Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tra bo Dai

Vaughan Roderick | 21:02, Dydd Mercher, 26 Mai 2010

david_davies_bbc226.jpgAm y tro cyntaf yn ei hanes fe fydd Ceidwadwr yn cadeirio'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Ond pa Geidwadwr? Mae hynny'n fater i aelodau seneddol trwy etholiad.

Teg yw credu na fydd aelod o'r tu fas i Gymru yn cael ei ddewis. Saith dewis sy 'na felly ond go brin fod y tri sy'n newydd-ddyfodiaid yn bosibiliadau.

Mae David Jones eisoes yn weinidog a Stephen Crabb yn chwip. Mae hynny'n gadael dau ddewis felly.

Mae Jonathan Evans yn hen law seneddol, yn gyn-weinidog yn y Swyddfa Gymreig a jyst y math o foi, fe fyddai rhai yn meddwl, i adeiladu consensws rhyng-bleidiol ar y pwyllgor.

A'r dewis arall? Wel gesiwch pwy sydd newydd ffonio i ddweud ei fod yn bwriadu sefyll?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:46 ar 26 Mai 2010, ysgrifennodd Elin:

    Beth am Alun Cairns? Er yn AS newydd mae ganddo 11 mlynedd o brofiad mewn deddfwrfa arall ac os cofiaf yn iawn roedd yn gadeirydd pwyllgor ar un adeg cyn rhyw "faux pas" anffodus gyda ti Vaughan!! Ac fe fyddai'n llawer mwy derbyniol i'r gwrthbleidiau

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.