Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hirfelyn Tesog

Vaughan Roderick | 10:08, Dydd Mawrth, 20 Gorffennaf 2010

beach_donkey_203x152.jpgMae'r haf wedi cyrraedd a bydd, fe fydd 'na gwis yn y man!

Cyn hynny mae 'na wythnos fach ddifyr o'n blaenau. A siarad o brofiad weithiau mae 'na ambell i gyhoeddiad y mae llywodraethau'n dymuno ei wneud ar ôl i'r gwleidyddion ddiflannu. A fydd un o'r rheiny'r wythnos hon? Fe gawn weld.

Yn y cyfamser mae 'na bost hynod ddifyr draw ar ynghylch pa mor anodd fydd hi i Lafur sicrhau mwyafrif yn y Cynulliad flwyddyn nesaf hyd yn oed os oes 'na gynnydd sylweddol yn ei phleidlais.

Heb os mae Cai yn llygad ei le wrth ddweud bod natur rannol gyfrannol system bleidleisio'r Cynulliad yn milwrio yn erbyn Llafur y tro nesaf. Mae hynny oherwydd ei bod wedi gweithio o'i phlaid yn 2007 pan enillodd hi 43% o'r seddi gyda 32% o'r bleidlais.

Y cwestiwn syml i Lafur yw o ble mae'r mwyafrif i ddod? Yn 2003, yr unig dro i Lafur ennill rhyw fath o fwyafrif gwnaethpwyd hynny trwy ganolbwyntio'i holl egni ac adnoddau ar bedair sedd o eiddo Plaid Cymru sef Islwyn, Rhondda, Llanelli a Chonwy. Mae 26 sedd gan Lafur ar hyn o bryd. O gymryd bod y blaid yn gallu eu dal nhw i gyd ( ac mae un neu ddwy yn ymddangos yn simsan) o ble mae'r pedair sedd i ddod y tro nesaf?

Blaenau Gwent sydd ar frig y rhestr, wrth reswm. Ar ôl yr hyn ddigwyddodd yno yn yr Etholiad Cyffredinol fe fyddai dyn yn disgwyl i honno ddisgyn yn weddol hawdd. Mae'r fathemateg yn awgrymu bod 'na sedd i'w hennill yn rhanbarth y Gorllewin a'r Canolbarth hefyd. Trydedd sedd restr fyddai honno fwy na thebyg ond fe fyddai'n rhaid ymdrechu'n galed ym mrwydrau etholaethol seddi Sir Benfro a Llanelli i'w chael hi.

Ar ôl hynny mae popeth yn "long shot" i Lafur. Fe fyddai'n rhaid edrych ar seddi fel Gorllewin Clwyd a Gogledd Caerdydd y mae Llafur wedi eu dal yn y gorffennol neu obeithio am drychineb i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghanol Caerdydd neu i Blaid Cymru ar Ynys Môn. Dydw i i ddim yn rhagweld y bydd y naill drychineb na'r llall yn digwydd.

Serch hynny mae 'na un arweinydd Plaid allai golli ei sedd tro nesaf ac nid Ieuan yw hwnnw. Pe bai'r Ceidwadwyr yn llwyddo i gipio sedd etholaeth Maldwyn fel gwnaethon nhw yn yr Etholiad Cyffredinol mae hi bron yn sicr y byddai Nick Bourne yn colli ei sedd restr.

Yn wir mae ambell Ceidwadwr wedi awgrymu i mi y dylai Nick ymgeisio yn erbyn Kirsty ym Mrycheiniog a Maesyfed yn y gobaith na fydd pobol Ystradgynlais yn rhoi pleidlais dactegol i Kirsty y tro nesaf. Dyw Nick ddim am wneud hynny.

Piti. Fe fyddai hi'n gythraul o ffeit!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:06 ar 20 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Paul Rowlinson:

    Dwi ddim yn derbyn bod y system bleidleisio "yn milwrio yn erbyn Llafur". Rydych chi a Cai yn sôn am ba mor annodd y mae hi i Lafur (neu unrhyw blaid arall) ennill 50% o'r seddi gyda dim ond rhyw 40% o'r pleidleisiau - fel yn 2003. Ond petaen nhw'n llwytho i ennill 50% o'r pleidleisiau, sef cynnydd o 18% ers 2007, buasen nhw'n ennill yr holl seddi rydych yn eu crybwyll a seddi eraill hefyd, a chael mwyafrif cyffyrddus iawn.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.