Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Peter Walker

Vaughan Roderick | 12:56, Dydd Mercher, 23 Mehefin 2010

_48150510_peterwalker.jpgMae'n un o gonglfeini ffydd y chwith yng Nghymru bod Margaret Thatcher yn gwbwl anwybodus a di-hid ynghylch Cymru a'i hanghenion. Mae 'na ambell i aelod Cynulliad sy'n methu gwrthsefyll y demtasiwn i godi bwganod Thatcheriaeth ar bob cyfle posib gan gyplysu ei henw yn amlach na pheidio ag un John Redwood.

Mae'n hawdd anghofio felly mai penodiad John Major nid Margaret Thatcher oedd John Redwood. Roedd y ddau aelod o Loegr a benodwyd gan Mrs Thatcher i fod yn benaethiaid ar y Swyddfa Gymreig yn wahanol i aelod Wokingham.

Roedd Peter Walker a David Hunt ill dau yn Geidwadwyr cymhedrol yn perthyn i draddodiad "un genedl" Macmillan a Heath. Cafodd y ddau rwydd hynt gan y Prif Weinidog i ddilyn polisïau gwahanol iawn i'r rhai yr oedd hi ei hun yn pregethu.

Cyhoeddwyd y bore yma bod Peter Walker (Arglwydd Walker o Gaerwrangon bellach) wedi marw yn 78 oed. Dwi'n meddwl mai fi yw'r unig un o staff gwleidyddol y Ö÷²¥´óÐã oedd o gwmpas yn ei gyfnod e. Rwy'n teimlo'r angen i sgwennu pwt amdano felly.

Roedd penodiad Peter Walker yn Ysgrifennydd Cymru yn 1987 yn gythraul o sioc i bawb. Doedd y syniad y gallai aelod o Loegr gael ei benodi'n Ysgrifennydd Cymru erioed wedi croesi meddyliau ni'r newyddiadurwyr. Gyda Nicholas Edwards yn rhoi'r ffidl yn y to roedd pawb yn cymryd yn ganiataol mae Wyn Roberts fyddai'n ei olynu.

Roedd y ffaith bod Peter Walker wedi derbyn y swydd hefyd yn syndod. Wedi'r cyfan, roedd Peter wedi bod yn Ysgrifennydd yr Amgylchedd, yn Ysgrifennydd Diwydiant a Masnach ac yn Ysgrifennydd Ynni. Oni fyddai'n gweld cynnig o "gilfach gefn" fel Cymru yn sarhaus braidd?

Ond doedd Peter ddim yn ddyn oedd yn bryderus am statws ac o fewn byr o dro roedd hi'n amlwg pam ei fod derbyn y cynnig. Ef oedd yr Ysgrifennydd Ynni yn ystod streic y glowyr. Roedd yn gadarn o'r farn bod honno'n frwydr yr oedd yn rhaid i'r Llywodraeth a'r Bwrdd Glo ei hennill ond roedd e hefyd yn ymwybodol iawn o'r llanast economaidd a chymdeithasol fyddai'n dilyn yn y meysydd glo.

Dod i Gymru i geisio lleddfu'r effeithiau hynny wnaeth Peter. Conglfaen ei gyfnod yn y Swyddfa Gymreig oedd "Cynllun y Cymoedd". Crafwyd am geiniogau ym mhobman i dalu am grwsâd i ddod a gwaith i faes glo'r de. Codwyd ffatrïoedd parod a chynigiwyd grantiau hael i ddenu cyflogwyr i'r ardal. Defnyddiodd Peter ei gysylltiadau personol ym myd bancio hefyd i ddarbwyllo busnesau i fuddsoddi yn y meysydd glo.

Mae'n anodd felly anghytuno a'r hyn y dywedodd ei deulu mewn datganiad y bore 'ma;

"As a politician, he always believed in the importance of helping those most in need, combining efficiency with compassion. He was a true one-nation Conservative and a patriot. His great personal compassion was always reflected in his private life."

Y tristwch yw na phrofodd Cynllun y Cymoedd yn llwyddiant yn y tymor hir. Fe'i lansiwyd mewn stad o swyddfeydd parod ar safle hen lofa'r Cambrian yn y Rhondda, pwll lle'r oedd nifer o fy nheulu yn gweithio fel mae'n digwydd.

Yn ei araith fe broffwydodd Peter y byddai cwmnïau newydd beiddgar yn ymgartrefu yng Nghlydach Vale o fewn byr o dro. Ni ddigwyddodd hynny.

Mae'r swyddfeydd dal yno ond gweithwyr sector cyhoeddus sef rhai Cyngor Rhondda Taf sy'n eu defnyddio nid cwmnïau preifat.

O fewn yr wythnosau nesaf mae'n debyg y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn troi ei chefn yn derfynol ar y "diwylliant grantiau" oedd yn ganolog i athroniaeth Peter Walker
ond o leiaf fe wnaeth ei orau a gwneud hynny'n ddidwyll a bonheddig. O'r holl Ysgrifenyddion Gwladol roedd Peter Walker yn un o'r goreuon.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:08 ar 23 Mehefin 2010, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Fe wnaeth dad weithio gyda fe yn y Swyddfa Gymreig ac yn dweud ei fod yn foi olreit. Yn anffodus i Gymru o dan llywodraeth Geidwadol newydd, mi roedd e ben a ysgwyddau yn uwch na deiliad presennol y swydd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.