Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cwis Haf (2)

Vaughan Roderick | 12:21, Dydd Mawrth, 27 Gorffennaf 2010

question_mark_203x152.jpgGwleidyddion a chysylltiadau Cymreig gwnaeth wneud eu marc y tu allan i Gymru yw thema'r cwis y tro hwn. Unwaith yn rhagor ni fydd atebion na sylwadau'n ymddangos am rai dyddiau.

1. Mae nifer o Gymry Cymraeg wedi cynrychioli etholaethau y tu allan i Gymru. Pwy oedd y Cymry wnaeth gynrychioli South Bedfordshire a Newcastle upon Tyne North?

2. Pa gyn-fyfyriwr yng Ngholeg Efengylaidd y Barri wnaeth ddiweddu ei yrfa wleidyddol fel Prif Weinidog?

3. Ar thema debyg pa dduw (ac eithrio'r un amlwg) oedd a chysylltiad agos a Choleg Beiblaidd Cymru yn Abertawe?

4. Yn lle mae "palas" presenol brenin Kalat?

5. Pwy yw'r unig Gymro Cymraeg sy'n arwain plaid Brydeinig ar hyn o bryd?

6. Enwch y pump aelod seneddol ac etholaethau yng Nghymru sydd wedi arwain Llafur ar lefel Brydeinig.

7. Beth yw cysylltiad Dr Barham Salih, Prif Weinidog Kwrdistan a Chymru?

8. Pa wladweinydd amlwg wnaeth ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol yn 1908 fel gwestai i Lloyd George?

9. Pa wleidydd o Lanelli wnaeth gynrychioli'r erlyniad yn Nuremburg a phwy o blith y diffynyddion wnaeth dreulio rhan helaeth o'r rhyfel yn y Fenni?

10. Pa stryd sy'n cysylltu Ysgrifennydd Cartref a dau o sêr yr opera? Enwch y stryd, y pentref, y gwleidydd a'r ddau ganwr.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:55 ar 27 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Guto Dafydd:

    1. Mae nifer o Gymry Cymraeg wedi cynrychioli etholaethau y tu allan i Gymru. Pwy oedd y Cymry wnaeth gynrychioli South Bedfordshire a Newcastle upon Tyne North?
    Gwilym Roberts / Gwilym Lloyd George

    2. Pa gyn-fyfyriwr yng Ngholeg Efengylaidd y Barri wnaeth ddiweddu ei yrfa wleidyddol fel Prif Weinidog?
    Ian Paisley

    3. Ar thema debyg pa dduw (ac eithrio'r un amlwg) oedd a chysylltiad agos a Choleg Beiblaidd Cymru yn Abertawe?
    Haile Selassie I, a gaiff ei ystyried yn ymgnawdoliad o Iesu gan y Rastaffariaid

    4. Yn lle mae "palas" presenol brenin Kalat?
    TÅ· tair llofft yng Nghaerdydd

    5. Pwy yw'r unig Gymro Cymraeg sy'n arwain plaid Brydeinig ar hyn o bryd?
    Robert Griffiths, Comiwnyddion

    6. Enwch y pump aelod seneddol ac etholaethau yng Nghymru sydd wedi arwain Llafur ar lefel Brydeinig.
    Keir Hardy, Aneirin Bevan, Jim Callaghan, Michael Foot, Neil Kinnock

    7. Beth yw cysylltiad Dr Barham Salih, Prif Weinidog Kwrdistan a Chymru?
    PhD mewn bioleg o Brifysgol Cymru, Caerdydd

    8. Pa wladweinydd amlwg wnaeth ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol yn 1908 fel gwestai i Lloyd George?
    Winston Churchill

    9. Pa wleidydd o Lanelli wnaeth gynrychioli'r erlyniad yn Nuremburg a phwy o blith y diffynyddion wnaeth dreulio rhan helaeth o'r rhyfel yn y Fenni?
    Frederick Elwyn Jones / Rudolf Hess

    10. Pa stryd sy'n cysylltu Ysgrifennydd Cartref a dau o sêr yr opera? Enwch y stryd, y pentref, y gwleidydd a'r ddau ganwr.
    William Street, Cilfynydd, Merlyn Rees, Geraint Evans, Stuart Burrows

  • 2. Am 15:03 ar 27 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Antonin:

    1)a)? b)Gwilym Lloyd George
    2)Y Parch Ian Paisley
    3) y Tywysog Phillip?
    4) Dim cliw
    5) Ieuan Wyn Jones?
    6) a)Keir Hardy; b) Ramsay MacDonald; c) James Callaghan; ch) Michael Foot; d) Neil Kinnock
    7) Wedi astudio yng Nghymru?
    8) Winston Churchill?
    9) a) Elwyn Jones b)Rudolf hess?
    10) Roy Jenkins, Stuart Burrows, a Dennis O’Neal. Sai’n cofio enw’r stryd na’r pentre.

  • 3. Am 16:37 ar 27 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Dewi:

    1. Gwilym Roberts & Gwilym Lloyd George
    2. Ian Paisley
    3. Haile Selassie
    4. Caerdydd
    5. Robert Griffiths?
    6. Kinnock, Macdonald, Callaghan, Foot a Hardie?
    7. Graddio o Gaerdydd
    8. Churchilll
    9. Frederick Elwyn Jones, Hess.
    10.William Street, Cilfynydd, Merlyn Rees, Geraint Evans, Stuart Burrows

  • 4. Am 12:46 ar 30 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Guto Dafydd:

    Drato, ddaru Bevan erioed arwain Llafur naddo! Schoolboy error.

  • 5. Am 15:10 ar 30 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Dewi:

    Os dwi'n ennill yr un nesaf dwi'n cael cadw'r cwmpan?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.