Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mynd a dod

Vaughan Roderick | 15:26, Dydd Gwener, 28 Mai 2010

_44749025_cairns226bbc.jpgMae bwrdd rheoli Ceidwadwyr Cymru wedi bod yn cwrdd heddiw i drafod p'un ai i dderbyn ymddiswyddiad Alun Cairns o'r Cynulliad ai peidio.

Mae'n sicr eich bod yn cofio problem y blaid. Roedd ganddi ymrwymiad yn ei maniffesto i gael gwared a'r hyn a elwir yn "double jobbing". Ar y llaw arall roedd y syniad o groesawi'r ail berson ar restr Geidwadol Gorllewin De Cymru sef Chris Smart yn dipyn o hunllef i'r arweinyddiaeth.

Beth sydd wedi digwydd felly? Wel mae Alun yn mynd i barhau fel Aelod Cynulliad tan etholiad 2011 ond fe fydd yn gwneud hynny'n ddigyflog.

Mae Alun yn aros felly. Ond gesiwch beth?

Dwi'n meddwl y bydd Aelod Cynulliad arall yn cyhoeddi ei fwriad i ymddiswyddo o'r Bae o fewn yr oriau nesaf.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:51 ar 28 Mai 2010, ysgrifennodd Harold Street:

    P'un Å·ch chi'n feddwl, Vaughan - AC yn cyhoeddi yn yr oriau nesa, neu yn ymddiswyddo yn yr oriau nesa?!

    Pa ods gelen i ar Rhodri Glyn?

  • 2. Am 17:32 ar 28 Mai 2010, ysgrifennodd Dylan Llyr:

    Be'n union ydi'r broblem efo Chris Smart felly? Ydi o'n eithafol mewn rhyw ffordd?

  • 3. Am 19:03 ar 28 Mai 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    "Dadleuol" yw'r gair, Dylan, yn hytrach nac eithafol! Google yw dy ffrind! Cyfeirio at Mike German oeddwn i, Harold. Fe fydd yn ymddiswyddo yn yr wythnosau nesaf. Ei wraig Veronica fydd yn cymryd ei le.

  • 4. Am 20:09 ar 28 Mai 2010, ysgrifennodd Mabon:

    Eurfyl ap Gwilym a Janet Davies yn dal i aros felly!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.