Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Am wythnos!

Vaughan Roderick | 17:27, Dydd Gwener, 2 Gorffennaf 2010

Mae hon wedi bod yn wythnos hir. Os ydych eisiau gwybod sut rwy'n teimlo cymerwch gip ar flog .

Mae gen i ychydig o glecs ynghylch ymgeiswyr cynulliad i gyd o'r de-ddwyrain y tro hwn. Mae'n debyg bod Angela Jones Evans am herio David Melding am enwebiad Ceidwadol Bro Morgannwg. Efallai na fydd David yn cael pethau mor hawdd â'r disgwyl!

Mae Neil McEvoy o Blaid Cymru sy'n ddirprwy arweinydd Cyngor Caerdydd yn wynebu sefyllfa debyg yng Ngorllewin Caerdydd lle mae son bod Elin Tudur yn cynnig ei henw.

Draw yng Nghanol Caerdydd mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi llunio rhestr fer o ymgesiwyr i olynnu Jenny Randerson. Mae'n cynnwys dau aelod arall o Gabinet Cyngor Caerdydd sef arweinydd y Cyngor Rodney Berman a Nigel Howells.

A son am Ganol Caerdydd mae Llafur yn hynod o obeithiol yn ei chylch o gofio bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill dros hanner y pleidleisiau yn 2007 ac yn dal pob un sedd cyngor. Mae'n wir bod pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gostwng yn sylweddol yn yr etholaeth yn yr etholiad cyffredinol ond mae 'na glamp o fwyafrif i'w gwyrdroi. Oes arf dirgel gan Lafur, tybed?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:28 ar 3 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Monwynsyn:

    Wyt ti yn awgrymu bod Eluned Morgan yn barod i roi ei henw ymlaen ???

  • 2. Am 15:08 ar 4 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Negrin:

    Angela Jones Evans hefyd yn rhoi mewn am Gorllewin Casnewydd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.