaeth.

O hyn ymlaen meddai fe fydd yr arian hwnnw yn cael ei gyfeirio at sefydliadau sy'n gwasanaethu buddiannau Cymru ac yn cyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth megis cynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg a denu rhagor o fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig.

Yn ôl Leighton fe sefydlwyd Prifysgol(ion) Cymru yn 19eg ganrif fel gweithred wleidyddol ac mae angen gweithred wleidyddol yn 21ain i'w chwyldroi a'u gwneud yn atebol i bobol Cymru.

Yn ôl yn y saithdegau fe fabwysiadodd myfyrwyr Bangor linell o eiddo Williams Parry fel eu harwyddair. "Gwna ddaeargrynfeydd dan gadarn goncrit Philistia" oedd y llinell honno.

Rwy'n amau bod Leighton wedi achosi ambell i ddaeargryn heno!


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:03 ar 25 Mai 2010, ysgrifennodd D. Enw:

    Mae statws Leighton Andrews yn codi yn fy marn i fesul mis! Da iawn iddo am ddweud yr hyn oedd angen ei ddweud.

    Mae angen i brifysgolion Cymru ddenu pobl talentog o ar draws y byd, ond mae'n bwysicach eu bod yn gwasanaethu y gymuned leol/genedlaethol gyntaf. Wn i ddim os yw prifysgolion Denmarc neu Portiwgal neu Iwerddon yn cyrraedd safonnau'r 'Ivy League' bondigrybwyll ond gwn eu bod yn chwarae rhan holl bwysig yn natblygiad economaidd, materol a diwylliannol y gwledydd hynny.

    Mae bod yn 'ryngwladol' am yn rhy hir wedi golygu 'anwybyddu'r ddeimensiwn Gymreig' dan ochel dderbyniol.

    Gellid galw'r cam pwysig yma gan Leighton Andrews yn 'localism' neu'n 'adeiladu cenedl' neu 'parchu blaenoraethau'r trethdalwyr lleol'. Efallai ei fod yn gyfuniad o'r ddau.

    Doedd gen i fawr o gydymdeimlad pan farwodd Prifysgol Cymru (ydy e dal yn fyw neu'n farw neu mewn purdan?!). Doedd dim yn arbennig o Gymreig amdanno. Efallai fod modd cael gwared ar y wingbagiaeth nawr a chael thrafodaeth mwy onest gyda'n prifysgolion a'u bod yn cyfrannau at ein dealltwriaeth o Gymru ddoe, heddiw a fory.

  • 2. Am 23:05 ar 25 Mai 2010, ysgrifennodd Siôn Aled:

    Trist clywed bod agwedd daeogaidd y saithdegau’n parhau’n fyw ac yn iach ymhlith rhai o’n harweinwyr addysgol honedig ond da iawn bod Leighton wedi rhoi pryd o dafod iddyn nhw. Mi ges i wythnos o wyliau dan nawdd ei Mawrhydi yn Amwythig am drafferthu gwneud hynny o flaen mawrion Coleg Bangor ym 1979. Fyddwn i ddim yn eu galw’n Philistiaid 'chwaith chwarae teg – roedd y rheini’n parchu eu diwylliant eu hunain o leia’!

  • 3. Am 15:41 ar 26 Mai 2010, ysgrifennodd Peredur Lynch:

    Oes modd cael copi electronig yn rhywle o'r araith bwysig hon?

  • 4. Am 16:35 ar 26 Mai 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'r araith ar gael ar wefan personol Leighton

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.