Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Troi Tudalen

Vaughan Roderick | 09:47, Dydd Iau, 22 Gorffennaf 2010

transmitter_bbc226.jpgTra eich bod yn crafu eich pennau dros y cwis haf cyntaf rwyf am droi at y rhestr ddarllen ac un neu ddwy o gyfrolau difyr.

Dydw i ddim wedi darllen gan Jamie Medhurst eto ond eisoes mae'n destun dadlau ffyrnig. Mae Huw Davies cyn brif weithredwr HTV Cymru wedi danfon homar o e-bost i'r byd a'i wraig (neu aelodau'r Royal Television Society o leiaf) yn lambastio'r llyfr. Mae Huw'n addo y bydd ei adolygiad llawn yn cael ei gyhoeddi yn y man ond dyma flas ohono;

I am not familiar with the ways of higher academe, but since this is presented as an academic work from a senior lecturer at Aberystwyth University and published by the University of Wales Press one might have presumed that the final draft was shown to the chair of the faculty or the relevant Professor. Can one imagine the conversation? Would it have been this kind of thing?

Senior Person: Why is it, Medhurst, that you write the History of Independent Television in Wales and to all intents and purposes ignore the largest section of your subject?

Author: "I'm afraid, sir, that the dog ate my homework for that period. However, last night I put together a few pages of impressions from some assorted sources and I'm sure that will suffice.

Senior Person: Very well then. You may go to press. Good luck.

Prif gŵyn Huw yw bod llyfr yn dwyn yr enw "A History of Independent Television in Wales" mwy neu lai'n anwybyddu Harlech/HTV gan ganolbwyntio ar ddyddiau TWW a Theledu Cymru. Os felly mae teitl y llyfr yn anffodus a dweud y lleiaf.

Cyfrol arall rwy'n ei darllen ar hyn o bryd yw astudiaeth Graham Davies o agweddau tuag at Islam mewn llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig dros yr wyth gan mlynedd diwethaf. Mae 'na lawer mwy o gyfeiriadau na fyddai dyn yn disgwyl ac fel y gyfrol gyffelyb ynghylch Iddewiaeth mae'n agoriad llygad.

Ar ffurf llawysgrif mae llyfr Graham ar hyn o bryd - fe fydd yn rhaid i chi aros am ychydig felly!

Yn y cyfamser mae'n werth darllen "" cyfrol hynod ddarllenadwy sy'n adrodd hanes tranc y Teigr Celtaidd yn yr Iwerddon. Fe ddes i ambell i gasgliad perthnasol wrth ei ddarllen. Yn eu plith mae'r rhain.

1. Doedd torri'r dreth gorfforaethol ddim yn syniad da, wedi'r cyfan.

2. Dyw'r ffaith bod pawb ar delerau enw cyntaf a gwleidydd ddim yn gwarantu ei onestrwydd.

3. Dyw system gynrychiolaeth gyfrannol STV ddim hanner cystal â hynny.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:31 ar 22 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd blogmenai:

    Dwi heb ddarllen y Ship of Fools - ond mi fyddwn yn gwneud y sylwadau canlynol.

    STV - mae iddo rai anfanteision, ond ei brif fantais yw bod y pwer i ddewis aelodau yn cael ei drosglwyddo i raddau helaeth i'r etholwyr. i'r graddau yna mae'n gwbl wahanol i'n dull rhanbarthol ni sy'n rhoi'r holl rym yn nwylo peiriannau pleidiau.

    Treth corfforiaethol - 'dwi'n cymryd mai awgrymu mae'r llyfr i hyn arwain at or ddibyniaeth ar fuddsoddiad o'r tu allan. Cynllunio economaidd ehangach oedd yn gyfrifol am hyn yn hytrach na threth corfforiaethol isel ynddo'i hun.

    Mae yna hanes hir o ddiffyg gonestrwydd ymysg gwleidyddion Gwyddelig. Mae hyn yn tarddu'n rhannol o ddiwylliant o ddiffyg parch at asiantaethau'r wladwriaeth sy'n dyddio'n ol i'r amser pan mai Prydain oedd yn rheoli. Mae'r anffurfioldeb cymdeithasol ymysg Gwyddelod yn dyddio'n ol i'r cyfnod pan roedd Pabyddion i gyd yn cael eu hystyried fel aelodau o is ddosbarth. Nid yr anffurfioldeb sy'n creu'r anonestrwydd, ond mae gwreiddiau'r anffurfioldeb a'r anonestrwydd yn dod o'r un lle.

  • 2. Am 21:38 ar 22 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'n werth darllen y llyfr!

    Dydw i ddim yn gwybod ydy'r dadleuon yn gywir ai peidio.

    Y ddadl yw bod STV yn creu sefyllfa lle mae ymgeiswyr pleidiau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Oherwydd hynny mae diwyllaint "look after your number ones" wedi datblygu lle mae ffafrau i gefnogwyr yr unigolyn yn bwysicach na gonestrwydd neu ddisgybaeth plaid.

    O safbwynt y dreth gorfforaethol y pwynt mae'r llyfr yn gwneud oedd bod hynny wedi denu llu o gwmniau oedd ond yn gweithredu "ar bapur" yn y Weriniaeth. Roedd ofn colli treth y cwmniau hynny'n golygu nad oedd cwmniau a banciau go iawn yn cael eu rheoleiddio'n gywir.

  • 3. Am 22:39 ar 22 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd blogmenai:

    Roedd diffyg rheolaeth ar fanciau ac ati yn nodwedd o'r economiau Eingl Sacsonaidd (os cawn ni gategorio iwerddon felly am ennyd). 'Dydi'r cysylltiad efo treth corfforiaethol isel ddim yn un amlwg i mi.

    Mae i'r agwedd ti'n son amdano ar STV ddwy ochr. Ar y naill llaw mae'n creu fficsars lleol - y gombeen man diarhebol. Ond ar y llaw arall mae'n creu TDs sydd yn gweithio yn hynod o galed. Fedri di ddim eistedd ar sedd saff fel y gwneir yn aml ym Mhrydain - mae yna pob amser gystadleuaeth o dy ochr dy hun.

  • 4. Am 11:56 ar 23 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd ³§¾±Ã´²Ô:

    Darllennais y llyfr dros y Dolig ac mae'n sicr yn un dylsai bawb ei ddarllen. Roedd yn edrych i mi fel fod politi Iwerddon yn gyfuniad o ddwy elfen sydd ganddom ni yng Nghymru sef elfennau gwaetha o gynghorwyr a llywodraeth leol wledig 'annibynnol' Cymru ac yna'n genedlaethol teyrnasiad unblaideidol sydd wedi seilio ei gwleidyddiaeth ar yr hyn a ddigwyddodd yn yr 1920au a'r 30au!

    Faswn i ddim yn dod i'r un casgliad a thi Vaughan. Y gwersi i'r Iwerddon (ac i Gymru) hyd y gwela i yw:

    1. Yr angen am Treth Gwerth Tir neu o leiaf elfen ohono, neu fan bella' yn achos Iwerddon, eu bod yn cadw at y deddfau oedd yno eisoes yn hytrach na'u torri! Roedd cnewyllyn o bobl yn gwneud llwyth o bres o 'banciau tir' h.y. prynu tir, gwneud dim ag e, aros i'w werth godi (codi achos llafur a buddsoddiad pobl eraill fel arfer) ac yna ei werthu yn ôl, yn aml am grocpris i'r wladwriaeth. Byddai TGT yn ei gwneud yn anatyniadol i brynu tir a sefyll arno gan ei fod yn trethu tir yn hytrach an llafur. O gofio fod tir yn gwerth dim heb lafur pobl h.y. pobl yn adeiladu gorsaf drên, ysgol etc, pam ddyliau person wneud lot o bres ar gefn llafur pobl eraill?

    2. Peidio twyllo eu hunain o'i gallu Mediwsaidd gyda'r economi a dechrau astudio effaith demograffeg ar yr economi. Mae gwefan yn astudio effaith demograffeg ar yr economi ac mae'n werth cael cip arno. Byddai rhoi demograffeg yn sail i'n hastudiaeth o economeg yn ychwanegu at ein dealltwriaeth ohono ac o gymdeithas ac golygu ein bod yn fwy gonest gyda'n hunain am yr her sy'n ein gwynebu neu'r ffawd lwcus sy'n digwydd i ni. Yn achos Iwerddon, fel dywed Fintan, roedd y cyfuniad demograffaidd o swpyn mawr o bobl ifanc addysgiedig yn bwrw'r farchnad ar ddechrau'r 1990au yn ei gwneud yn anorfod bron na fyddai 'na rhyw fath o bŵm economaidd.

    3. Des i ddim i'r casgliad fod STV yn wael Vaughan. Doedd hynny'n edrych fel petai o ddim bwys un ffordd neu'r llall. O safbwynt Cymru, byddai STV o fantais gan y byddai'n lleihau'r sefyllfa o un blaid yn tra-arglwyddiaethu ar y sefyllfa wleidyddol fel sydd ganddom ar hyn o'r bryd. Byddai STV yn dod â sawl plaid a safbwynt ac (efallai'n bwysicach) unigolyn i reoli Cymru yn hytrach na'r un blaid fel sydd ganddom ar hyn o'r bryd.

    O ddarllen y llyfr daeth Iwerddon i ymdebygu i rhyw 'weriniaeth datws' gyda lot o bobl o gefndir cymharol tlawd wedi gwneud lot o bres dros nos ac yna'r holl wlad wedi prynu fewn i pyramid scheme anferth. Ac yna dosbarth rheoli, fel un Gordon Brown, yn credu eu bod wedi 'datrys' y sefyllfa economaidd.

    Roedd y diffyg dadansoddiad o wleidyddiaeth dosbarth, fel sy'n gallu digwydd mewn etholaethau gwledig, ond fel ddigwyddodd hefyd gyda'r Blaid Lafur ym Mhrydain, yn golygu nad oedd fawr neb i gwestiynnu holl sail y llewyrch dros dro.

  • 5. Am 16:50 ar 23 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Gwnes i ddim dweud bod STV yn system wael. Mae pob system etholiadol a phroblemau'n perthyn iddi. Doedd y ffaith y gallasai STV arwain at ddiwylliant o "ffafrau" ddim wedi fy nharo o'r blaen. Y pwynt oeddwn i'n ceisio gwneud oedd bod diwygwyr etholiadol yng Nghymru yn tueddu gweld STV fel rhyw fath o "gold standard". Fel y dywedais i dy hi ddim cystal a hynny. Fel pob cyfundrefn arall mae ganddi fanteision ac anfanteision.

  • 6. Am 13:10 ar 26 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd SMDC:

    Dwi wedi darllen Ship of Fools ac mae'n agoriad llygad i weld pa mor llwgwr oedd gwleidyddiaeth Iwerddon. Tebyg iawn i rai o'n cynghorau ni, mae'n debyg.

    Fy mhrif gasgliadau i o'r llyfr yw:

    - bod angen i Gymru fod yn llygad-agored ynghylch y manteision a'r bygythiadau i genhedloedd bach a dysgu gwersi o lwyddiannau a chamgymeriadau cenhedloedd bach eraill a pheidio trio copio cenhedloedd llawer mwy o faint
    - bod angen treth gwerth tir yng Nghymru er mwyn osgoi sefyllfa lle taw'r banciau a pherchnogion tir sy'n elwa o bob buddsoddiad cyhoeddus ac er mwyn creu cymdeithas mwy cyfartal a fydd yn llai tebygol o fod yn llwgwr

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.