Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cau drws y stabl

Vaughan Roderick | 15:19, Dydd Mawrth, 15 Mehefin 2010

arholiadau.jpgOs ydych chi wedi hen alaru a thrafferthion ynghylch cynlluniau ad-drefnu ysgolion yng Nghaerdydd, Meirionnydd, Powys neu le bynnag mae gen i ychydig o newyddion da i chi. Mae'n debyg y bydd na lawer llai ohonyn nhw yn cael eu trafod ar lefel genedlaethol yn y dyfodol.

I fod yn deg roedd Leighton Andrews wedi mynegi ei anfodlonrwydd ynghylch y system bresennol cyn yr helyntion diweddaraf. Serch hynny, efallai ei bod hi'n deg i gredu bod y ffrwgwd yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi canolbwyntio meddyliau ar bumed llawr TÅ· Hywel.

Yn y Cynulliad y prynhawn yma cyhoeddodd Leighton gasgliadau ei adolygiad o'r gyfundrefn. Yn y tymor hir mae Leighton am weld cyfundrefn lle mae'r mwyafrif llethol o benderfyniadau yn cael eu cymryd ar lefel leol.

Mae'r system bresennol lle mae un gwrthwynebiad gan rywun nad yw'n gysylltiedig ag ysgol yn gorfodi adolygiad llawn o'r penderfyniad gan y llywodraeth yn hurt ac anghynaladwy yn ôl y gweinidog. Go brin y byddai unrhyw un yn anghytuno ac eithrio ambell i gwynwr proffesiynol.

Yn y tymor hir mae Leighton am weld system debyg i'r gyfundrefn gynllunio lle mae'r mwyafrif llethol o benderfyniadau yn cael eu cymryd yn lleol gyda'r llywodraeth a'r hawl i "alw i mewn" gynlluniau arbennig o ddadleuol. Pan ofynnais i ryw un uchel yn y Llywodraeth faint o gynlluniau fyddai'n debyg o gael eu hystyried gan y llywodraeth "dau neu dri'r flwyddyn" oedd yr ateb. Yn ddigon ddiddorol fe ddefnyddiodd y person hwnnw achos Ysgolion Gorllewin Caerdydd fel enghraifft o'r fath o achos lle byddai 'na ymyrraeth ganolog.

Fe fyddai angen deddfwriaeth i sefydlu cyfundrefn o'r fath ond mae gan y Cynulliad yr hawl i ddeddfu yn y maes. Does dim angen LCO na phŵer fframwaith nac unrhyw beth felly.

Yn y tymor byr fe fydd newidiadau eraill yn cael eu cyflwyno er mwyn ceisio cyflymu'r broses. Mae hynny'n gwneud synnwyr, wrth reswm. Go brin y byddai Leighton yn torri ei galon o weld llai o'r dadleuon gwenwynig yma'n glanio ar ei ddesg neu'n cael eu taflu mewn pas ysbyty i gyfeiriad y Prif Weinidog!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:01 ar 16 Mehefin 2010, ysgrifennodd Emyr Lewis:

    Tybed a fydd hyn yn gweithio er mwyn sicrhau tegwch i addysg Gymraeg oni bai fod yno hefyd ryw ryw foron a phastynau ariannol (neu hyd yn oed ddyletswydd statudol) ynghlwm wrth weithredu'r strategaeth addysg newydd?

  • 2. Am 20:23 ar 21 Mehefin 2010, ysgrifennodd Dylan:

    Mae'r ffaith fod rhywun 'uchel yn y llywodraeth' yn cyfeirio at ad-drefnu ysgolion gynradd gorllewin Caerdydd fel esiampl o gynllun a fyddai'n cael ei 'alw i mewn' yn dweud cyfrolau. Bydd unrhyw gynllun sy'n cynnwys cau ysgol yn rhwym o ennyn gwrthwynebiad yn lleol, wrth gwrs. Ond fel arall, o'i ystyried yn rhesymegol, nid yw'r cynllun yng ngorllewin Caerdydd yn ddadleuol o gwbl.

    Dyma pam y cafwyd y ffasiwn ymateb i'r penderfyniad i'w wrthod gan gyrff cenedlaethol: Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru yn dweud 'The Welsh Assembly Government’s decision to reject Cardiff Council’s proposals to reorganise primary schools flies in the face of the need to continue to raise educational standards, reduce surplus places and meet the targets in the recently published Welsh-medium Education strategy, One Wales and the 21st Century Schools initiative.' A Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'n ei alw yn 'retrograde and questionable decision'.

    Felly nid yw'r syniad hwn gan Leighton Andrews yn werth dim. Bydd yn caniatau iddo basio cynlluniau y mae o'u plaid yn ddidrafferth, a blocio cynlluniau nad yw'n eu hoffi (rhai cwbl resymol) heb drafferth chwaith.

    Plus ca change...

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.