Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Symudiadau

Vaughan Roderick | 14:39, Dydd Iau, 13 Mai 2010

_45290203_cherylgillan226_bbc.jpgUn o addewidion y Ceidwadwyr yn yr etholiad oedd newid enw Swyddfa Cymru yn ôl i'r Swyddfa Gymreig. Dydw i ddim yn meddwl bod yr addewid hwnnw wedi ennill na cholli rhyw lawer o bleidleisiau!

Beth bynnag yw'r enw, fe ddylai Cheryl Gillan sicrhau bod arwydd yn cael ei chodi ar ei swyddfa yn y Bae cyn gynted ac sy'n bosib.

Nes i rywun grybwyll y peth mewn cynhadledd newyddion rhai wythnosau yn ôl doedd Nick Bourne ddim yn ymwybodol bod gan yr Ysgrifennydd Gwladol swyddfa mewn adeilad cyferbyn a ThÅ· Hywel. Am ryw reswm doedd y Ceidwadwyr ddim wedi derbyn gwahoddiadau i dderbyniadau Nadolig a Gŵyl Ddewi Peter Hain a Paul Murphy ac mae hyd yn oed pobol y Ö÷²¥´óÐã yn cael eu gwahodd i'r rheiny!

Ar hyn o bryd mae Peter Hain yn parhau fel y llefarydd Llafur ar Gymru ac mae'n debyg o aros yn y swydd tan ar ôl i'r arweinydd Llafur newydd gael ei ddewis. Yn sgil hynny fe fydd yn rhaid i ni ddod yn gyfarwydd eto ac un o ddefodau mwyaf rhyfedd ein gwleidyddiaeth sef etholiadau Cabinet yr Wrthblaid.

Yn wahanol i'r Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol aelodau seneddol Llafur sy'n dewis aelodau'r cabinet pan nad yw'r blaid mewn llywodraeth. Mae'r arweinydd yn cael didoli'r cyfrifoldebau ond doedd hyd yn oed Tony Blair ar anterth ei bwerau ddim yn gallu darbwyllo'r aelodau seneddol i ildio'u grym dros bwy oedd yn eistedd yn y Set Fawr.

Pwy o Gymru felly fydd yn anelu am y brig tro hwn? Mae'n debyg y bydd Peter Hain yn teimlo bod ganddo fe dipyn o betrol ar ôl yn y tanc ac yn dymuno cymryd tro bach arall o gwmpas y bloc. Mae Kevin Brennan, Chris Bryant David Hanson ac efallai Ian Lucas hefyd yn ymgeiswyr posib.

Mewn gwirionedd ac eithrio sêr y blaid mae ennill lle yn y Cabinet Llafur yn dipyn o loteri. Cofiaf am un aelod Cymreig oedd yn gyson ennill lle gyda neb yn deall pam na sut.

Fe ddaeth y gwirionedd i'r amlwg wrth i ddau aelod seneddol Llafur ifanc ddigwydd daro sgwrs a'i gilydd. Fe wnaeth yr aelodau ddarganfod eu bod ill dau yn gyson derbyn llythyrau personol gan y gwleidydd yn canmol eu cyfraniadau yn y tÅ· ac yn cynnig cyngor defnyddiol.

Doedd dim un gair o wahaniaeth rhwng y llythyrau- ac eithrio enw'r aelod wnaeth ei dderbyn, wrth reswm!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.