Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gavin, Stacey a Julia

Vaughan Roderick | 10:12, Dydd Iau, 24 Mehefin 2010

Gallwch ddisgwyl dros y dyddiau nesaf i ambell i bapur wneud mor a mynydd o'r ffaith bod Prif Weinidog newydd Awstralia, Julia Gillard, wedi ei geni yn y Barri. Byddai neb yn gwybod hynny o wrando ar ei hacen. Wedi'r cyfan mudodd teulu Ms Gillard i Awstralia pan oedd hi'n bedair oed.

Nid hi yw'r Prif Weinidog cyntaf o Gymru yn hanes Awstralia. , Cymro Cymraeg a'i wreiddiau ym Maldwyn a Sir Fôn oedd hwnnw.

Roedd e'n ddwy ar hugain oed wrth fudo a theg yw credu mai dianc rhag moeseg capeli Cymru oedd un o'i gymhellion. O fewn byr o dro ar ôl cyrraedd Sydney roedd yn "byw mewn pechod" gan greu sgandal ymhlith ei deulu Cymreig. Does dim rhyfedd bod fe a Lloyd George wedi dod ymlaen mor dda yn Uwchgynhadledd Versailles!

Mae 'na fwy am Julia Gillard ar flog Cymraeg gorau Awstralia (yr unig un, o bosib) yn Dyma flas o farn Andy Bell ynghylch yr arweinydd newydd.

julia_gillard_.jpg Mae Julia Gillard yn berson go iawn. Mae ei hacen trwynaidd Awstraliaidd a la "Kath & Kim" yn dweud cyfrolau amdani. Fe ddaw o gefndir dosbarth gweithiol (y "battlers") ac mae hi wedi defnyddio pob cyfle addysgiadol a gwleidyddol i symud ymlaen. Mae hynny'n apelio'n fawr at drwch yr etholwyr.

Felly mae gan y genedl (a'r Blaid Lafur) arweinydd newydd y mae'r mwyafrif llethol ohnom yn hoff iawn ohoni.

Cofiwch, nid pawb yn Awstralia sy mor wybodus am Gymru ag Andy.

Dyma i chi ddyfyniad o erthygl yn y "Sydney Morning Herald" o dan y pennawd "Barry goes batty over local girl made good";

But there are more monumental possibilities at Barry library. A bronze of Gwynfor Jones, the Welsh separatist and Barry local who, in 1966, won the first seat for the Welsh nationalist party Plaid Cymru, was unveiled there last year. Now Ms Jones is considering Gillard as a statue. "I would have no objections,'' she said.

O diar.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:55 ar 24 Mehefin 2010, ysgrifennodd Idris:

    Rwy'n cofio clywed sdori am Hughes a Lloyd George yn Versailles.

    Mae'n debyg fod Woodrow Wilson wedi cychwyn mynd yn 'paranoid' ynghylch yr adegau pan fyddai'r ddau yn troi at ei gilydd i siarad yn Gymraeg, yn aml tu ol i gefn Wilson oedd yn eistedd rhynddyn nhw. Cafodd Wilson afael ar gyfieithydd i adrodd ar gynnwys y sgyrsiau dirgel yma, a chanfod fodd y ddau ddim ond yn troi at y Gymraeg i regi a diawlio'i gilydd!

  • 2. Am 12:14 ar 24 Mehefin 2010, ysgrifennodd Mabon:

    Yn 1916 roedd yna hanner Cymro, Charles Evans Hughes (mab i Gymro Cymraeg) yn sefyll am arlywyddiaeth America dros y Gweriniaethwyr. Collodd yntau i Woodrow Wilson o rai miloedd o bleidleisiau yn unig. Pe byddai wedi ennill byddai 3 o arweinwyr mwyaf pwerus y byd wedi bod yn Gymry!
    (Charles Evans Hughes Sr. oedd un o bobl mwyaf dylanwadol yr UDA yn hanner cyntaf yr G20. Doedd e ddim yn siaradwr Cymraeg ei hun, llwyddodd ei dad, oedd yn weinidog o Gymru, i ymdoddi i'r ffordd Americanaidd yn llwyr ac doedd gan Charles ddim cysylltiad a nesaf peth i ddim ymwybyddiaeth o'i deulu yng Nghymru...doedd e ddim felly yn Gymro, ond mae'n gwneud stori fach neis!)

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.