Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hyn a'r llall

Vaughan Roderick | 11:54, Dydd Mercher, 12 Mai 2010

_44677238_ballotbox_bbc226.jpgDyw manylion y cytundeb rhwng Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol ddim wedi eu cyhoeddi eto ond yn ôl adroddiadau mae'n cynnwys ymrwymiad i dymhorau seneddol penodol. Hynny yw, o hyn ymlaen fe fydd dyddiadau etholiadau cyffredinol wedi eu pennu o flaen llaw. Deallir hefyd mai pum mlynedd nid pedair fydd hyd tymor seneddol.

Mae hynny'n golygu mai dyddiad yr Etholiad Cyffredinol nesaf yw Mai'r 7fed, 2015 sef yr union ddiwrnod y mae etholiad Cynulliad i fod i gael ei gynnal.

Nawr, dydw i ddim yn meddwl am eiliad y byddai'r Comisiwn Etholiadol yn caniatáu cynnal y ddau etholiad ar yr un diwrnod.

Beth yw'r ateb felly? Fe fyddai ymestyn neu dorri oes y pedwerydd cynulliad yn bosibilrwydd ond mae 'na ateb arall. Gellid gohirio etholiad 2011 am flwyddyn.

Efallai fy mod yn sinigaidd trwy ddweud hyn ond fe fyddai hynny'n siwtio ambell i blaid i'r dim.

David-Miliband-460_997524c.jpgY Llywodraeth newydd wrth reswm sy'n cael y rhan fwyaf o'r sylw heddiw ond mae Llafur hefyd yn gorfod edrych i'r dyfodol a dewis arweinydd newydd.

David Miliband yw'r ffefryn cynnar gan ddenu 75% o'r arian sydd wedi ei fentro hyd yma. Un fantais sydd gan David Miliband yw bod ei sedd, yn wahanol i un yr ail-ffefryn Ed Balls yn gwbl ddiogel.

Dyma i chi ddarn bach o "trifia" gwleidyddol difyr. Un etholaeth yn unig sy 'na sydd erioed wedi ethol Ceidwadwr ers Deddf Ddiwygio 1832. South Shields, etholaeth David Miliband, yw honno.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:48 ar 12 Mai 2010, ysgrifennodd Dewi:

    O gytundeb y Toriaid a'r Rhydd Dems:

    "The parties agree to the implementation of the Calman Commission proposals and the offer of a referendum on further Welsh devolution."


  • 2. Am 21:40 ar 12 Mai 2010, ysgrifennodd Emyr:

    Mae'r syniad o seneddau sy'n para tymor penodol yn un digon bregus, hyd y gwela' i.

    Ydi hyn yn mynd i fod mewn deddf, fel yr awgrymodd y pyndits ar y teledu? Os nac ydi, yna gellir ei anwybyddu. Os ydi, yna, gan na all y Senedd ei rhwymo ei hun yn gyfreithiol, gellir diddymu'r ddeddf honno gyda mwyafrif syml.

    Neu ydw i wedi methu rhywbeth?

  • 3. Am 23:02 ar 12 Mai 2010, ysgrifennodd Siôn Aled:

    Felly beth fydd yn digwydd os llwydda pleidlais o ddiffyg hyder yn y llywodraeth cyn diwedd y pum mlynedd?

  • 4. Am 23:43 ar 12 Mai 2010, ysgrifennodd Tegwared:

    Oni fydd rhaid ymestyn/lleihau tymor y cynulliad bob 20 mlynedd felly?

  • 5. Am 01:40 ar 13 Mai 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Tegwared, Mae hynny'n gwbl gywir. Does dim llawer o synnwyr cael seneddau sy'n para a, bum tra bod ein cyrff datganoledig a chynghorau yn wynebu etholiad bob pedair blynedd. Mae cysondeb yn bwysig, dybiwn i!

    Sion, Pe bai yna pleidlais o ddiffyg hyder (ac mae'r llywodraeth yn trafod trothwy o 55% am rheiny) fe fyddai'n rhaid gwneud ymgais i ffurfio llywodraeth newydd yn yr un senedd. Dyna wrth gwrs ddigwyddodd yn sgil pleidlais o ddiffyg hyder yn Alun Michael yn y Cynulliad. Mae gan Gaeredin, Bae Caerdydd, a Stormont fecanwaith i alw etholiadau cynnar mewn amgylchiadau anarferol iawn. Mae'n debyg y byddai'r un peth yn wir yn San Steffan. Yr awgrym yw y gallai etholiad cael ei alw pe bai 75% o'r aelodau o blaid hynny.

    Emyr; Y bwriad yw cyflwyno cynnig yn weddol fuan yn enwi dyddiad 2015 gyda deddfwriaeth i ddilyn i sefydlu'r drefn yn barhaol. Ond mae'n werth cofio mai un o hanfodion ein cyfansoddiad yw nad oes modd i un senedd glymu dwylo y seneddau sy'n ei dilyn.

  • 6. Am 11:45 ar 13 Mai 2010, ysgrifennodd Harold Street:

    "Gwleidyddiaeth newydd" medd Clegg a Cameron...
    Un o'r pethau newydd yw na fydd neb byth yn credu'r Rhyddfrydwyr yn y dyfodol pan fyddan nhw'n gofyn ichi bleidleisio LibDem i gadw'r Toris allan.
    Mae gweld y Rhyddfrydwyr yn closio at y Toris wedi bod yn sioc i rai, ond yn f'etholaeth i, Canol Caerdydd, mae pob un o daflenni Jenny Willmott bob amser yn dweud na all y Toris a Phlaid Cymru ennill yma, mai ras rhwng LibDem a Llafur yw hi. Hynny yw, codi bwganod yn erbyn Llafur.

    Ac mae'r bygythiad cynta am godi trethi wedi codi eisoes - sef codi TAW ac mae pawb yn gwybod bod TAW yn taro'r tlawd yn fwy na'r cyfoethog.

    Yr un hen Doris ydyn nhw.

    Dau gwestiwn. Oes pwynt i'r Rhyddfrydwyr wrthwynebu'r Toris mewn is-etholiadau o hyn allan, gan ddechrau ar 27 Mai yn y sedd 'na sydd ar ôl?
    Oes yna gyfle i sicrhau pleidlais dda dros ragor o rym i'r Cynulliad yn y refferendwm, drwy berswadio pobl Cymru y gall y Cynulliad helpu i amddiffyn Cymru rhag toriadau Llundain?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.