Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cnoi Cil

Vaughan Roderick | 19:24, Dydd Mercher, 30 Mehefin 2010

Senedd.JPGRwy'n gallu bod yn berson trachwantus braidd. Da yw pôl ond gwell yw dau!

Mae'r ffaith bod ITV wedi comisiynu arolwg misol gan YouGov o hyn tan etholiad y cynulliad yn newyddion rhagorol. Rydym wedi mynd o fod yn ddall i fod yn llygeidiog! Y broblem yw wrth gwrs bod dibynnu'n llwyr ar un cwmni yn golygu nad oes modd synhwyro na chanfod unrhyw wall neu ragfarn anfwriadol yn y fethodoleg. Ar ôl hynny o rybudd bant a ni a thipyn bach o ddadansoddi!

Yr hyn sy'n ddiddorol yn yr arolwg yw'r awgrym bod yr hyn y byddai dyn yn disgwyl ei weld rhwng nawr a Mai 2011 sef adferiad yn y gefnogaeth i Lafur wedi digwydd llawer yn gynt na'r disgwyl.

Mae'r canran sy'n bwriadu pleidleisio i Lafur yn etholiad y cynulliad wedi cynyddu o 32% i 42% ers yr etholiad cyffredinol. Fe fyddai hynny'n ddigon i Lafur sicrhau mwyafrif flwyddyn nesaf. Mae'r gefnogaeth i Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr ond wedi gostwng o ychydig bwyntiau. Mae'r rhan fwyaf o'r cynnydd ar draul y Democratiaid Rhyddfrydol sydd, mae'n ymddangos yn ceisio gweithio talcen caled iawn ar hyn o bryd.

Mae'r rheswm am y newid yn weddol amlwg. Mae 43% yn credu bod toriadau San Steffan yn mynd yn rhy bell o gymharu â 36% sy'n cefnogi'r toriadau ac 8% fyddai'n dymuno gweld mesurau llymach.

O dan y fath amgylchiad dyw hi ddim yn syndod i weld cefnogwyr traddodiadol Llafur yn dychwelyd at y blaid y maen nhw'n credu bydd yn gwneud ei gorau i'w hamddiffyn.

Ond mae'n ymddangos bod y bobol hynny yn disgwyl cael eu hamddiffyn gan rywbeth fwy na'u plaid sef y Cynulliad. Mae'r arolwg yn awgrymu y bydd Cymru'n pleidleisio o blaid cynyddu pwerau'r cynulliad o fwyafrif sylweddol yn y refferendwm. Mae mwyafrif yr ochr "Ie" dros yr ochr "Na" bellach yn 27% o gymharu ag 16% adeg yr etholiad cyffredinol.

Os ydy hynny'n gywir mae'n ddatblygiad hynod ddiddorol yn ein gwleidyddiaeth gan awgrymu bod trwch y bleidlais Lafur bellach yn uniaethu a datganoli. Dyw hynny erioed wedi digwydd o'r blaen hyd yn oed yn nyddiau Keir Hardie!

28-30/06 2010 Sampl 1001

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:06 ar 30 Mehefin 2010, ysgrifennodd EnglandandWales:

    Duw a'n help ni.....llywodraeth Lafur hyd dragwyddoldeb yma yng Nghymru!:-(

  • 2. Am 23:17 ar 30 Mehefin 2010, ysgrifennodd blogmenai:

    Hmm - felly mae Llafur yn cynyddu o 10% ers yr Etholiad Cyffredinol tra bod pleidlais Plaid Cymru wedi aros yn statig.

    Yn yr Etholiad Cyffredinol yng Nghymru cafodd Llafur 36.2% o'r bleidlais. Felly byddai'r cynydd yn 5.8% petai'r pol yn gywir. Cafodd Plaid Cymru 11.3%, felly byddai yna gynydd yno hefyd o 8.7%.

    'Dwi'n cymryd mai cymharu efo'r Etholiad Cynulliad diwethaf wyt ti ac nid yr Etholiad Cyffredinol.

  • 3. Am 10:02 ar 1 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Dwi'm dallt sut mae'n syndod. Mae'r Cymry bob amser, yn gwbl ddi-ffael, yn troi'n ôl yn gyflym at Lafur pan fydd y Ceidwadwyr mewn grym. Dwi'n meddwl y gall y tair plaid arall ddisgwyl crasfa yn 2011.

  • 4. Am 11:27 ar 1 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Iestyn:

    Pwy seddi 'ych chi'n rhagweld yn mynd i Lafur iddynt ennill mwyafrif, Vaughan? Sai'n credu byddai unrhy seddi rhanbarth yn mynd (cywirwch fi os ydw i'n anghywir!), nag ychwaith i seddi coll y Dem Rydd fynd at Lafur. Bydd y mathemateg yn ddiddorol wrth nesu at yr etholiad!

  • 5. Am 11:28 ar 1 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Sori, fe ddylwn i wedi bod yn fwy eglur. Bwriadau pleidleisio cynulliad yn arolwg YouGov adeg yr etholiad cyffredinol yw sail y gymhariaeth nid canranau pleidleisio'r etholiad seneddol.

  • 6. Am 11:46 ar 1 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Iestyn, Mae na adrefnuu ffinau wedi bod ers y tro diwethaf i Lafur gael mwyafrif wrth gwrs, ond fyddwn yn amau bod Llafur yn sicr yn llygadu Blaebnau Gwent, Gogledd Caerdydd, Gorllewin Clwyd, Llanelli, Preseli a Gorllewin Caerfyrddin. Gallai'r tair olaf arwain at goli seddi rhestr wrth gwrs. Er mwyn sicrhau mwyafrif felly fe fydd yn rhai i Lafur fentro ymhell i dir y gelyn mewn llefydd fel Canol Caerdydd a Mynwy. Dyw Llafur ddim wedi ennill y naill na'r llall a'r lefel cynulliad ond dyw'r blaid ddim wedi ennill mwy na 40% o'r bleidlais o'r blaen.

  • 7. Am 13:26 ar 1 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd DimClem:

    Rhaid derbyn mai pôl cenedlaethol yw hwn wrth gwrs, a bydd ffactorau lleol yn cael effaith mawr ar nifer seddi y gwahanol bleidiau. Dwi'n credu y bydd Helen Mary Jones yn saff yn Llanelli e.e., mae ganddi gefnogaeth dda iawn yn lleol. Dwi hefyd yn credu bod gan Nerys Evans gyfle gwych i gipio Gorllewin Caerfyrddin. Mae ei phroffil hi yn uchel iawn yn yr ardal, ac nid yw Angela Burns wedi gwneud braidd dim yno. Bydd yn ddiddorol gweld beth fydd effaith y sawl sy'n sefyll ar y rhestr ranbarthol i lwyddiant eu pleidiau yn yr etholaethau yn y de orllewin. Gydag enw mawr iawn ar dop rhestr y Blaid yn y Gorllewin a'r Canolbarth (fel sy'n debygol o fod - gwyliwch y gofod) a fydd hyn yn rhoi hwb i ymgyrchoedd ymgeiswyr y Blaid yn yr etholaethau? A gyda llwyddiant yn yr etholaethau bydd llai o siawns cael sedd ranbarthol. Mae'n gymhleth!!

  • 8. Am 09:46 ar 2 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Iestyn:

    Ychydig oddi ar y pwnc efallai, ond ydych chi'n credu y bydd pleidleiswyr wedi hen danto ar ddemocratiaeth erbyn etholiadau'r Cynulliad gyda refferendwm ar bwerau ym Mis Mawrth, Referendwm newydd ei gadarnhau ar newid y system bleidleisio (Brydeinig) ym Mis Mai, ac etholiadau Cynulliad rhywbryd, yn dibynnu os ydyn nhw'n mynd i newid y dyddiad ai peidio.

    Tybed pe effaith geiff hynny ar gyfran gwahanol bleidiau?

  • 9. Am 10:41 ar 2 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Cael pobol i bleidleisio yn y refferendwm ynghylch y bleidlais amgen fydd yn anodd yn fy marn i. Rwy'n amau y gallai honna gael ei cholli. Os felly fe fydd y tymheredd gwleidyddol yn uchel erbyn yr etholiad.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.